Sefydlu Ysgol Sul newydd

Beth am gychwyn Ysgol Sul newydd?
– sefydliad sydd wedi bod yn rhan annatod o’r Gymuned Gymraeg ers dros 200 mlynedd!

Ers dros 200 mlynedd y mae’r ysgol Sul Gymraeg wedi chwarae rhan bwysig ym mywydau plant a ieuenctid ein gwlad, yn eu twf ysbrydol, moesol a chymdeithasol a hynny trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Tystiolaeth gyffredin heddiw yw clywed pobl yn talu diolch am gyfraniad y sefydliad gwerthfawr hwnnw ar eu bywydau. Erbyn heddiw ceir cymunedau Cymraeg, mewn trefi a chefn gwlad, lle mae yna nifer o eglwysi ond dim darpariaeth ysgol Sul ar gyfer plant a ieuenctid.

Meddai Iesu,“Gadewch i`r plant ddod ataf fi, peidiwch â`u rhwystro.” (Marc 10:14)

Mae Iesu Grist wedi gorchymyn i`w eglwys i fynd â`r efengyl i`r holl fyd ac mae hynny`n golygu nid yn unig gwledydd pell dros y môr ond hefyd ein pentrefi a`n trefi yma yng Nghymru. Gwyddom i gyd am y dirywiad mawr yn hanes Cristnogaeth yn ein gwlad ac fel mae cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant yn tyfu fyny heb wybod fawr ddim am Dduw a`r ystyr i fywyd sydd ar gael ym mherson Iesu Grist.

Erbyn heddiw mae`r Ysgol Sul wedi mynd i raddau helaeth iawn i fod yn sefydliad ar gyfer plant aelodau, ac yn aml mae hyd yn oed rheini yn dewis peidio â mynychu. Sut felly mae cyrraedd plant ein hardal gydag efengyl yr Arglwydd Iesu?

Un ffordd bosib yw trwy sefydlu clybiau Cristnogol sy`n cynnig gweithgareddau cyffrous a llawn hwyl sy`n debygol o ddenu plant ynghyd. Ym mysg gweithgareddau`r clwb bydd cyfle i gyflwyno stori o`r Beibl a `i gymhwyso ar gyfer y dydd heddiw. Fe all clwb o`r fath gyfarfod unrhyw adeg o`r wythnos sy`n fwyaf cyfleus. Er enghraifft, os oes gan blant y pentref ymarfer rygbi ar fore Sul, gellir cynnal y clwb ar ôl ysgol ar nos Lun.

Erbyn heddiw mae nifer o glybiau Cristnogol yn bodoli yng Nghymru ac yn cyfarfod am ryw awr bob wythnos. Mae`r clybiau hyn yn denu amrywiaeth o blant ynghyd – rhai o gefndir capel / eglwys, ond yn holl bwysig nifer helaeth sydd heb unrhyw fath o gefndir crefyddol.

Os ydych chi`n poeni bod plant eich ardal heb glywed neges yr efengyl ac os oes gennych awydd i geisio newid y sefyllfa trwy sefydlu clwb Cristnogol, neu hyd yn oed ail gychwyn Ysgol Sul, yna cysylltwch gyda ni am sgwrs a chymorth. Gweddïwch dros y mater, ac yna ceisiwch gefnogaeth eraill yn eich capel / eglwys ac eglwysi’r fro. Yn ymarferol, mae angen o leiaf 3-4 person ymroddedig i redeg clwb llwyddiannus. Os ydych yn gweld posibiliadau i gychwyn gwaith newydd yna byddwn yn hapus iawn i drefnu adeg cyfleus i`ch cyfarfod ac i`ch cynorthwyo ym mhob ffordd posib.

Mae gan blant Cymru’r hawl i glywed y newyddion da am Iesu Grist ac mae`n gyfrifoldeb ar yr eglwys i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cyfle.

Y mae Cyngor Ysgolion Sul, sy’n gweithio’n gydenwadol, yn awyddus iawn i weld ysgol Sul weithredol ym mhob cymuned ac ar gael i bob plentyn yng Nghymru.

Rydym yn medru cynorthwyo i sefydlu ysgolion Sul newydd trwy gyfarfod arweinwyr, darparu cefnogaeth, adnoddau ayyb.

Rydym ar gael i drafod posibiliadau ac i gynghori. Os ydych awydd gweld ysgol Sul yn cael ei sefydlu yn eich ardal beth am gysylltu â ni.ac fe geisiwn gydweithio gyda eglwysi’r cylch i sicrhau ymateb. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth:

Aled Davies
Cyngor Ysgolion Sul
Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
aled@ysgolsul.com neu 01766 819120