Hanfod gwaith Ysgolion Sul a chlybiau Cristnogol yw cyflwyno hanesion Beiblaidd i blant a’u cymhwyso ar gyfer y dydd heddiw. Mae’r gweledol bob amser yn help i ddenu sylw a diddordeb yr ifanc, ac un dull effeithiol o gyflwyno stori yw trwy gyfrwng PowerPoint. Rydym yn llawen i fedru cefnogi athrawon ac arweinwyr prysur trwy ddarparu cyflwyniadau parod yn Gymraeg, a hynny yn rhad ac am ddim. Mae’r storïau gwreiddiol wedi eu cynhyrchu gan gwmni o Ogledd Iwerddon o’r enw “Vision For Children”, ac mae’r hawlfraint ar y cyflwyniadau PowerPoint yn eiddo iddynt hwy. Mae’r fersiwn Gymraeg yn addasiad gan M.I.C. (Menter Ieuenctid Cristnogol), sir Gaerfyrddin.
Ein gweddi wrth i chi ddefnyddio’r adnodd hwn yw bydd Duw yn bendithio’r gwaith, er gogoniant i’w enw, a bod plant Cymru nid yn unig yn cael mwynhad wrth ddysgu am weithredoedd yr Arglwydd ond hefyd yn meithrin ffydd yn Iesu Grist fel ffrind a Gwaredwr.
“Dysga i blentyn y ffordd orau i fyw; a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.” Diarhebion 22:6
Cliciwch y doleni isod i lawrlwytho’r Power Point perthnasol: