Cyfres Golau ar y Gair 2008

Cyfres Golau ar y Gair

Yr hyn a geir o fewn y cynllun yma yw cyfres o 40 o werslyfrau athro a CD Rom ar storïau neu themâu arbennig, gyda pob llyfr yn cynnwys 3 gwers ac un oedfa deulu – digon ar gyfer mis o waith. Un llyfr sydd ei angen ar yr ysgol Sul gan bod y deunydd plant ac ieuenctid yn gynwysiedig fel taflenni ac atodiadau i’w llungopïo. O fewn pob llyfr ceir:

Cynllun gwersi ar gyfer plant meithrin i 5 oed
Ceir yma amrywiaeth o syniadau o dan y penawdau Amser Chwarae, Amser Stori, Amser Creadigol ac Amser Canu a Gweddïo. Yn ychwanegol i hyn, ceir detholiad o daflenni gwaith i’w llungopïo.

Cynllun gwersi ar gyfer plant 6-11 oed
Ceir yma ddewis eang o weithgareddau arbennig i rai rhwng 6-8 oed a 8-11 oed. Nodir amcanion clir ar gyfer pob gwers, gyda ffyrdd gwahanol o gyflwyno a dysgu’r stori, syniadau crefft, cwis, gemau, drama, gweddïau a deunydd defosiwn. Ceir hefyd dewis o daflenni gwaith ar gyfer y ddau grþp oed gwahanol.

Cynllun gwersi ar gyfer rhai rhwng 11-14 oed
Ceir yma dri thema yn deillio o’r stori, gydag amrywiaeth o syniadau creadigol a diddorol, a chyfle hefyd i drafod a sgwrsio.

Atodiadau a deunydd ychwanegol
Ceir nifer o atodiadau hefyd, yn cynnig syniadau ychwanegol a deunydd gweledol. Ar y CD sy’n dod gyda’r llyfr, mae yna ddetholiad ychwanegol o daflenni, rhai yn arbennig gyda phwyslais addysgol, ar gyfer y sefyllfaoedd hynny lle mae’r stori yn cael ei datblygu yn yr ysgol leol. Rhestrir yn y llyfr hefyd rhai adnoddau ychwanegol e.e. llyfr stori ar y thema neu ddeunydd gweledol a chrefft. Cofiwch hefyd bod pob un o’r storïau hyn i’w cael ar ffurf fideo, fel rhan o’r gyfres Beibl Fideo.

Gwasanaeth Teuluol
Paratowyd gwasanaeth teuluol hefyd ar gyfer bob uned, a gobeithio bydd hyn o gymorth i ddod â bwrlwm yr ysgol Sul i mewn i fywyd yr eglwys, gan greu cymuned sy’n dysgu ac addoli gyda’i gilydd.

Rhai egwyddorion sylfaenol
Cynllun Cymreig a Chymraeg ar gyfer eglwysi Cymru.
I fod yn addas ar gyfer ysgolion Sul ac eglwysi bychain a mawr.
Deunydd i bontio rhwng yr eglwys a’r ysgol Sulfel bod oedfaon teuluol yn digwydd yn rheolaidd.

Deunydd atodol sy’n cynnig cyfle i ddatblygu’r thema ymhellach mewn ysgol ddyddiol.
Digon o hyblygrwydd i ddewis a dethol, gan greu gwersi a fydd yn elwa o sgiliau yr arweinwyr.

Mae’r 40 llyfr ar gael hefyd fel pdf’s ar un CD Rom am £19.99 Prynu ar Gwales.

Awdur: Sarah Morris, Pris £6.99 yr un. Ar gael i’w prynu ar Gwales.com
Cyfrolau o wersi ysgol Sul i blant 4-14 oed, yn dilyn stori/thema arbennig.

Y Gwerslyfrau

  • Porthi’r Pum Mil
  • Gideon – yn ymladd dros Dduw
  • Y Nadolig
  • Teulu Newydd Ruth
  • Moses – Y Dywysoges a’r Baban
  • Pasg – Iesu’r Brenin
  • Samuel – Duw yn siarad â Samuel
  • Pentecost – Newyddion Da Iawn
  • Daniel – yn ffau’r Llewod
  • Damhegion Iesu – Cyfrinachau’r Deyrnas
  • Dechrau’r byd: Hanes y Creu
  • Iesu’n dangos ei allu
  • Joseff yn yr Aifft
  • Y Nadolig: Rhodd Duw
  • Iesu: Ffrind mewn angen
  • Moses: Gadael yr Aifft
  • Y Pasg: trwy lygaid Pedr
  • Abraham: ffrind Duw
  • Ysbryd Duw ar waith: Dechrau’r Eglwys
  • Y Beibl: Stori Fawr Duw
  • Iesu’r Meddyg
  • Dafydd: bugail a brenin
  • Elias: negesydd Duw
  • Nadolig: Goleuni’r Byd
  • Jona: Proffwyd Anfodlon
  • Iesu’n croesawu pawb
  • Y Pasg: y daith fawr
  • Jeremeia: proffwyd mewn twll
  • Paul: yn cyfarfod Iesu
  • Moses: Y Deg Gorchymyn
  • Iesu: y Ffrind Gorau
  • Solomon: y brenin doeth
  • Ffrindiau Iesu: rhannu’r newyddion da
  • Nadolig: O’r nef y daeth
  • Josua: yr arweinydd newydd
  • Iesu’r athro da
  • Y Pasg: “Gorffennwyd”
  • Esther: y frenhines ddewr
  • Pentecost: yr Ysbryd Glân yn dod
  • Dafydd: bardd a brenin (Salmau)