Newyddion Diweddaraf


Cylchlythyr

Cylchlythyr CYSylltiad 2023

Mae cylchlythyr blynyddol Cyngor Ysgolion Sul ar gael isod fel dogfen pdf. Mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac adnoddau, gan gynnwys ffurflenni archebu gwerslyfrau, cardiau nadolig a Beiblau a rgyfer pob oed. Cyfeiria hefyd at y llu o adnoddau sydd ar gael ar y we gennym. Cliciwch ar y botwm isod er mwyn ei ddarllen ar y we fel dogfen pdf – neu mae modd ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur ac argraffu rhannau ohono.

CYSylltiad 2023 (PDF)

Os am archebu unrhyw deitlau yn uniongyrchol dros y we yna cliciwch ar gloriau y llyfrau i fynd i wefan y Cyngor Llyfrau sef gwales.com.

Yn dilyn ailstrwythuro y mae Cyngor Ysgolion Sul newydd sefydlu tri phanel gwaith newydd.
Bydd y paneli newydd hyn yn llywio cyfeiriad gwaith y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.

Mi fydd gan bob panel gynrychiolwyr o’r pum enwad sy’n rhan o Cyngor Ysgolion Sul ynghyd ag aelodau cyfetholedig oherwydd arbenigedd eu gwaith, lle mae modd cydweithio gyda mudiadau eraill ar brojectau arbennig.

Mae rhaglen waith y paneli wedi ei osod i mewn i’r categorïau hyn, sef:

Panel datblygu adnoddau gweinidogaeth
Hwn fydd y panel a fydd yn blaenoriaethu ar anghenion yr eglwysi ar gyfer cyflawni ei weinidogaeth hy adnoddau i’w defnyddio oddi fewn i’r eglwys, sy’n cynnwys gwerslyfrau ysgol Sul ac esboniadau, deunydd defosiynol ar gyfer addoli, deunydd caneuon ac emynau ayyb.

Panel datblygu adnoddau cenhadaeth
Hwn fydd y panel a fydd yn blaenoriaethu ar anghenion yr eglwysi ar gyfer cyflawni ei genhadaeth hy adnoddau i’w defnyddio er mwyn i’r eglwys ymestyn allan i’r gymuned er mwyn cenhadu, sy’n cynnwys llyfrynnau a chylchgronau er mwyn eu cyflwyno yn rhad ac am ddim.

Panel hyfforddi, hyrwyddo a hybu
Hwn fydd y panel a fydd yn canolbwyntio ar sut ydan ni yn cyfathrebu gyda’r eglwysi, ac yn eu hannog a’i hyfforddi i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael.

Rydym yn gyffrous wrth feddwl am bosibiliadau’r paneli hyn, ac yn arbennig os gallwn fod yn offeryn i hybu cydweithio rhyngom fel enwadau a mudiadau Cristnogol er mwyn cyflawni gwaith ymhlith eglwysi Cymraeg ein gwlad.