I gwybodaeth am ein gwaith I digwyddiadau a gweithgareddau I gwirfoddolwyr I
   

I siop y gair I cyhoeddiadu'r gair I dolenni defnyddiol I catalog I ffurflenni I hafan I

   

Digwyddiadau a gweithgareddau

Y mae gan y Cyngor Ysgolion Sul raglen lawn o weithgareddau yn flynyddol ar gyfer plant, ieuenctid ac athrawon ysgol Sul. Rhestrir y prif ddigwyddiadau blynyddol isod.

Gwersyll y Pasg yn Llangrannog
Cynhelir gwersyll Cristnogol i blant 8-11 oed ac ieuenctid 11-16 oed yn flynyddol, o ddydd Mawrth tan ddydd Gwener (yn cychwyn dydd Mawrth ar ôl Llun y Pasg)
Trefnir bws o'r de a'r gogledd.
Gwahoddir arweinwyr profiadol i arwain y sesiynau a gweinyddir yr wythnos gan swyddogion datblygu Cyngor Ysgolion Sul.
Cysyllter â swyddfa Cyngor Ysgolion Sul am fwy o wybodaeth.

Gwersyll Pentywyn
Cynhelir dau wersyll Cristnogol yn ystod mis Gorffennaf, y naill i blant oed cynradd a'r llall i ieuenctid dros 11 oed yn y ganolfan ym Mhentywyn.
Cysyllter â swyddfa Cyngor Ysgolion Sul am fwy o wybodaeth.

Gornest Chwaraeon Pêl droed a Phêl rwyd
Cynhelir gornest chwaraeon cenedlaethol Ysgolion Sul Cymru yn ystod wythnos hanner tymor mis Chwefror bob blwyddyn ar gyfer plant cynradd ac uwchradd.
Cynhelir rowndiau rhanbarthol mewn pedwar canolfan ar hyd a lled Cymru, ac yna cynhelir y rowndiau terfynnol i'r enillwyr yn Aberystwyth.
Cysyllter â swyddfa Cyngor Ysgolion Sul am fwy o wybodaeth

Gornest Mabolgampau
Cynhelir gornest mabolgampau yn flynyddol ym Mangor yn ystod mis Gorffennaf.
Cysyllter â swyddfa Cyngor Ysgolion Sul am fwy o wybodaeth.

Cwis Beiblaidd
Bob blwyddyn yn ystod mis Tachwedd cynhelir gornest cwis Beiblaidd i ysgolion Sul Cymru, gan gynnal gornestai rhanbarthol ar hyd a lled Cymru, ac yna cynhelir y rowndiau terfynnol i'r enillwyr yn Aberystwyth.
Cysyllter â swyddfa Cyngor Ysgolion Sul am fwy o wybodaeth.

Cyrsiau Adnoddau i athrawon ysgol Sul
Bob blwyddyn yn ystod mis Medi trefnir dros 20 noson o gyrsiau hyfforddi ac arddangos adnoddau newydd i athrawon ysgol Sul.
Mae'r canolfannau yn cynnwys:
Yn y de: Caerdydd, Pontarddulais, Llanelli, Caerfyrddin, Llanybydder, Aberystwyth, Aberteifi, Crymych.
Yn y gogledd: Bangor, Caernarfon, Llangefni, Porthmadog, Pwllheli, Dolgellau, Llandudno, Rhuthun, Dinbych, Wrecsam, Wyddgrug, Y Drenewydd.
Trefnir diwrnodau eraill hefyd ar wahoddiad cylchoedd o eglwysi.
Cysyllter â swyddfa Cyngor Ysgolion Sul am fwy o wybodaeth.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Darlith Oedolion ar Faes Llafur yr Ysgol Sul
Bob blwyddyn yn ystod mis Medi trefnir 6 noson i roi rhagarweiniad i Faes Llafur yr Ysgol Sul i oedolion. Y Lleoliadau yw:

Capel y Morfa : Aberystwyth
Tabernacl : Caerfyrddin
Capel y Groes : Wrecsam
Minny Street, Caerdydd
Capel Coffa Henry Rees : Llansannan
Bethania : Rhuthun

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 
           
         
Cyrsiau
Darlith