Ffilmiau Cwestiwn – Cyflwyniad 6 rhan i’r ffydd Gristnogol (Lawrlwytho)

Cwestiwn – Cyflwyniad 6 rhan i’r ffydd Gristnogol i’r sawl sydd am holi

Cyflwyniad 6 rhan i’r ffydd Gristnogol i’r sawl sydd am holi. Crewyd gan Jonathan Vaughan Davies. Cyflwynir gan Arfon Jones. Cyhoeddwyd ar y cyd gyda Undeb Bedyddwyr Cymru.

Dyma sampl o un o’r ffilmiau:

Dyma gyflwyniad i thema pob ffilm:

1. Y Creu
Mae’r sesiwn gyntaf yn archwilio beth mae’n ei olygu i gael eich gwneud ‘ar ddelw Duw’.

2. Cynhenid
Mae Cynhenid yn cydio mewn thema sydd yn Creu, ond yn estyn y pwnc y tu hwnt
i ni’n hunain i’r darlun ehangach ynghylch lle dynolryw o fewn y bydysawd. Nod y sesiwn hwn yw awgrymu os mai Duw yw ein crëwr ef yw ein meistr hefyd. Mae’n archwilio ein diddordeb mewn natur ac yn ceisio cyfeirio pobl tuag at ddarganfod y cynllunydd yn Nuw.

3. Tlws
Mae Tlws yn delio â’r cwestiwn o ble byddwn yn canfod ein pwrpas, pam fyddwn yn ei geisio ac i ble gall hyn arwain yn y pendraw. Mae llawer o bobl, yn enwedig oedolion ifanc, yn canfod eu hunain yn gofyn cwestiynau mawr bywyd megis pwy ydyn nhw a pham eu bod nhw yma. Bydd eraill yn dychwelyd at y cwestiwn ar ôl blynyddoedd o weithio yn yr un swydd, o fod yn yr un lle, o fyw’r un bywyd am amser hir.

4. Poen
Mae Poen yn cyflwyno dioddefaint fel testun trafod, ac felly’n faes sensitif a fydd angen ei drin yn ofalus.

5. Cyd-ddigwyddiad
Waeth beth fo’n cenedligrwydd, oed neu ffydd mae yna reddf ddynol gref i weddïo – yn enwedig mewn amseroedd cythryblus neu ansicr. Yn Cyd-ddigwyddiad edrychwn yn fyr ar yr etifeddiaeth gyfoethog o weddi o fewn ein cenedl – ac yn edrych ar beth sy’n digwydd pan fyddwn yn gweddïo. Nod y ffilm hon yw ceisio cyflwyno’r posibilrwydd o berthynas real a phersonol gyda Duw mewn gweddi.

6. Meseia
Meseia yw sesiwn olaf y cwrs ac mae’n canolbwyntio ar bwy yw Iesu, a phwrpas ei fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad. Mae pobl sydd ddim fel arfer â diddordeb mewn crefydd, neu hyd yn oed Cristnogaeth, yn aml yn cael Iesu’n berson cyfareddol ac atynnol ac yn awyddus i wybod mwy amdano. Gyda hynny, ta waeth, daw sawl camddealltwriaeth a hyd yn oed gwyrdroadau i’w wir hunaniaeth, cymeriad a chenhadaeth – gallwn ni siarad amdano gydag awdurdod mawr, nid am ein bod yn gwybod amdano yn y Beibl ond am ein bod yn ei adnabod yn bersonol!

Ffeil ZIP yn cynnwys 6 ffilm fer mewn fformat .MOV (addas i chwarae ar eich cyfrifiadur/gluniadur/tabled) ynghyd ag adnoddau trafod mewn fformat PDF i gyd fynd a’r ffilmiau.

Noder: rhaid lawrlwytho’r ffeiliau i gyfrifiadur/gluniadau. NI ELLIR EI LAWRLWYTHO’N UNIONGYRCHOL I IPAD. Ond gellir ei symud o gyfrifiadur i iPad wedi ei lawrlwytho.
Mae’r ffilmiau hefyd ar gael ar DVD am £7.99