Beiblau

Mae gan Gyhoeddiadau’r Gair ddewis helaeth o Feiblau Lliw ar gyfer plant ac ieuenctid. Dyma ddetholiad ohonynt sydd ar gael i archebu o’ch siop Gymraeg lleol neu ar-lein drwy gwales.com.

Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn awyddus bod cymaint o blant Cymru yn cael eu copi personol o un o’r Beiblau hyn/ I’r perwyl hynny mae gennym gynllun arbennig i werthu copïau ar ostyngiad arbennig i eglwysi ar gyfer eu cyflwyno yn rhodd i blant. Bydd llawer yn cyflwyno copïau i blant ar achlysur geni, bedydd, derbyn yn aelodau neu ar achlysur arbennig yn hanes yr eglwys megis canmlwyddiant yr achos neu er cof am rywun arbennig. Am delerau cysylltwch yn uniongyrchol gyda ni.

Isod ceir rhestr o’n prif Feiblau plant gyda samplau digidol o rai tudalennau.

Cliciwch YMA i lawrlwytho PDF lliw o’r catalog.

Beibl Bach i Blant
Beibl Bach i Blant
Testun: Brenda Wyn Jones.
Pris: £13.99, 480tt, cc.
Fersiwn clawr lledr gwyn: £16.99
Llyfr yn cynnwys 64 o storïau o’r Beibl wedi eu
hail adrodd yn syml a chlir ar gyfer y plant lleiaf.


Prynu ‘Beibl Bach i Blant’ ar Gwales

Beibl Bach Stori Duw
Beibl Bach Stori Duw
Testun: Eleri Huws. Pris: £12.99, 352tt, cc.
Beibl lliwgar newydd i blant 5-8 oed sy’n
cyflwyno’r stori fel un stori, ac yn esbonio sut
mae’r cyfan yn rhan o stori fawr Duw.
Lluniau trawiadol a diwyg ffres.

Prynu ‘Beibl Bach Stori Duw’ ar Gwales
beibl.net 365 o Storïau o'r Beibl
Yn cynnwys y testun o gyfieithiad beibl.net wedi ei baratoi gan Arfon Jones.

365 o storïau o’r Beibl. Dyma’r Beibl delfrydol i helpu ieuenctid i groesi’r bont o Feibl lliw i’r Beibl llawn. Cyfrol liwgar sy’n cyflwyno prif hanesion a themâu’r Beibl mewn 365 o storïau cryno.

Dyma sampl o’r fersiwn lliw i blant:


Prynu ‘beibl.net: 365 o Storïau o’r Beibl’ ar Gwales

Beibl Lliw Stori Duw
Beibl Lliw Stori Duw
Testun: Huw John Hughes
Pris: £12.99, 350tt, cc.
Mae’r beibl hwn i blant yn cynnwys 365 o straeon, un ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn. Gyda gwyddoniadur ffeithiol yn y cefn.

Prynu ‘Beibl Lliw Stori Duw’ ar Gwales
Beibl Newydd y Storïwr
Beibl Newydd y Storïwr
Testun: Cynthia Davies, Pris: £12.99, 160tt, cc.
Dros 70 o storïau Beiblaidd ar gyfer eu
darllen yn gyhoeddus i blant.
Beibl Newydd y Storïwr (CD Sain) Pris: £9.99
4 CD Sain sy’n cynnwys 70 o storiau Beiblaidd yn cael eu darllen gan Catherine aran, Martyn Geraint, Mair Tomos Ifans a Wynford Ellis Owen.

Prynu ‘Beibl Newydd y Storïwr’ ar Gwales Prynu ‘Beibl Newydd y Storiwr (CD Sain)’ ar Gwales
Beibl Newydd y Plant
Beibl Newydd y Plant
Testun: Angharad Llwyd-Jones, Pris: £12.99, 230tt, cc.
Beibl lliwgar yn cynnwys 188 o storïau ar gyfer plant
ifanc, gyda phypedau lliwgar ar bob tudalen.


