66 o Wasanaethau Cynradd
Cyfrol o wasanaethau gwreiddiol a newydd gan Huw John Hughes a baratowyd ar gyfer arwain gwasanaethau Cristnogol mewn ysgolion cynradd.
Dwy Law yn Erfyn
Cyfrol sy’n cynnwys deunydd ar gyfer cynnal gwasanaethau plant ac ieuenctid mewn capeli ac ysgolion. Ceir gwasanaeth amserol ar gyfer pob mis o’r flwyddyn.
50 Stori Pum Munud gan Lynda Neilands / Mererid Jones
Casgliad diddorol o 50 stori i blant am bobl o gymeriad cryf ac egwyddorion cadarn o bob rhan o’r byd, yn adlewyrchu gwerth maddeuant a chariad, ffydd a dyfalbarhad, gyda chyfeiriadau Beiblaidd ar gyfer darllen pellach, at ddefnydd ysgol ac Ysgol Sul. 50 llun cartŵn du-a-gwyn. Fformat: PDF.
52 o Syniadau ar Gyfer Gwasanaethau Cynradd gan Chris Chesterton a Pat Gutteridge, addaswyd a chyfieithwyd gan Barbara Owen
Cyfrol yn cynnwys 52 o syniadau bywiog a ffres ar gyfer gwasanaethau cynradd yn cynnwys darlleniadau, storiau a gweddiau, dramâu i’r plant, tudalennau i’w llungopio a themâu wedi’u cysylltu a phrofiadau’r plant. Fformat: PDF.
Blwyddyn Ysgol – 200 o Wasanaethau ar Gyfer Ysgolion Cynradd gan Eiflyn Roberts
Casgliad gwerthfawr o 200 o wasanaethau amrywiol sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm Cymreig o ran themâu, pob gwasanaeth yn cynnwys cyfarwyddiadau am gyfarpar gweledol neu glywedol, cyflwyniad o wybodaeth am y thema a gweddi glo fer; i ddisgyblion CA 1 a 2. Fformat: PDF.
Bore Da Blant – Gwasanaethau Oed Cynradd yn Seiliedig ar Fywyd Iesu gan Beti-Wyn James
Addasiad Cymraeg o gyfrol werthfawr yn cynnwys 30 o wasanaethau amrywiol, sef stori, myfyrdod, gweddi fer ac awgrymiadau am gymhorthion gweledol yn ymwneud â phynciau amrywiol ac a gwyliau Cristnogol, at ddefnydd mewn ysgolion cynradd ac ysgolion Sul. 13 llun du-a-gwyn. Fformat: PDF.
Dewch i Addoli gan Helena Jones
Casgliad o wasanaethau ar gyfer plant 4-7 oed yn yr ysgol gynradd. Rhennir y llyfr yn bum adran hwylus, ac mae pob braslun a gynhwysir yn benodol Gristnogol ei naws. Addas ar gyfer athrawon, neu bobl sy’n ymweld ag ysgolion i gymryd rhan yn y gwasanaeth. Fformat: PDF.