Hybu’r Ysgol Sul

Nod y dudalen hon yw rhoi ychydig o syniadau i chi, arweinwyr Ysgol Sul, ar sut i geisio denu mwy o blant, ac i gadw eu diddordeb yn yr Ysgol Sul. Efallai eich bod yn gwneithredu rhai o’r syniadau hyn yn barod, serch hynny, gobeithio y bydd yma ambell syniad fydd o gymorth i chi ddenu mwy o blant, ac i gryfhau presenoldeb y plant sydd yn mynychu.

Ar ddechrau tymor

Rhaglen
Byddai o gymorth mawr i chi fel arweinwyr ac i’r a phlant a’u rhieni wybod beth fydd rhaglen yr Ysgol Sul am y flwyddyn i ddod. Gallech nodi arni pryd y bydd gwyliau, gwasanaethau arbennig, trip, Sul gwobrwyo a gweithgareddau’r Cyngor Ysgolion Sul. Byddai’n gysylltiad da gyda gweddill cynnulleidfa’r eglwys hefyd, iddynt fod yn ymwybodol o weithgarwch yr Ysgol Sul.

Hysbysebu

  • Cerdyn post. Gyrrwch gerdyn post i’r plant a fu’n mynychu’r ysgol Sul yn ystod y flwyddyn diwethaf gan ddiolch iddynt am eu ffyddlondeb a rhoi manylion pryd y bydd yr Ysgol Sul yn ailgychwyn. Cofiwch ddiolch i’r rhieni ar y cerdyn am eu cefnogaeth yn gyrru’r plant.
  • Cysylltu gydag ysgol neu gylch meithrin. Mae llawer o ysgolion lleol yn barod iawn i gydweithredu a chaniatau i chi rannu gwahoddiadau i’r plant trwy’r ysgol. Cysylltwch â’r pennaeth ac arweinydd y Cylch Meithrin i ofyn os yw hyn yn bosib’.
  • Hysbysebu yn y wasg. Rhowch hysbyseb yn eich papur lleol neu yn y papur bro yn dweud pryd ac yn lle y bydd yr Ysgol Sul, gan estyn croeso i aelodau newydd.
  • Posteri. Gosodwch bosteri lliwgar o gwmpas eich ardal, gan dynnu sylw at unrhyw ddigwyddiadau hwyliog yn ystod y tymor.
Lawrlwytho gwahoddiadau

Awyrgylch
Edrychwch yn ofalus ar yr ystafell ble bydd yr Ysgol Sul yn cyfarfod. A ydyw’n oeraidd? yn ddi-liw? Tybed a oes posib gwella ei golwg? A fyddai’n bosib’ rhoi côt o baent, neu osod posteri Cristnogol lliwgar ar y wal? Beth am osod hysbysfwrdd ar gyfer arddangos gwaith y plant. Trafodwch gyda blaenoriaid y capel i weld os oes modd gwella’r adnoddau.

Amser yr ysgol Sul
Tybed a yw’r amser a gynhelir yr ysgol Sul yr amser gorau i ddenu plant? Mae cymaint o weithgareddau a galwadau ar blant ar y Sul, efallai y byddai ystyried symud yr Ysgol Sul yn gynharach o gymorth.

Sul cynta’r tymor
Dylai’r cyfarfod cyntaf fod yn amser bywiog ac atyniadol i’r plant, fel y byddant yn awyddus i ddod yn ôl o Sul i Sul. Dewiswch ganeuon bywiog sy’n ffefrynnau gan y plant, chwaraewch gêm neu ddwy, defnyddiwch adnoddau gweledol i’ch cynorthwyo i ddweud stori, paratowch ddiod a bisgedi neu gacennau neu greision i’r plant.

Cysylltiad gyda chynnulleidfa’r eglwys

Amrywiaeth o ddoniau
Ymhob cynnulleidfa ceir amrywiaeth o ddoniau a diddordebau. Efallai fod yna:

  • arlunwyr fyddai’n creu adnoddau gweledol arbennig i gydfynd â storïau
  • berson cynnes ac annwyl fyddai wrth eu bodd yn croesawu’r plant i’r Ysgol Sul
  • berson trefnus fyddai’n cynorthwyo gyda gweinyddiad yr Ysgol Sul, neu’n cofio i yrru cardiau Penblwydd ayb i’r plant
  • berson a diddordeb mewn cyfrifiaduron a allai gynorthwyo gyda chreu adnoddau, neu greu gwefan i’r Ysgol Sul
  • berson fyddai’n gallu gwau neu wnïo pypedau.

Mae’n bosib’ i aelodau yr eglwys fod yn gefnogol i’r ysgol Sul heb fod yn athro neu athrawes.

