Y Cam Nesa

Adnodd Cristnogol i’w gyflwyno i blant blwyddyn 6 cyn iddynt fychwyn yn yr Ysgol Uwchradd.

ItsYourMoveCoverArtwork_welshY Cam Nesa!

Pan wyt ti’n 11 neu’n 12, mae symud ysgol yn her fawr. Rwyt ti’n edrych ymlaen achos bod diwrnod symud i’r ysgol fawr yn agosáu. Byddi’n cael gwisg ysgol newydd, a byddi’n dysgu llawer o bethau newydd. Ond rwyt yn pryderu na fyddi, efallai, yn gwneud ffrindiau newydd. Fydd yr athrawon newydd yn dy hoffi? Fydd y plant hŷn yn dy gam-drin? Ond diolch i’r llyfr Y Cam Nesa! (It’s Your Move!), gan Scripture Union, mae dros miliwn o blant wedi cael cymorth i symud i ysgol uwchradd.

Mae Y Cam Nesa! yn llawn cyngor doeth, straeon bywyd go iawn, a llawer o ddeunydd diddorol fydd yn rhoi hyder i blant wrth iddynt symud i’r ysgol newydd. Mae plant wrth eu bodd â’r llyfr am fod ynddo gymorth gwerthfawr a digon o hwyl. Mae athrawon wrth eu bodd â’r llyfr am ei fod yn rhoi i’w disgyblion olwg cyffredinol clir ar y cyfnod hwn yn eu bywyd. A byddwch chithau wrth eich bodd â’r llyfr gan y byddwch yn gwybod eich bod yn helpu blant yn eich cymuned leol.

Mae’r agraffiad diwygiedig hon yn cynnwys erthyglau a storiau newydd sbon, mwy o elfennau rhyngweithiol, a dyluniad sydd wedi’i diweddaru ar gyfer 2015.

Ysgolion ac Eglwysi: Pontio’r bwlch, cysylltu pobl
Yn y genhedlaeth hon, bydd wyth miliwn o blant na fydd yn dod ar draws yr efengyl ac mae Y Cam Nesa! ar hyn o bryd yn cyrraedd rhyw 20 y cant o rai sy’n gadael ysgolion cynradd. Mae hynny’n golygu bod 8 o bob 10 o blant yn dal i gymryd y cam enfawr hwnnw heb y cymorth a’r cyngor y mae Y Cam Nesa! yn ei gynnig. Dymunwn i fwy o blant deimlo’n hyderus am symud i’r ysgol uwchradd a thrwy brynu Y Cam Nesa!, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth.

Mae Y Cam Nesa! wedi bod yn declyn i helpu eglwysi i greu cysylltiadau gyda’u hysgolion lleol.

Mae Y Cam Nesa! yn llyfryn addas o safbwynt addysgol a sensitif o safbwynt diwylliannol, a luniwyd gan bobl ifanc a’r rhai hynny sy’n gweithio gyda nhw ac mae’n cynnig cyngor defnyddiol, storïau, awgrymiadau ac ymarferion mewn llyfr 64 tudalen lliwgar a llawn hwyl yn cynnwys:

  • Canllaw goroesi A-Z
  • Storïau gwir oddi wrth fyfyrwyr am sut i gymryd y cam
  • Cyngor doeth, a’r syniad fod Duw gyda ni bob amser
  • Cerddi a storïau difyr i’w darllen
  • Tudalennau i gasglu llofnodion ffrindiau ac i wneud y llyfr yn bersonol

Mae Y Cam Nesa! ar gael yn rhesymol iawn i eglwysi:
Mae copiau ar gael am 3.50 yr un neu pecyn o 10 am £20, sy’n cynnwys cludiant. Cliciwch YMA i archebu oddi ar wefan Scripture Union.