Cardiau a Llyfrynnau Bugeiliol

Cardiau Nadolig
Mae yna amrywiaeth o gardiau Nadolig Cymraeg ar gael a werthir er budd gwaith yr Ysgol Sul yng Nghymru, gyda chyfarchiad ac adnod ar bob cerdyn, ynghyd â llun lliw pwrpasol.

Mae yna gynllun arbennig ar gyfer eglwysi ac ysgolion Sul. Am bob pecyn a werthir bydd 50c yn mynd i gronfa eich ysgol Sul chi. Dyma gyfle gwych felly i gefnogi Cyngor Ysgolion Sul a’ch ysgol Sul leol chi! Mi fyddwch chi yn talu £1.50 y pecyn amdanynt ac yn eu gwerthu am £2 y pecyn. Cynigir y cardiau ar gynllun dychwel neu werthu!

I archebu lawrlwythwch y ffurflen yma (PDF)

Cardiau Pasg
Ar hyn o bryd mae gennym un cerdyn Pasg. Maent ar gael am 69c yr un neu pecyn o 8 Am £2.99. I archebu ffoniwch 01766 819120.

Cyfarchiad ac adnod tu fewn y gerdyn:

Gan ddymuno bendithion a llawenydd y Pasg

Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Mae wedi bod mor drugarog aton ni. Mae’n ddechrau cwbl newydd! Dŷn ni wedi cael ein geni unwaith eto! Ac am ei fod wedi codi Iesu Grist yn ôl yn fyw dŷn ni’n edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol. Mae gan Dduw etifeddiaeth i’w rhannu gyda’i blant – un fydd byth yn darfod, nac yn difetha nac yn diflannu. Mae’n ei chadw ar eich cyfer chi yn y nefoedd!
1 Pedr 1:3-4 (beibl.net)

Cardiau Cydymdeimlad
Mae 8 cerdyn cydymdeimlad Cristnogol Cymraeg newydd ar gael. Cardiau maint mawr (A5)

Mae pob cerdyn yn cynnwys y cyfarchiad ‘Yn Meddwl Amdanoch’ y tu fewn, ynghyd ag adnod o Salm 27:1

Yn ychwanegol mae pedwar ohonynt yn cynnwys geiriau o gysur a gobaith ar y clawr cefn e.e. ‘Rho i’m yr hedd’, ‘Ôl Traed’, ‘Y Llong’ a ‘Dydy marw’n ddim …’ (gweler y lluniau)

I archebu lawrlwythwch y ffurflen yma (PDF)

Llyfrynnau Bugeiliol
cloriauGair o Gysur mewn Gofid a Galar
Gair o Gysur mewn Gofid a Gwaeledd
Wele, cawsom y Meseia – Nadolig
Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw – Pasg

Mae gennym bedwar llyfryn 20 tud, lliw llawn. Dau sy’n addas ar gyfer eu cyflwyno i rywrai ar adeg profedigaeth neu ar achlysur afiechyd, llesgedd neu bryder, un sy’n addas i gyflwyno i bobl wrth ddathlu’r Nadolig ac un arall ar gyfer y Pasg.

Maent yn cynnig detholiad o adnodau o’r Beibl, gweddïau, myfyrdodau, geiriau emynau a cherddi, a darnau ysbrydoledig megis Ôl Traed, Desiderata ayyb.

Maent yn addas ar gyfer gweinidogion a lleygwyr, er mwyn eu cyflwyno ar adeg o ymweld bugeiliol ar ran yr eglwys.

Maent wedi eu prisio yn rhesymol iawn (llai na hanner pris cerdyn arferol) am 50c yr un, neu gellir eu prynu mewn pecyn arbennig ar gyfer eglwysi, sy’n cynnwys 50 copi yr un o’r ddau lyfr cyntaf am y pris arbennig o £30 neu 100 copi o’r llyfryn Nadolig neu Pasg am £30. Mae hyn yn 30c y copi am lyfryn lliwgar 20 tudalen..

Cliciwch YMA am ffurflen archebu.