|
Cyhoeddiadau’r
Gair
Mae Cyhoeddiadau’r Gair yn gwmni cyhoeddi o dan adain Cyngor Ysgolion
Sul ac Addysg Gristnogol Cymru; sefydliad cendlaethol sy’n
cynrychioli’r prif enwadau Cymraeg yng Nghymru. Sefydlwyd y Cyngor ym
1966 i hyrwyddo gwaith yr ysgolion Sul drwy gyfrwng y Gymraeg.
O’r ganolfan ym
Mhwllheli mae’r Cyngor Ysgolion Sul yn:
> Cyflenwi eglwysi Cymraeg a Saesneg â defnyddiau a llyfrau.
> Hyfforddi athrawon ysgol Sul.
> Trefnu penwythnosau a gweithgareddau i blant ac ieuenctid.
> Cynghori eglwysi am y deunyddiau sydd ar gael.
Sefydlwyd
Cyhoeddiadau’r Gair ym 1992 gyda’r bwriad o gyhoeddi a hyrwyddo
llyfrau Cristnogol Cymraeg. Erbyn hyn mae wedi cyhoeddi dros 300 o deitlau.
Mae yna raglen lawn o gyhoeddiadau, gyda dros 50 o deitlau yn cael eu
cyhoeddi yn flynyddol. Rydym hefyd yn ffynhonell cyhoeddusrwydd a marchnata,
ac yn medru cynorthwyo gweisg eraill, trwy gylchlythyru yn uniongyrchol i
ysgolion Sul, eglwysi a siopau.
Os ydych am dderbyn:
> catalog llawn o’n cyhoeddiadau
> gwybodaeth gyson am ddatblygiadau
> cyflenwad o lyfrau
Yna cysylltwch â'r
Cyfarwyddwr:
Gwasanaeth drwy’r post ar gael.
Parch D. Aled Davies
Cyhoeddiadau’r Gair
Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
Ffôn: (01766) 819120
Ffacs: (01766) 819120
e-bost: aled.davies@bangor.ac.uk
Yn gwasanaethu’r
eglwys leol
|