CYNLLUN i gefnogi eich ysgol leol…
cyfle i eglwysi lleol gynorthwyo eu hysgolion lleol
Cynllun Cronfa Illtud
- Y mae ysgolion yn cwyno am ddiffyg cyllid.
- Y mae prinder adnoddau Cristnogol mewn ysgolion.
- Y mae eglwysi yn pryderu am addysg Gristnogol.
- Dyma gyfle arbennig i wneud rhywbeth creadigol i wella’r sefyllfa!
CYFLE I EGLWYSI GYFLWYNO RHODD O LYFRGELL GRISTNOGOL GYMRAEG I YSGOL LEOL.
Trwy’r cynllun arbennig yma, y mae’n bosibl cyflwyno llyfrau darllen at wasanaeth eich ysgol gynradd leol.
Mae’r casgliad yn cynnwys 30 o’r llyfrau diweddaraf, lliwgar ar gyfer rhai rhwng 5-11 oed.
Pris arferol y llyfrau : £125. Pris arbennig gan gynnwys cludiant : £60
Gyrrwch siec am £60, yn daladwy i Cyngor Ysgolion Sul, ac fe yrrwn ni werth £125 o lyfrau i chi i’w cyflwyno i ysgol o’ch dewis.
I archebu gyrrer siec am £60, yn daladwy i ‘Cyngor Ysgolion Sul’, at : Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul, Ael y bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH
Pris arferol y llyfrau : £125. Pris arbennig gan gynnwys cludiant : £60