![]() |
||||||
| I gwybodaeth am ein gwaith I digwyddiadau a gweithgareddau I gwirfoddolwyr I | ||||||
I siop y gair I cyhoeddiadu'r gair I dolenni defnyddiol I catalog I ffurflenni I hafan I |
||||||
A oes gyda chi neu rywun yn eich eglwys neu ysgol Sul amser ac awydd i gynorthwyoyn achlysurol gyda rai agweddau o waith y Cyngor Ysgolion Sul? Ers sefydlu
Cyngor Ysgolion Sul yn 1966 y mae ei waith wedi datblygu a chynyddu yn
sylweddol iawn, yn arbennig efallai yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda
nifer o ddatblygiadau newydd yn cymryd lle. Mae’r angen a’r
galw am wasanaeth Cyngor Ysgolion Sul yn fwy nag erioed, ond gyda’r
cyfyngiadau ariannol presennol, mae’n anodd cyflawni’r holl
ddisgwyliadau sydd arnom. Mae ein rhaglen waith yn cael ei gyfyngu
gan brinder amser ein swyddogion, a byddai cymorth gweinyddol ymarferol
yn caniatau iddynt hwy fedru cyflawni mwy o waith maes allan o’r
swyddfa gydag ysgolion Sul. Rydym yn gofidio bod cymaint o’i
hamser yn gorfod cael ei roi ar gyflawni tasgiau gweinyddol, ac un ffordd
o oresgyn hyn yw gofyn i gyfeillion yr achos am gymorth gwirfoddol o bryd
i’w gilydd. Byddai rhai oriau yma ac acw, neu cymorth ar gyfer rhai
gweithgareddau penodol yn medru gwneud cymaint o wahaniaeth. Ein nod
yn syml yw cryfhau a datblygu gwaith yr ysgol Sul yng Nghymru heddiw -
fe allwch chi chwarae eich rhan yn y gwaith pwysig hwnnw. “Gwyddoch nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.” (1 Cor. 15:58) |
||||||