Cyfathrebu
Byddai’n bosib’ cryfhau perthynas yr Ysgol Sul gyda gweddill y gynnulleidfa pe tae cyfle i rywun o’r Ysgol Sul sôn yn fyr yn ystod y cyhoeddiadau, tua unwaith y mis, am yr hyn fu’n digwydd yn yr Ysgol Sul yn ystod y mis diwethaf. Buasent hefyd yn gallu sôn am beth fydd yn digwydd yn ystod y mis nesaf.

Os oes cylchgrawn yn yr eglwys, beth am i un o’r plant hŷn ysgrifennu erthygl byr am yr Ysgol Sul rwan ac yn y man.

Hysbysfwrdd yr Ysgol Sul
Byddai gosod hysbysfwrdd yn arbennig ar gyfer gwaith yr Ysgol Sul yng nghyntedd y capel yn gymorth i hysbysebu gweithgarwch yr Ysgol Sul. Byddai’n le da i arddangos Polisi Diogelwch Plant, fel bod rhieni yn gweld eich bod yn cymryd gofal am eu plant o ddifri’. Mae’n bwysig cadw’r deunydd ar yr hysbysfwrdd yn gyfredol, a pheidio a gadael hen wybodaeth arno’n yn rhy hir.

Cyfarfod gweddi
Ydych chi’n cyfarfod fel athrawon i weddïo? Os oes cyfarfod gweddi yn yr eglwys mae’n bwysig eu bod yn derbyn cais yn gyson i weddïo dros waith yr Ysgol Sul.
Os nad oes cyfarfod gweddi, dylai fod yn flaenoriaeth i ddechrau gweddïo gyda’ch gilydd. Ofer yw’n gwaith caletaf, mwyaf egnïol heb fod Duw yn y canol.

Cefnogaeth rhieni

Dewch a ffrindiau’ch plant
Beth am ofyn i rieni sy’n aelodau yn eich eglwys, neu’n gefnogol i’r Ysgol Sul i gynnig i ddod a ffrindiau eu plant gyda nhw i’r Ysgol Sul. Bydd hyn yn siwr o blesio’r plant gan eu bod yn mwynhau cael cwmni eu ffrindiau, ac mae’n cryfhau eu delwedd o’r Ysgol Sul.

Cyfle i’r rhieni
Yn hytrach na danfon eu plant a gadael, byddai’n gadarnhaol i’r eglwys i ddarparu ystafell i’r rhieni gymdeithasu, neu i gynnal dosbarth Ysgol Sul ar eu cyfer. Byddai’n gaffaeliad i Ysgol Sul yr oedolion ennill dosbarth o rieni ifanc.

Noson rieni
Gwahoddwch rieni am baned a phwdin a noson anffurfiol fel y gallwch egluro’r hyn fyddwch chi’n ei wneud yn yr Ysgol Sul o wythnos i wythnos, a sôn am y gweithgareddau fyddwch yn eu trefnu ar gyfer y plant yn ystod y flwyddyn. Gall eu gwerthfawrogiad hwy o’ch gwaith a’ch ymroddiad sicrhau eu cefnogaeth yn gofalu fod eu plant yn mynychu’n gyson. Efallai byddai modd cynhyrchu taflen syml yn egluro nod yr Ysgol Sul ac yn cynnwys rhaglen weithgareddau’r Ysgol Sul am y flwyddyn.

Gwobrwyo

  • Pwyntiau. Rydym i gyd yn ymateb yn dda i ganmoliaeth. Beth am ddechrau system o wobrwyo’r plant gyda phwyntiau bob tro y byddant yn dod i’r Ysgol Sul. Mae’n hawdd cadw cyfrif gyda chofrestr. Ar ddiwedd y flwyddyn byddai gan pob plentyn gyfanswm o bwytiau.
  • Sul gwobrwyo. Ar ddiwedd y flwyddyn gellid trefnu fod y plant yn cael eu gwobrwyo am eu ffyddlondeb. Gellid casglu amrywiaeth o deganau y mae’r plant yn eu hoffi, neu lyfrau addas a gosod “pris” (h.y. hyn a hyn o bwyntiau) ar y nwyddau, a byddai’r plant yn cael “prynu” nwyddau gyda’r pwyntiau maent wedi eu casglu trwy’r flwyddyn.

Neu, gellid dewis gwobrau amrywiol i gydfynd gydag ystod o bwyntiau, a’r wobr yn cyfleu gwerth y pwyntiau e.e. 250 – 300 o bwyntiau yn ennill pecyn o binau ffelt.

Defnyddiwch eich dychymyg a dathlwch ffyddlondeb y plant!

