Cwrs y Beibl

cwrsybeiblYnglŷn â Cwrs y Beibl
Mae y cwrs rhyngweithiol yma yn eich tywys i weld stori fawr y Beibl, o Genesis i Datguddiad. Ar y daith byddwch yn cael offer a sgiliau fydd yn eich helpu i ddarllen a chymhwyso’r Beibl i’ch bywyd bob dydd. Mae pob sesiwn yn cynnwys dysgeidiaeth ar DVD (yn Saesneg), trafodaeth grŵp a chynllun darllen dyddiol. Os ydych ond am edrych ar y ffydd Gristnogol neu’n dilyn Crist ers blynyddoedd, mae Cwrs y Beibl i chi. Awdur a chyflwynydd Cwrs y Beibl yw’r Parch Andrew Ollerton, gweinidog ordeiniedig a diwinydd.

Mae’r Cwrs ar ffurf 16 ffilm 20 munud (sydd yn Saesneg ar hyn o bryd) gyda llawlyfr trafod sydd ar gael yn Gymraeg. I wybod mwy am y cwrs, i brynu y DVD’s neu i lawrlwytho’r ffilmiau ewch draw i: www.thebiblecourse.org

Cefnogir y cynllun gan Gymdeithas y Beibl.

Prynu’r llawlyfrau Cymraeg
Fe’u gwerthir ar y wefan mewn pecynau o 5 am £24.95 (£4.99 yr un) a £2.95 am y cludiant. Cliciwch isod i archebu a thalu drwy PayPal neu gerdyn banc.




Deunydd hyrwyddo Cwrs y Beibl

Rydym wedi cynhyrchu poster ar ffurf JPG sy’n addas i’w osod fel cefndir i greu poster neu garden gwahoddiad i’ch Cwrs y Beibl chi. Lawrlwythwch y JPG a’i osod fel cefndir yn Word, Publisher neu raglen debyg.

poster cwrs y beibl