Roots yn Dathlu’r 100 ac yn penodi Cymraes

Ar droad y mileniwm daeth criw o gyhoeddwyr at ei gilydd, gan gynnwys Cyngor Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau’r Gair, a hynny i drafod adnoddau dysgu ac addoli ar gyfer plant, ieuenctid a phob oed. Ar y pryd roedd sawl adnodd un ai wedi diflannu neu mewn perygl o ddod i ben. Gofynnwyd i ddau ohonom, sef Judy Jarvis o’r Eglwys Fethodistaidd, a minnau (yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd Rhwydwaith Plant CTBI ar y pryd) i fynd ati i baratoi cynllun, a allai yn y pendraw arwain at ddatblygu adnodd newydd. Wedi i ni wneud hynny, a chreu cyllideb a ddangosai bod angen dros £200,000 i sefydlu’r fenter a phenodi golygyddion, bu’n rhaid wedyn troi at yr enwadau i weld a oeddent am gefnogi’r fenter. Ymatebodd 5 enwad yn gadarnhaol, sef Eglwys Lloegr, Yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig, Yr Eglwys Fethodistaidd, Christian Education (sef yr hen Gyngor Ysgolion Sul yn Lloegr), a ninnau fel Cyngor Ysgolion Sul.

Roedd CTBI hefyd yn barod i weithredu fel aelodau cysylltiol. Llwyddwyd i sicrhau benthyciadau gan y 5 partner, a sefydlwyd elusen a chwmni newydd yn dwyn y teitl Roots for Churches. Aed ati i gyflogi 3 aelod rhan amser o staff, ac o fewn 18 mis roedd rhifyn 1 o ddau gylchgrawn wedi ei gyhoeddi a’i ddosbarthu. Roedd cryn amheuaeth ar y pryd a allai’r fenter newydd hon lwyddo, ac o ran y partneriaid, doedd na fawr o ddisgwyliad y byddai’r benthyciadau byth yn cael eu talu yn ôl. Ond dros y 10 mlynedd ddilynol, datblygwyd yr adnodd i gynnwys gwefan gynhwysfawr, ac fe adeiladwyd ar y nifer o danysgrifwyr. Llwyddwyd i ad-dalu’r holl fenthyciadau yn ôl i’r partneriaid yn llawn, ac erbyn hyn mae gan Roots 5 aelod o staff llawn amser a sawl gweithiwr rhan-amser. Bob deufis dosbarthir dros 12,000 o’r cylchgrawn ac mae’r banc adnoddau ar y wefan yn adeiladu o rifyn i rifyn. Chwe blynedd nôl cymerwyd cam arall wrth ofalu bod yr holl weddïau ar gyfer y Sul, ynghyd â dwy daflen waith ar gyfer pob wythnos hefyd ar gael yn Gymraeg.

Bellach aeth 18 mlynedd heibio ers sefydlu Roots, a braf oedd cael dathlu carreg filltir yn ddiweddar wrth gyhoeddi ein canfed rhifyn. Newyddion diweddar calonogol hefyd i ni yng Nghymru yw bod un o’r ddau olygydd ar y cylchgrawn yn Gymraes. Ym mis Mawrth penodwyd Clare Williams fel y golygydd plant ac ieuenctid. Cyn ei phenodi fe dreuliodd Clare rhai blynyddoedd yn gweithio fel Swyddog Plant i Esgobaeth Tyddewi. Dymunwn yn dda i Clare yn ei swydd newydd, ac i Roots ar gyrraedd y 100. Cofiwch am yr holl adnoddau Cymraeg sydd ar y wefan, a bod modd tanysgrifio trwy ymweld â www.rootsontheweb.com

Aled Davies,
Cyfarwyddwr cwmni Roots for Churches