Llan Llanast

Mae addasiad Cymraeg o ddeunydd Messy Church ar gael yn Gymraeg. Mae dau lyfr yn y gyfres ar gael sef:

llan llanast 1dechrau-messy-church

Prynu ‘Llan Llanast’ ar Gwales Prynu ‘Cychwyn eich Llan Llanast’ ar Gwales

Os am fanylion o holl adnoddau Messy Church cliciwch yma.

Llan Llanast – cyfle i gyrraedd teuluoedd

Ydych chi wedi clywed am Llan Llanast? Efallai eich bod wedi clywed am Messy Church, sef yr enw Saesneg ar y fenter hon gan eglwysi/capeli i gyrraedd teuluoedd. Math o eglwys yw Llan Llanast, digwyddiad i’w gynnal yn ystod yr wythnos neu ar y penwythnos sy’n addas ar gyfer plant ac oedolion. Mae eglwysi sydd wedi mynd ati i gynnal Llan Llanast wedi gweld ei fod yn ffordd dda i wneud rhywbeth newydd ar gyfer pobl sydd heb gysylltiad cyson â chapel neu bobl nad ydynt erioed wedi mynychu capel.

Beth yn union yw Llan Llanast?

Mae Llan Llanast yn eglwys yn ei hawl ei hun. Nid yw’n dilyn fformat traddodiadol capel oherwydd y nod yw darparu rhywbeth sy’n addas ar gyfer teuluoedd sydd heb fynychu eglwys o’r blaen. Ni ddylid ei wneud chwaith er mwyn denu mwy o bobl i’r cwrdd ar ddydd Sul; er y gallai hyn fod yn ganlyniad i Llan Llanast – nid dyna’r bwriad. Fel arfer, digwyddiad misol neu dymhorol ydyw, ond eto gall hyn amrywio.

Os oes gennych rai o’r amcanion isod, efallai bod Llan Llanast yn rywbeth y dylech ei ystyried:

– rydych eisiau gwneud disgyblion i Iesu Grist;
– hoffech gynnal ‘egwlys’ sy’n addas ar gyfer pobl ar bob cam o daith ffydd;
– hoffech gyrraedd teuluoedd heb gysylltiad â chapel neu eglwys;
– hoffech ddangos pwy yw Iesu i deuluoedd drwy waith crefft, cymdeithasu a dysgu anffurfiol.

Beth sy’n digwydd mewn Llan Llanast?

Mae pedair elfen i’r digwydd. Bydd Llan Llanast yn para tua awr a hanner i ddwyawr fel arfer. Rhaid dewis lleoliad addas – byddai festri neu neuadd gyda digon o ofod yn dda ond rhaid gwneud yn siŵr ei fod yn leoliad sy’n addas i blant. Dyma’r elfennau:

1. Croeso – mae croesawu pobl yn bwysig iawn ac yn gyfle i esbonio’n glir i’r rhieni beth fydd yn digwydd fel modd i’w gwneud i deimlo’n gartrefol.

2. Crefft – dylid ceisio cynllunio sawl bwrdd gyda chyfle i wneud crefft arnynt sy’n gysylltiedig â thema neu stori o’r Beibl. Dylid sicrhau fod amrywiaeth o grefft at bob oed. Bydd rhieni a phlant yn gwneud y crefft gyda’i gilydd. Dyma amser pwysig i bobl ddod i adnabod ei gilydd, creu perthynas a dysgu yn anffurfiol yr un pryd.

3. Dathliad – dyma gyfnod byr – 10-15 munud ar y mwyaf – i ganu cân, dweud y stori sy’n gysylltiedig â’r crefft a gweddïo. Bydd y stori yn dod â’r elfennau y dysgwyd amdanynt yn y cyfnod o wneud crefft ynghŷd. Cyfle i ddathlu Duw, gwaith achubol Iesu ar y groes, ein bywyd fel cymuned Llan Llanast a theulu.

4. Bwyd – bydd y math o bryd a ddarperir yn ddibynnol ar yr adnoddau ar gael. Annogir pobl i eistedd o gwmpas byrddau/blancedi picnic a chymdeithasu wrth fwyta – darlun o wledd teyrnas Dduw lle mae pawb yn perthyn!

Trwy’r bedair elfen hon, y nod yw rhoi cyfle i bobl adeiladu perthynas ac i’r tîm Llan Llanast ddangos pwy yw Duw mewn gair a gweithred. Mae hefyd yn ffordd o ddathlu Duw ac adlewyrchu ei natur greadigol Ef. Wrth groesawu pobl sydd ar gyrion y capel hefyd, mae lletygarwch yn bwysig iawn a pharodrwydd i fod yn rasol ar gyfer anghenion gwahanol deuluoedd.

Os yw’r syniad yn apelio, mae llawer i feddwl amdano cyn mynd ati. Y peth cyntaf yw ceisio cefnogaeth y capel, gofyn i bobl i fod yn rhan o’r tîm trefnu; y mae’n fath o ddigwyddiad sy’n elwa o gydweithio felly byddai’n werth ystyried trefnu ar y cyd â chapeli neu eglwysi eraill sydd hefyd â baich dros deuluoedd.

Os hoffech esbonio’r syniad yma i’ch capel, beth am ddefnyddio’r cyflwyniad PowerPoint yma i’ch helpu? Mae nodiadau o dan bob sleid i’ch helpu hefyd. Mae’n bwysig cael cefnogaeth yr eglwys cyn dechrau menter fel Llan Llanast ac er mwyn tynnu tîm am ei gilydd i gydweithio arno. Gallwch llawrlwytho’r cyflwyniad yma.

Posteri Llan Llanast

Rydym wedi cynhyrchu tri poster ar ffurf JPG sy’n addas i’w gosod fel cefndir i greu poster neu garden gwahoddiad i’ch Llan Llanast chi. Lawrlwythwch y JPGs a’u gosod fel cefndir yn Word, Publisher neu raglen debyg.

posteri llan llanast3 posteri llan llanast2 posteri llan llanast