Diwrnod gêmau yn yr ysgol

Ar gyfer achlysuron chwaraeon arbennig mae gan Cyngor Ysgolion Sul tri adnodd ar gyfer ysgolion sul ac eglwysi. Cynhyrchwyd llyfryn 16 tudalen i’w ddosbarthu i blant 7-11 oed sef Gorau Glas. Mae’r llyfryn yn sôn am bencampwyr Duw sef hanes naw o bencampwyr o’r Beibl a redodd eu ras dros Dduw. Cawn gyfle hefyd i ddod i adnabod athletwyr go-iawn sy’n dilyn Iesu a cheir nifer o bôsau i’w datrys o fyd chwaraeon. Pris y llyfr yw 99c neu 10 am £5. Mewn cydweithrediad â Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru rydym yn falch o ddweud bod pedair mil o gopïau ar gael yn rhad ac am ddim trwy gysylltu gyda Cyngor Ysgolion Sul.

Adnodd arall ar gyfer eglwysi yw gwasanaeth Y Croeso Anferth. Mewn cydweithrediad â Roots for Churches mae’r gwasanaeth yma i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim ac yn canolbwyntio ar letygarwch a rhedeg y ras. Lawrlwythwch YMA (PDF)

Adnodd newydd ar gyfer ei ddefnyddio mewn ysgol gynradd yw Diwrnod Gêmau, sef pecyn o adnoddau mewn cydweithrediad â Scripture Union sy’n cynnig diwrnod o weithgaredd ar gyfer cyflwyno storïau o fyd chwaraeon â stori Sacheus. Ceir yn y pecyn y cyfan sydd ei angen i alluogi tîm o eglwys leol i dreulio diwrnod cyfan yn yr ysgol gynradd yn cyflwyno’r adnodd hwn. Lawrlwythwch YMA (Word)