Gwybodaeth
am ein gwaith.
Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru
yn hybu a hyrwyddo addysg Gristnogol drwy...
gynnig nifer o wasanaethau a chyfleusterau i ysgolion Sul, clybiau Cristnogol
ac eglwysi Cymru.
Y mae’n cyflawni
hyn drwy:
1.drefnu gweithgareddau a digwyddiadau cyffrous i blant a ieuenctid.
Y mae gan y Cyngor Ysgolion Sul Swyddogion Datblygu sy’n trefnu
digwyddiadau yn rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn dod a phlant ac ieuenctid
at ei gilydd mewn awyrgylch Gristnogol Gymraeg.
Y mae’r cyfleoedd yn cynnwys:
Pencampwriaeth chwaraeon (pêl droed a phêl rwyd) mewn rowndiau
rhanbarthol a rowndiau terfynol cenedlaethol ar gyfer plant ac ieuenctid
o 7-18 oed. Mae hyn yn denu dros 1000 o gystadleuwyr yn flynyddol.
Pencampwriaeth cwis Beiblaidd mewn rowndiau rhanbarthol a rownd terfynol
cenedlaethol ar gyfer oed cynradd ac uwchradd.
Gwersylloedd Cristnogol Cymraeg dros benwythnos neu wythnos ar gyfer oed
cynradd ac uwchradd.
Diwrnodau gweithgarwch a hwyl ar gyfer plant.
2. gefnogi
a hwyluso gwaith athrawon Ysgol Sul ac arweinyddion yr eglwysi
Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn sylweddoli bod paratoi hyfforddiant a chefnogaeth
ymarferol i’r arweinyddion yn hanfodol i lwyddiant y gwaith.
Y mae’n gwneud hyn drwy:
Baratoi llenyddiaeth gyda chanllawiau ymarferol a thaflenni gwaith a gwerslyfrau.
Drefnu 20 noson adnoddau ledled Cymru ym mis Medi ar gyfer athrawon ysgolion
Sul ac arweinyddion yr eglwysi.
Gyhoeddi pecynnau hyfforddiant i’r gweithwyr, e.e. Y Llawlyfr Hanfodol
i Athrawon Ysgolion Sul, Caleidosgôb, a Sbectrwm.
Gylchlythyr arolygwyr Ysgolion Sul yn dymhorol gyda gwybodaeth.
3. gyhoeddi
llyfrau ac adnoddau addas i ysgolion Sul a gweithgarwch Cristnogol Cymraeg.
Y mae hyn yn cynnwys:
Llyfrau ac adnoddau ymarferol e.e. Taflenni Gwaith, posau, llyfrau lliwio.
Llyfrau defosiynol, e.e. gweddïau ac oedfaon. Llyfrau gwasanaethau
a drama
Gwerslyfrau a taflenni ysgol Sul ar gyfer pob oed.
Beiblau lliw ar gyfer pob oed.
Posteri, gemau a fideos.
Esboniadau Beiblaidd i oedolion.
Llyfrau lliwgar gyda storïau Beiblaidd
Llyfrau canu, crefft, mapiau a syniadau ymarferol.
4. ddarparu
maes llafur a gwerslyfrau ysgol Sul cyfoes a pherthnasol ar gyfer pob
oed.
Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn ceisio gofalu bod yna ddigonedd o ddarpariaeth
pwrpasol ar gyfer rhychwant oed Ysgolion Sul Cymru.
Y mae’n gwneud hyn trwy:
Gyda’n Gilydd. Deunydd pwrpasol ar gyfer Ysgolion Sul gyda nod ac
amcan, ar gyfer gwersi. Ceir 30 gwers ar gyfer bob blwyddyn. Cyhoeddir
llyfr gwersi ar gyfer athrawon ysgol Sul a llyfrynnau gwaith ar gyfer
y plant a ieuenctid.
Dysgu Gyda’r Efengylau. Deunydd i bontio’r eglwys a’r
cartref.
Cyhoeddi cydymaith a maes llafur Beiblaidd i oedolion ac esboniadau Beiblaidd
mewn cydweithrediad â pwyllgor y Beibl Cymraeg Newydd.
Gofalu am wers ysgol Sul wythnosol yn y papurau enwadol.
Cynnal pwyllgor adnoddau cydenwadol yn darparu deunydd newydd yn rheolaidd.
5. gefnogi
a hyrwyddo gwaith enwadol a chydenwadol ymhlith plant ac ieuenctid
Ffurfiwyd Cyngor Ysgolion Sul gan y 5 enwad (Eglwys Bresbyteraidd Cymru,
Eglwys yng Nghymru, Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Cymru, Undeb
yr Annibynwyr Cymraeg) a hwy sy’n gyfrifol am ei gynnal. Y mae Cyngor
Ysgolion Sul yn hybu a hyrwyddo y gweithgaredd hyn sy’n cael ei
drefnu gan yr enwadau yn ganolog ac ar y cyd.
Y mae hyn yn cynnwys:
Cynnig hyfforddiant yn y colegau enwadol.
Gwasanaethu ar bwyllgor plant ac ieuenctid enwadol.
Cynrychioli ar bwyllgorau plant cenedlaethol a bwydo gwybodaeth yn ôl
i’r enwadau.
Cydweithio yn gydenwadol i drefnu digwyddiadau a chynlluniau.
Mynychu a cynnal stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol o fewn i uned Cytûn
ac mewn stondin gydenwadol yn Eisteddfod yr Urdd.
