Ffilmiau Beibl Bach Stori Duw (Lawrlwytho)

Cyfres Ffilmiau Beibl Bach Stori Duw

Ffilmiau wedi’u hanimeiddio yn seiliedig ar Beibl Bach Stori Duw gan Sally Lloyd-Jones a lluniau gan Jago. Addasiad Cymraeg gan Eleri Huws yn cael eu darllen gan Eirian Wyn.

Yn y gyfres mae 44 stori o’r Hen Destament a’r Testament Newydd. Mae ffilmiau Beibl Bach Stori Duw yn gwahodd plant i ddarganfod drostyn eu hunain fod Iesu yng nghanol stori achub fawr Duw, ac yng nghanol eu stori hwythau hefyd.

Dyma ffilmiau sy’n addas i’w defnyddio:
– Fel rhan o wers neu wasanaeth mewn Ysgol
– Fel rhan o sesiwn Ysgol Sul
– Fel eitem mewn oedfa deulu yn y Capel/Eglwys
– Yn y cartref

Manylion technegol
Mae pob ffilm tua 5 munud o hyd ac yn cael eu darparu mewn fformat .MOV sy’n addas i’w chwarae yn ôl ar gyfrifiaduron, gluniaduron a tabledi fel yr iPad. Gellir hefyd mewn osod y ffilmiau mewn i gyflwyniad PowerPoint (nid yw hyn yn gweithio gyda pob fersiwn o PowerPoint).

Noder: rhaid lawrlwytho’r ffeiliau i gyfrifiadur/gluniadau. NI ELLIR EI LAWRLWYTHO’N UNIONGYRCHOL I IPAD. Ond gellir ei symud o gyfrifiadur i iPad wedi ei lawrlwytho.

Sampl o un o’r ffilmiau:

Mae pob stori sy’n cael ei hadrodd yn y ffilmiau yn cyfateb i’r storiau ar y tudalennau a nodir o’r llyfr Beibl Bach Stori Duw. Rhoddir syniad o gynnwys y ffilmiau yn yr hyn a nodir mewn cromfachau. Er enghraifft mae’r ail ffilm, ‘Y dechrau: cartef perffaith’, yn adrodd stori’r creu, y nawfed ffilm yn adrodd hanes Joseff ayyb…

1. Y Stori a’r Gân (Cyflwyniad i Stori fawr Duw) tud. 12

2. Y dechrau: cartref perffaith (Y Creu) tud. 18
3. Y celwydd ofnadwy (Y Cwmp)  tud. 28
4. Dechrau newydd (Arch Noa)  tud. 38
5. Grisiau anferth i’r nefoedd (Tŵr Babel)  tud. 48
6. Y mab hapus (Abraham)  tud. 56
7. Yr anrheg (Abraham ac Isaac)  tud. 62
8. Y ferch doedd neb ei heisiau (Lea a Rachel) tud. 70
9. Y tywysog oedd yn maddau (Joseff)  tud. 76
10. Duw’n achub! (Moses)  tud. 84
11. Duw’n dangos y ffordd (Moses)  tud. 92
12. Deg ffordd o fod yn berffaith (Y Deg Gorchymyn)  tud. 100
13. Arweinydd milwrol (Josua)  tud. 108
14. Y brenin bach ifanc . . . go iawn (Samuel a Dafydd) tud. 116
15. Yr arwr ifanc a’r cawr mawr cas (Dafydd a Goliath)  tud. 122
16. Y Bugail Da (Dafydd y bugail)  tud. 130
17. Y forwyn fach a’r milwr balch (Namaan)  tud. 136
18. Cynllun ‘Dim Rhagor o Ddagrau!’ (Eseia)  tud. 144
19. Daniel a’r noson hunllefus (Daniel)  tud. 152
20. Negesydd Duw (Jona)  tud. 160
21. Byddwch yn barod! (Esra a Nehemeia)  tud. 170
22. Dyma fe! (Geni Iesu) tud. 176
23. Goleuni’r byd i gyd (Y Bugeiliaid)  tud. 184
24. Brenin y Brenhinoedd (Tri Gŵr Doeth)  tud. 192
25. Y Nefoedd yn agor (Ioan Fedyddiwr)  tud. 200
26. I ffwrdd â ni! (Yn yr anialwch)  tud. 208
27. Merch fach a gwraig fregus (Merch Jairus)  tud. 214
28. Sut i weddïo (Gweddi’r Arglwydd)  tud. 222
29. Canu’r gân (Y Bregeth ar y mynydd)  tud. 228
30. Capten y storm (Stori ar y llyn)  tud. 236
31. Llond bol! (Bwydo’r pum mil)  tud. 244
32. Helfa drysor! (Y trysor coll)  tud. 250
33. Ffrind plant bach (Iesu a’r plant)  tud. 256
34. Y dyn heb ffrindiau (dim un) (Sacheus)  tud. 264
35. Rhedeg i ffwrdd (Y mab coll)  tud. 272
36. Golchi â dagrau (Eneinio traed Iesu) tud. 280
37. Y Brenin oedd yn Was (Y Swper Olaf)  tud. 286
38. Noson dywyll yn yr ardd (Gethsemane)  tud. 294
39. Yr haul yn tywyllu (Y Croeshoelio)  tud. 302
40. Syrpréis hyfryd Duw (Yr Atgyfodiad)  tud. 310
41. Mynd adref (Yr Esgyniad)  tud. 318
42. Duw’n anfon help (Y Pentecost)  tud. 326
43. Ffordd newydd o weld (Paul)  tud. 334
44. Breuddwydio am y nefoedd (Datguddiad) tud. 342