Defosiwn Y Pasg

Adnoddau Cyngor Ysgolion Sul
Rhannu’r Newyddion Da
Mewn byd sy’n ein llethu gan newyddion drwg mor aml, cofiwn bod gennym newyddion da oesol i’w rannu gyda’r byd. Yn arbennig yng nghyfnod y Pasg mae neges y bedd gwag ac atgyfodiad Iesu yn newyddion da chwyldroadol, ac yn newyddion da i bawb yn ddiwahan.

Beth am dystio i’r newyddion da hwnnw?

Cyfryngau Cymdeithasol
Ar y cyfryngau cymdeithasol, beth am rannu postiadau o adnodau, posteri lliwgar, newid ein proffil ayyb.

Isod ceir posteri ac adnodau i’w rhannu:

Llun proffil Facebook:

Llun Clawr/Cover Photo Facebook:

Yn weledol yn ein cymunedau
Ac yn weledol yn ein cymunedau o’n cwmpas, beth am arddangos posteri ar ffenestri yn ein cartrefi, neu ar hysbysfyrddau ein heglwysi, neu unrhyw fan cyhoeddus arall? Beth am osod baner ar flaen y capel?

Isod ceir posteri i’w hargraffu, ac un yn arbennig i blant ei liwio i ddangos lliw y Pasg:

Yr Wythnos Fawr mewn hanner awr
25 o leisiau yn dweud stori’r Pasg ar ffonau symudol yn ystod ‘lockdown’ 2020. Mwynhewch. Diolch Karen Owen am gyd-lynnu y ffilm.

Adnodd Newydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru a beibl.net
Mae TRI DIWRNOD yn adnodd gwych ar gyfer y Pasg. Y cyfan ar gael i’w lawrlwytho yn rhad ac am ddim.
Paratoi at y Pasg?

TRI DIWRNOD: Un pwrpas, un person.

Dyma becyn o adnoddau gwych sydd wedi eu paratoi i gynorthwyo pobl i baratoi am y Pasg. Y darlledwr profiadol Martyn Geraint yn cyflwyno’r ffilmiau.

Mae’r pecyn yn cynnwys 5 ffilm a 5 astudiaeth Feiblaidd.

Gellir ei ddefnyddio gyda grŵp yn eich capel/eglwys, ar yr aelwyd, neu mae modd i unigolion hefyd ei ddefnyddio i ddysgu mwy am y Pasg a’i ganlyniadau. Gellir hefyd ei ddefnyddio fel maes i’r Ysgol Sul neu fel sail cyfres o bregethau ar gyfer yr wythnosau cyn y Pasg.

Os am wahodd eraill i ystyried neges y Pasg gyda chi, gallwch lawrlwytho taflenni bach i’w rhannu, neu boster y gellir ei olygu ac ychwanegu’r manylion e.e. amser a man cyfarfod.

Mae’r cyfan ar gael yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. I lawrlwytho’r ffilmiau cliciwch isod a bydd dolen ‘Download’ i weld dan y ffilmiau ar Vimeo.

1. Y Swper Olaf

2. Garth Gethsemane

3. Iesu, Peilat a Barabas

4. Y Croeshoeliad

5. Yr Atgyfodiad

Adnoddau cysylltiedig
Llawlyfr PDF sy’n cynnwys pump astudiaeth feiblaidd llawn
Poster Hyrwyddo (PDF)
Taflenni hyrwyddo (PDF)

Adnoddau newydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Mae Undeb yr Annibynwyr hefyd wedi paratoi gwasanaethau newydd ar gyfer 2019. Mae gwasanaeth Gwener y Groglith ar gael, o waith Andrew Lenny, ac hefyd oedfa Sul y Pasg o waith Carys Ann. Mae hefyd cyfres o astudiaethau Grawys ar gael yno gan Robin Samuel.

Cliciwch yma i fynd at yr adnoddau ar wefan yr Annibynwyr.

Adnoddau newydd Cymdeithas y Beibl

Mae gan Cymdeithas y Beibl ffilm newydd ar gyfer y Pasg eleni sef Stori Ansbaradagaethus Iesu.

Mae gan Cymdeithas y Beibl ffilm ar gyfer plant sef Tri Ffrind a Dyn y Gwyrthiau. Mae hefyd llyfryn ar gael yn adrodd y stori a gwasanaeth ar gyfer oedfa pob oed. Mae nifer o luniau lliwio hefyd ar gael i lawrlwytho o’u gwefan.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Adnoddau Pasg beibl.net
Mae nifer o adnoddau i’w lawrlwytho ar beibl.net hefyd. Cliciwch YMA.
Adnoddau Grawys Yr Eglwys yng Nghymru
Mae cwrs Beiblaidd ar gyfer y grawys hefyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim gan yr Eglwys yng Nghymru. Cliciwch yma.
Adnoddau Pasg Cymorth Cristnogol
Mae gan Gymorth Cristnogol apêl arbennig hefyd, sef Cyfra Dy Fendithion.
Cliciwch yma i weld yr adnoddau ar gyfer eleni gan Cymorth Cristnogol.
Adnoddau Cyhoeddiadau'r Gair
getimg
Defosiwn Gŵyl y Pasg gan D. Ben Rees
Casgliad cynhwysfawr o ddeunydd defosiynol, yn cynnwys darlleniadau, gweddiau, cerddi a myfyrdodau ar gyfer tymor y Grawys a’r Pasg.

Cliciwch yma i brynu copi caled gan Gwales.com

Cliciwch isod i brynu copi digidol (Fformat: PDF):

Yr Wythnos Honno gan Ivor Thomas Rees
Myfyrdodau ar gyfer Yr Wythnos Fawr a’r Pasg gan Ivor Thomas Rees. Ceir darlleniadau, myfyrdodau a gweddïau ar gyfer bob rhan o’r daith – o’r orymdaith fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem, i’r swper yn yr oruwchystafell a’r profiadau ingol yn yr ardd, a arweiniodd at daith llwybr y groes ar Golgotha a thu hwnt, ac i gyffro’r bedd gwag a’r atgyfodiad.

Cliciwch yma i brynu copi caled gan Gwales.com

Cliciwch isod i brynu copi digidol (Fformat: PDF):

Posteri Pasg Lliwgar

Eleni mae CPO (Christian Publicity Organization) wedi cynhyrchu chwech posteri Cymraeg/Dwyieithog yn arbennig ar gyfer Pasg 2019.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac am archebu.