Trwy gydweithio gyda Cymorth Cristnogol i greu ymwybyddiaeth o anghenion
byd.
6. farchnata
llyfrau, offer a nwyddau perthnasol i waith ysgol Sul
Mae gan Cyngor Ysgolion Sul amrywiaeth o ddeunydd ac offer sy’n
berthnasol i Ysgolion Sul, ac ar gael o’i swyddfeydd yn y de a’r
gogledd, a thrwy’r post.
Y mae hyn yn cynnwys:
Pob math o adnoddau Cymraeg a Saesneg ar gyfer cynnig syniadau ar redeg
a chynnal Ysgol Sul a chlybiau Cristnogol.
Dodrefn perthnasol ar gyfer y festri, e.e. byrddau a chadeiriau isel.
Offer crefft a cherddoriaeth. Offer clyweled/gweledol – OHP’s
ayyb.
Cardiau Nadolig, ar delerau arbennig i Ysgolion Sul a all greu elw i’r
Ysgol Sul leol.
Adnoddau cyfoes megis fideos, CD Roms, gemau a jigsos. Adnoddau addysgu
megis Bwrdd ffelt.
Cynnal siop adnoddau Cymraeg a Saesneg sef Siop y Gair ym Mangor, sy’n
cynnig gwasanaeth archebion post/e-bost.
7. gydweithio
a rhwydweithio gyda mudiadau Cristnogol ac asianataethau eraill.
Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn ceisio ble bynnag bosib i gydweithio gyda
chynifer o fudiadau Cristnogol ac asiantaethau eraill er mwyn hyrwyddo
gwaith Addysg Gristnogol yng Nghymru.
Y mae hyn yn cynnwys:
Cydweithio gyda’r Urdd ar bwyllgor Cyd-ddyn a Christ a chydlynnu
Oedfa Sul yr Urdd.
Trefnu projectau, digwyddiadau ac adnoddau gyda mudiadau megis Cymdeithas
y Beibl, Croesgadwyr, Mudiad Ysgolion Meithrin, ayyb.
Trefnu cynhadledd i weithwyr Cristnogol yng Nghymru.
Hybu ymwybyddiaeth o waith nifer o fudiadau Cristnogol yng Nghymru e.e.
Scripture Gift Mission, Alffa, Project Fideo Iesu ayyb.
Cydweithio gyda Cymorth Cristnogol a Tear Fund i hyrwyddo deunydd a projectau
perthnasol i ysgolion Sul.
8. gynnig
arweiniad a chanllawiau ym myd hyfforddiant a diogelwch.
Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn cymryd materion hyfforddiant a diogelwch
o ddifrif, ac yn pwyso ar eglwysi i ofalu bod polisiau cadarn mewn lle
i sicrhau lles plant a’r gwirfoddolwyr.
Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn anelu i wneud hyn drwy:
Bod yn rhan o weithgorau diogelwch plant y Consultative Group for Ministry
among Children sy’n cynnwys eglwysi Prydain; Cytûn; Criminal
RecordsBureau – asiantaeth cofnodion diogelwch y llywodraeth/Swyddfa
Gartref.
Hysbysu Ysgolion Sul o’r canllawiau diweddaraf.
Cydweithio gyda’r enwadau trwy gynrychiolu ar bwyllgorau diogelwch
cydenwadol.
Cyhoeddi deunydd diogelwch a hyfforddiant yn ôl y galw a’i
ddosbarthu i Ysgolion Sul.
9. annog a
hybu cenhadaeth leol ymhliyh plant a ieuenctid trwy ei Swyddogion Datblygu
Y mae Cyngor Ysgolion Sul trwy ei Swyddogion Datblygu yn barod i ymestyn
allan i’r eglwys leol i hybu cenhadaeth ymhlith plant ac ieuenctid.
Y mae’n gwneud hyn drwy:
Trefnu digwyddiadau cenhadol mewn ardaloedd arbennig.
Cynnig cyngor ymarferol ar sut i sefydlu ac ail gychwyn Ysgol Sul neu
glwb Cristnogol.
Cylchlythyru athrawon ysgolion Sul am adnoddau, cyrsiau a gweithgareddau.
Ymweld ag Ysgolion Sul yn achlysurol i annog a chefnogi.
Ymweld ag oedfaon teulu a Gwyliau Ysgol Sul i gyflwyno neges.
Ymweld â’r cylchoedd enwadol i anerch a rhannu gwybodaeth
am weithgarwch ac adnoddau.
10. rhoi cyfle
i gyfeillion a gwirfoddolwyr hybu gwaith yr Ysgol Sul
Y mae Cyngor Ysgolion Sul yn credu bod lle pwysig i wirfoddolwyr nid yn
unig yn lleol, ond hefyd yn rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r Cyngor
yn elwa’n fawr o ymroddiad nifer o bobl, gan gynnwys:
Aelodau’r Cyngor canolog a’r is-bwyllgorau sy’n trefnu’r
gwaith yn rheolaidd.
Cefnogwyr gweddi i gynnal y gwaith.
Cyfeillion yr Ysgol Sul, sy’n cyfrannu’n rheolaidd at y gwaith.
Cynorthwywyr i redeg gweithgareddau amrywiol.
Gwirfoddolwyr i wersylloedd yr Ysgol Sul.
Gwirfoddolwyr i gynorthwyo gwaith y swyddfa.
Siaradwyr i ymweld ag eglwysi i gyflwyno gwaith y Cyngor Ysgolion Sul. |