Cynigion arbennig o lyfrau i blant, ieuenctid ac oedolion dros gyfnod y lockdown
Cynnig Beibl Lliw i Blant
Rhwng nawr a diwedd Awst 2020 mae gan Cyngor Ysgolion Sul gynnig arbennig lle mae modd archebu 8 o’n Beiblau lliw i blant ac ieuenctid (pris arferol rhwng 12.99 a 17.99) am £10 yr un – gyda chludiant yn rhad ac am ddim.
Y beiblau sydd yn y cynnig arbennig yw:
Beibl Bach i Blant
Beibl bach Stori Duw
Beibl Lliw Stori Duw
Beibl Newydd y Storiwr
Beibl Newydd y Plant
Y Beibl Graffig
beibl.net mewn 365 o storiau
Beibl Blociau
Mae modd archebu a thalu ar lein, ac fe wnawn ni yrru’r llyfrau atoch yn y post.
Cynnig llyfrau stori plant, ieuenctid ac oedolion
Hefyd mae modd prynu detholiad allan o’r 8 llyfr isod (pris arferol 4.99-9.99) am £4 yr un – gyda chludiant yn rhad ac am ddim. Y teitlau sydd yn y cynnig arbennig yw:
Beibl Gweithgaredd Bywyd Iesu
Llyfr sticeri anferth Beiblaidd
Lliwio Llyfr y Llyfrau
Beibl Odl y Plant
Blas ar y Beibl
Blas ar Gristnogaeth Cymru
Hoff Weddiau
Cân fenaid cân