Ffilmiau i’w lawrlwytho

Mae’r setiau isod o ffilmiau ar gael i’w lawrlwytho. Cliciwch ar glawr y set i weld beth sydd ar gael.


graffeg2
graffeggraffeg3 graffeg5

graffeg6

Noder hefyd fod modd prynu’r ffilmiau uchod ar ddisgiau DVD

montage-dvds

DVD Beibl Bach i Blant – 1:Hen Destament, 2:Testament Newydd
£9.99 yr un
Ar y casgliad yma o DVDs ceir 64 o ffilmiau 5 munud yn seiliedig ar y Beibl lliw poblogaidd Beibl Bach i Blant.

DVD Beibl Bach Stori Duw – Casgliad o 4 DVD
£5.99 yr un
Ar y casgliad yma o DVDs ceir 44 o ffilmiau 5 munud yn cael eu darllen gan Eirian Wyn, yn seiliedig ar y Beibl lliw poblogaidd Beibl Bach Stori Duw.

Sampl:

getimg-2Stryd Luc
£3.99
DVD yn cynnwys 8 ffilm fer o straeon cyffrous o efengyl Luc yn cael eu hadrodd gan Gwion Hallam.

Stori Duw
£14.99
52 o storïau Beiblaidd pum munud i blant yn cael eu darllen gan Mici Plwm – o’r diwedd y casgliad cyfan o 52 stori ar gael ar 2 DVD.

Gŵr y Gwyrthiau
£9.99
Dyma gyfle arbennig i chi gael y ffilm arbennig hon i’w chadw a’i thrysori ar DVD. Gyda llais Ioan Gruffudd fel Iesu a chast cryf, talentog, mae hon yn ffilm sy’n adrodd stori gyfarwydd Iesu mewn arddull unigryw.