Prynu ‘Beibl Newydd y Plant’ ar Gwales

Beibl y Plant Lleiaf
Beibl y Plant Lleiaf
Testun: Brenda Wyn Jones, Pris: £12.99, 230tt, cc.
Beibl cyntaf i blant bach. 16 o storïau cyfarwydd
yn cael eu hadrodd yn syml a chlir gyda
darluniau lliwgar a thrawiadol.


Prynu ‘Beibl y Plant Lleiaf’ ar Gwales

Beibl Cyntaf y Plant Lleiaf
Beibl Cyntaf y Plant Lleiaf
Testun: Delyth Wyn, Pris: £9.99, 16tt, cc.
Beibl bwrdd i’r plant lleiaf.

Prynu ‘Beibl Cyntaf y Plant Lleiaf’ ar Gwales
Fy Meibl Bach I
Fy Meibl Bach I
Testun: Eleri Huws. Pris: £3.99, 96tt, cc.
Casgliad o brif storïau’r Beibl wedi’u hadrodd yn
syml a’u darlunio’n lliwgar ar gyfer plant bach.

Prynu ‘Fy Meibl Bach I’ ar Gwales
Beibl Gweithgareddau y Plant
Beibl Gweithgareddau y Plant
Testun: Angharad Llwyd-Jones, Pris: £7.99, 160tt, cm.
Beibl lliwgar yn cynnwys 40 o storïau ar
gyfer plant 7-9 oed, ynghyd â
gweithgaredd a phos ar bob stori.

Prynu ‘Beibl Gweithgareddau y Plant’ ar Gwales
Beibl Gweithgareddau y Plant Lleiaf
Beibl Gweithgareddau y Plant Lleiaf
Testun: Angharad Llwyd-Jones,
Pris: £7.99, 160tt, cm.
Beibl lliwgar yn cynnwys 40 o storïau ar gyfer plant 5-7 oed,
ynghyd â gweithgaredd a phos ar bob stori.

Prynu ‘Beibl Gweithgareddau y Plant Lleiaf’ ar Gwales
Beibl Lliw y Plant
Beibl Lliw y Plant
Testun: Iola Alban a Cynthia Saunders Davies.
Pris: £17.95, 320tt, cc.
Beibl sy’n cynnwys 125 o storïau a lluniau
trawiadol ar bob tudalen.

Beibl eraill sydd ar gael
Beibl yr Arth Fach
Testun: Angharad Llwyd-Jones, Pris: £7.99, 12tt, cc.
Beibl lliwgar i’r plant lleiaf, wedi ei guddio tu
fewn i gloriau’r Arth.

Y Beibl Graffeg
Testun: Meirion Morris / Gwion Hallam,
Pris £16.95, 260tt, cc
Nofel graffeg lliw llawn yn adrodd
stori’r Beibl o’r creu i’r cadw.

Fy Meibl Bach Cyntaf
Testun: Margaret Cynfi, Pris £4.95, 260tt, cc
Beibl lliw gyda 125 o storïau o’r Beibl ar gyfer y
plant lleiaf.

Fy Meibl i
Testun: Mary Williams, Pris £2.50, 84tt, cc
Beibl poced i blant ifanc gyda 40 o
storïau mewn lliw llawn.

Beibl Chwilio a Chanfod
Testun: Delyth Wyn, Pris: £4.95, 48tt, cc.
Casgliad o storïau Beiblaidd i blant bach gyda
phethau i chwilio amdanynt ar bob tudalen.

Beibl Lliw y Teulu
Testun: Anna Jane Evans
Pris: £14.99, 160tt, cc
Beibl lliwgar llawn ffeithiau i blant iau. Ceir 365
o storïau, nodiadau esboniadol ac adran o
weddïau addas ar gyfer achlysuron arbennig.

Fy Meibl Lluniau
Testun: Delyth Wyn
Pris: £4.99, 30tt, cc
Llyfr yn cyflwyno storïau o’r Beibl i’r plant ieuengaf.

Llyfr Jig-so; Storïau o’r Beibl
Testun: Brenda Wyn Jones, Pris: £9.99, 14tt, cc.
Llyfr lliwgar a safonol gyda 6 stori o’r Beibl
a 6 jig-so 24 darn i blant.