Llyfrau Adnoddau Gwaith Plant

getimg-7
Cyntaf i Ateb gan Aled Davies
Llyfr yn llawn posau amrywiol wedi’u seilio ar straeon o’r Beibl, ynghyd â chwestiynau ac atebion. Dyma lyfr sy’n cynnwys cannoedd o gwisiau ar ffurf ‘cyntaf i ateb’, ‘gwir neu gau’, neu ‘dewis o dri’. Ceir hefyd ddewis o bosau, chwileiriau a chroeseiriau, a fydd yn profi eich gwybodaeth o’r Beibl. Fformat: PDF
getimg-4
Dal D’afal – Ar Gyfer Gweithio gyda Phlant gan Einir Jones
Cyfrol gan y grŵp ymgynghorol ar weinidogaeth ymhlith plant. Mae’n ymdrin â phynciau megis datblygiad plant, sgiliau arwain, cynllunio rhaglenni, plant a’r gymuned, ymwybyddiaeth fugeiliol, ysbrydolrwydd a’r Beibl. Addasiad Cymraeg o Core Skills – For Children’s Work. Fformat: PDF.
getimg-4
Gêmau Gwirion! gan Gwydion Evans
Casgliad difyr o 50 o gêmau amrywiol i’w defnyddio mewn clybiau plant ac ieuenctid yn cynnwys cyfarwyddiadau clir a chyfeiriadau Beiblaidd yn gysylltiedig â phob gêm. Fformat: PDF.
getimg-4
Cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant: Taflenni Lliwio i Blant Bach gan Delyth Wyn
Casgliad amrywiol o daflenni lliwio y gellir eu dyblygu, yn darlunio 52 o straeon Beiblaidd o’r Hen Destament a’r Testament Newydd, gyda chyfeiriadau at y testun Beiblaidd, i gyd-fynd â chyfres o daflenni storïau Beiblaidd; i blant 3-5 oed. Fformat: PDF.
getimg-4
Cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant: Taflenni Lliwio i Blant gan Delyth Wyn
Casgliad amrywiol o daflenni lliwio y gellir eu dyblygu, yn darlunio 52 o straeon Beiblaidd o’r Hen Destament a’r Testament Newydd, gyda chyfeiriadau at y testun Beiblaidd, i gyd-fynd â chyfres o daflenni storïau Beiblaidd; i blant 3-5 oed. Fformat: PDF.
getimg-4
Cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant: Taflenni Storïau Beiblaidd i Blant 1: Yr Hen Destament gan Delyth Wyn
Casgliad amrywiol o daflenni y gellir eu dyblygu, yn cyflwyno 30 o straeon o’r Hen Destament, gyda chyfeiriadau at y testun Beiblaidd, i gyd-fynd â chyfres o daflenni lliwio; i blant 3-8 oed. Fformat: PDF.
getimg-4
Cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant: Taflenni Storïau Beiblaidd i Blant 2: Y Testament Newydd gan Delyth Wyn
Casgliad amrywiol o daflenni y gellir eu dyblygu, yn cyflwyno 22 o straeon o’r Testament Newydd, gyda chyfeiriadau at y testun Beiblaidd, i gyd-fynd â chyfres o daflenni lliwio; i blant 3-8 oed. Fformat: PDF.
getimg-4
Cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant: Taflenni Gwaith Beiblaidd i Blant gan Delyth Wyn
Casgliad amrywiol o daflenni gwaith Beiblaidd ar gyfer plant 7-11 oed y gellir eu dyblygu, yn cyflwyno 52 o straeon o’r Beibl, gyda chyfeiriadau at y testun Beiblaidd, i gyd-fynd â chyfres o daflenni lliwio. Fformat: PDF.
getimg-4
Cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant: Taflenni Gwaith Beiblaidd i Blant Bach gan Delyth Wyn
Casgliad amrywiol o daflenni gwaith Beiblaidd ar gyfer plant 5-7 oed y gellir eu dyblygu, yn cyflwyno 52 o straeon o’r Beibl, gyda chyfeiriadau at y testun Beiblaidd, i gyd-fynd â chyfres o daflenni lliwio. Fformat: PDF.
getimg-4
Cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant: Taflenni Cwis Beiblaidd gan Delyth Wyn
Casgliad amrywiol gwisys Beiblaidd ar gyfer plant 5-7 oed y gellir eu dyblygu, yn cyflwyno 52 o straeon o’r Beibl, i gyd-fynd â gweddill cyfres Taflenni Beiblaidd i Blant. Fformat: PDF.