beibl.net

beibl.net i bobl ifanc
Mae hwn yn Feibl newyd sbon sy’n defnyddio testun poblogaidd beibl.net ac a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â phobl ifanc. Mae hwn yn Feibl safonol clawr caled sy’n benodol ar gyfer pobl ifanc, yn yr iaith Gymraeg ac yn llawn gwybodaeth a ffeithiau diddorol.

Yn ogystal â thestun llawn beibl.net ceir hefyd:

  • Dolenni i 30 fideo (sydd ar gael ar YouTube) sy’n dadbacio themâu o’r Beibl.
  • Cannoedd o elfennau rhyngweithiol drwy’r Beibl i gyd sy’n eich annog i gloddio’n ddyfnach.
  • Gofod gwag er mwyn medru ysgrifennu, dwdlan a thynnu lluniau ar y dudalen.
  • Cyflwyniad un dudalen i bob llyfr yn y Beibl, sy’n esbonio am beth mae’n sôn a sut mae’n ffitio i mewn i’r stori fawr.
  • 32 tudalen liw o bethau allweddol i’w dysgu am y Beibl.
  • Help gyda phynciau anodd, a gofod i gadw nodiadau personol.

Dyma Feibl sy’n helpu pobl ifanc i ganfod eu hymatebion eu hunain i neges oesol y Beibl mewn ffordd sy’n berthnasol i’w bywydau.

Cliciwch YMA i weld sampl.

Ffilmiau beibl.net i bobl ifanc
I gyd-fynd â’r beibl newydd hwn mae Cymdeithas y Beibl wedi creu 30 o ffilmiau sy’n addas ar gyfer pobl ifanc i’w gwylio yn rhad ac am ddim.
Cliciwch YMA i fynd i sianel TCC i’w gweld.

Ydych chi’n adnabod unrhyw bobl ifanc Cymraeg eu hiaith fyddai’n hoffi gwybod mwy am y Beibl? Cymerwch gip ar beibl.net – i bobl ifanc, Beibl newydd i Ieuenctid, ar gael yn Gymraeg. Y bwriad yw helpu pobl ifanc i edrych, meddwl, dysgu, lliwio, gweithredu, creu – ac i’r
cyfan apelio at unrhyw berson ifanc, waeth pa ddull o ddarllen y Beibl sy’n cael ei ffafrio ganddynt.

Ein dymuniad yw i gyflwyno’r Beibl iddynt mewn ffordd sy’n berthnasol a diddorol, ac mewn iaith sy’n ddealladwy iddyn nhw.

Mae Beibl.net – i bobl ifanc ar gael am £19.99. Fodd bynnag mae modd cael copïau tan ddiwedd Rhagfyr am y prisiau canlynol:

1-2 copi £19.99 yr un (yn cynnwys cludiant)
3 copi neu fwy £17.50 yr un

Mae hyn yn bosib trwy gronfa nawdd Cyngor Ysgolion Sul a beibl.net.

Rhaid i bob archeb gyrraedd Cyngor Ysgolion Sul cyn Rhagfyr 31 2020.

Gellir trefnu eu cludo i fannau strategol yn rhad ac am ddim, neu codir £5 yr archeb os am eu postio trwy wasanaeth cwrier.

Archebu trwy ddychwelyd ffurflen a siec
Os am archebu trwy’r post a thalu drwy siec lawrlwythwch y ffurflen isod a’i ddychwelyd gyda’ch taliad wedi atodi i’r cyfeiriad ar waelod y ffurflen.

Ffurflen archebu beibl.net

Archebu a thalu ar-lein trwy PayPal

Archebu 1 neu 2 gopi
(yn cynnwys cludiant)


1 neu 2 gopi yn cynnwys cludiant



3 copi neu fwy am £17.50 yr un
yn cynnwys cludiant am ddim i ganolfan strategol yng Nghymru




3 copi neu fwy am £17.50 yr un
yn cynnwys cludiant courier am £5 ychwanegol




Cyflwyno beibl.net

Cyhoeddwyd beibl.net gan elusen Gobaith i Gymru (GIG) a bu Arfon Jones ac eraill yn gyfrifol am gyfieithu a golygu’r testun newydd hwn. Ers i waith Gobaith i Gymru ddirwyn i ben yn 2019 trosglwyddwyd y gwaith i ofal y Cyngor Ysgolion Sul.

Cliciwch isod i ymweld a gwefan beibl.net lle mae modd darllen y testun a chael mynediad at adnoddau eraill:
beibl.net

Argraffiad iaith gyfoes / llafar beibl.net 2002/2015
Mae beibl.net yn agor Gair Duw i’r genhedlaeth ifanc. Mae’n gyfieithiad llafar syml, hawdd i’w ddarllen, o’r ysgrythurau. Mae’n galluogi pobl ifanc, dysgwyr y Gymraeg ac eraill, i ‘glywed’ a deall neges yr efengyl. Mae beibl.net yn gyfieithiad cwbl wreiddiol o’r Beibl. Dydy o ddim yn ddiwygiad o unrhyw fersiwn Gymraeg, nac yn gyfieithiad o unrhyw fersiwn Saesneg. Cafodd ei ysgrifennu’n bennaf gan Arfon Jones.

Cliciwch YMA i ddarllen y testun

Cofiwch hefyd am ApBeibl sydd ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim i’ch ffôn/tabled.

Prynu ac archebu beibl.net
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9780564033270&tsid=9

Cyhoeddwyd fersiwn lliw i blant hefyd, sy’n cynnwys 365 o hanesion o’r Beibl gyda thestun Beiblaidd beibl.net
I brynu copi caled o’r Beibl ewch i:
www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781859947999&tsid=3

ARCHEBION BEIBL.NET I EGLWYSI AC YSGOLION SUL
Mae modd i Ysgolion Sul ac Eglwysi archebu copiau o’r tri argraffiad o beibl.net gan sicrhau prisiau gostyngol arbennig.

Ffurflen archebu beibl.net

Samplau beibl.net
Dyma sampl o beibl.net:


Dyma sampl o’r fersiwn lliw i blant: