Power Points i Blant

Dyma gasgliad o Power Points Cymraeg y gellir eu lawrlwytho i’ch cyfrifiadur. Cliciwch yma i fynd i’r dudalen lawrlwytho.

HANES JOSEFF
Dyma hanes Joseff o’i flynyddoedd cynnar yng ngwlad Canaan hyd at yr adeg cafodd ei benodi i fod yn rheolwr dros holl wlad yr Aifft. Mae’­r hanes wedi ei rannu i 8 pennod gyda dewis o 3 adnod iíw dysgu a 4 sleid ar gyfer cwis.

Moses
Mae’­r cyflwyniad hwn yn rhoi hanes bywyd Moses o’­i enedigaeth yn yr Aifft hyd nes iddo glywed llais Duw yn ei alw o fflamau’r berth yng ngwlad Midian. (Exodus 1:6 + 3:10). Mae’­n cynnwys dwy sleid ar gyfer cynnal cwis.

Duw Yn Galw Samuel
Cyflwyniad byr o saith sleid yn cyflwyno hanes Duw yn galw y bachgen Samuel

Elias – Y Proffwyd
Dyma gyflwyniad ar hanes y proffwyd Elias a`i frwydr yn erbyn addoliad o`r gau dduw Baal. Mae hefyd yn cynnwys 3 adnod i ddysgu a chyfle i drefnu cwis ar ffurf “O” a “X”.

Namaan y Syriad
Dyma grynodeb byr o chwech sleid ar hanes Namaan y Syriad gan gynnwys dwy adnod i ddysgu.

Immanuel
Mae`r cyflwyniad hwn yn rhoi crynodeb o hanes genedigaeth Iesu Grist fel mae wedi ei gofnodi yn efengyl Mathew a Luc. Mae hefyd yn cynnwys adnod i ddysgu a 4 sleid ar gyfer cwis.

Y Ddafad Golledig a`r Bugail Da
Saith sleid liwgar a deniadol yn cyflwyno dameg Y Ddafad Golledig (Luc 15) a dysgeidiaeth Iesu am y Bugail Da (Ioan 10). Mae`r cyflwyniad hwn yn cynnwys adnod i ddysgu.

Porthi’r Pum Mil
Dyma hanes am Iesu yn bwydo tyrfa o dros 5000 o bobl. Mae`r cyflwyniad hwn yn cynnwys adnod i ddysgu ac un sleid ar gyfer cwis.

Troedigaeth Saul
DEUNYDD NEWYDD – Ceir yma gyflwyniad cyffrous ar hanes Saul o Darsus a’i drˆedigaeth ryfeddol ar y ffordd i Ddamascus. Mae bywyd Saul yn newid yn llwyr o fod yn un sy’n erlid Cristnogion i fod yn ddisgybl ffyddlon i Iesu Grist, a’r cenhadwr mwyaf a welodd y byd erioed. (Actau 9:1-27).

Paul a Silas yn Philipi
DEUNYDD NEWYDD – Dyma gyflwyniad mewn naw sleid ar ymweliad Paul a Silas gyda dinas Philipi. Ceir yma’r hanes amdanynt yn y carchar, y ddaeargryn yng nghanol nos a thrˆedigaeth ceidwad y carchar. (Actau 16:16-31).

Taith Olaf Paul
DEUNYDD NEWYDD – Mae Paul bellach yn agos·u at ddiwedd ei oes ac mae ar long yn hwylio i Rufain i sefyll prawf gerbron yr Ymerawdwr. Yn sydyn, mae storm yn codi ac mae’r llong a phawb sydd ynddi mewn perygl am eu bywyd. (Actau 27: 16-31).

Cliciwch yma i fynd i’r dudalen lawrlwytho.