Gweithgareddau arbennig

Mae’n syniad i gynnwys amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y flwyddyn i
gadw diddordeb y plant, ac i ddenu eu ffrindiau i ymuno mewn rhywbeth
gwahanol.

Sul Hwyl
Tua unwaith y tymor, neu ddwy waith y flwyddyn, beth am gynnal Ysgol Sul ar ffurf clwb plant, lle nad yw’r plant yn rhannu i’w dosbarthiadau. Trefnir yr amser i gynnwys caneuon bwyiog (os am syniadau pellach gweler llyfr a CD “Tyrd i Ddathlu”), gemau, stori Feiblaidd (yn cael ei chyflwyno gydag adnoddau gweledol), gwaith crefft syml, diod a bisged. Defnyddiwch y doniau sydd gennych a’u gwau o gwmpas thema’r stori Feiblaidd.

Hysbysebwch y Sul Hwyl trwy’r capel a’r gymuned leol. Paratowch gardiau gwahoddiad i’r plant i fynd i’w ffrindiau – mae’n rhyfeddol pa mor frwdfrydig yw’r plant yn annog eu ffrindiau i ymuno yn yr hwyl. Mae Sul fel hyn yn gyfle da i ddenu plant newydd i’r Ysgol Sul, ac i ddenu’r rhai na fu’n mynychu’n aml i ddod yn ôl.

Yn ôl 2000 o flynyddoedd
Beth am wahodd y plant i ddod i’r Ysgol Sul wedi eu gwisgo fel pe taen nhw’n byw yng nghyfnod Iesu. Gellid dethol un stori i’w chyflwyno i’r Ysgol Sul gyda’i gilydd, e.e. ‘Dameg y Wledd Fawr’, a gellid cynnig bwydydd tebyg i rai’r cyfnod i’r plant cyn iddynt fynd i’w gwersi e.e. bara pitta, olewydd, caws feta, ffigys, detys, grawnwin.

Uno gydag Ysgol Sul arall
Gall hyn weithio’n arbennig gyda dosbarth oedran 11-14+. Ar ddiwedd tymor cysylltwch ag ysgol Sul arall yn eich ardal, neu fwy nag un, er mwyn chwyddo’r niferoedd o ieuenctid i ddod at eu gilydd. Buasai’n fwy effeithiol i drefnu’r weithgaredd gyda’r nos a gwahodd siaradwr bywiog i sgwrsio gyda’r plant am rhyw hanner awr, yna gorffen y noson gyda pizzas i bawb.

Ymweliad penwythnos
Mae trefnu i fynd i ganolfan gyda’r plant yn brofiad gwerthfawr iawn. Mae’r plant yn gweld eich ymroddiad iddyn nhw yn mynd i drafferth i drefnu, ac rydych chithau yn cael cyfle i ddod i adnabod y plant yn dda. Mae penwythnosau’n cael eu cynnal trwy’r flwyddyn yng Ngholeg y Bala, ac mae Gŵyl Gristnogol Llanw yn trefnu arlwy lawn i blant a ieuenctid yn yr wythnos yn dilyn y Pasg bob blwyddyn. Am fwy o fanylion cysylltwch a Choleg y Bala ac ymweld a gwefan www.llanw.org. Mae nifer o weithwyr ieuenctid ledled Cymru hefyd yn trefnu penwythnosau i blant a ieuenctid.

Prosiectau

Creu gardd
Os oes ychydig o dir o gwmpas y capel neu’r festri, beth am fynd ati i greu gardd Feiblaidd gyda’r plant. Gofynnwch i aelodau’r capel neu rieni sy’n garddio eich cynorthwyo i chwilio am blanhigion Beiblaidd fyddai’n addas i’w tyfu yn yr ardd. Os yw lle yn brin, beth am ddefnyddio potiau blodau, neu gael planhigion y tu fewn i’r festri, neu gyntedd y capel.

Codi arian
Beth am ofyn i’r plant eich cynorthwyo i godi arian tuag at:

  • elusen e.e. Cymorth Cristnogol, elusen i blant,
  • adnoddau i’r Ysgol Sul,
  • gronfa’r Ysgol Sul.

Beth am gynnig paned neu bryd ysgafn ar ôl oedfa; gallai’r plant wneud cardiau cyfarch neu farc llyfr gydag adnodau arnynt i’w gwerthu. Unwaith eto, defnyddiwch eich dychymyg!

Diwedd tymor

  • Picnic. Beth am drefnu picnic ac ychydig o gemau, gyda gwasanaeth awyr agored fer i ddiweddu’r tymor.
  • Barbeciw. Trefnwch farbeciw, un ai ar dir y capel, neu yn lleol i ddilyn gwasanaeth addas i pob oed ar ddiwedd y tymor. Gwahoddwch rieni’r plant ac aelodau’r capel.