Adnoddau Cenhadol Nadolig 2020 – Clywch lu’r Nef!

Adnoddau Cenhadol Nadolig 2020 – Clywch lu’r Nef!
Clywch lu’r Nef yn seinio’n un!

Ar gyfer Nadolig 2020 mae Cyngor Ysgolion Sul wedi paratoi cyfres newydd o adnoddau a fydd yn galluogi Eglwysi i gyflwyno neges a llawenydd y Nadolig o fewn ein cymunedau mewn ffordd drawiadol ac effeithiol.

Yn ganolbwynt i’r cyfan mae cylchgrawn lliwgar 16 tudalen sy’n cynnwys darlleniadau Beiblaidd, erthygl yn sôn am ‘Beth yw’r Nadolig?’ gan Arfon Jones, posau, croesair, rysáit Cacen Nadolig, cerddi, gweddïau, tudalen i’r plant a nifer o erthyglau diddorol. Mae modd prynu copïau o’r cylchgrawn am 99c yr un, neu becynnau o 100 gopi am £50 (50c yr un). Mae modd hefyd archebu copïau gyda thudalen gefn a all gynnwys manylion lleol eich eglwys/amseroedd oedfaon Nadolig ayyb… Os am archebu rhai penodol i’ch eglwys/ardal rhaid archebu isafswm o 250 copi am £250, neu 500 copi am £350 neu 1,000 copi am £500. Ni ellir argraffu niferoedd gwahanol i’r rhain.

Yn ogystal hefyd mae baner liwgar ar gyfer ei harddangos tu allan i’ch capel (2 fedr wrth 0.5 medr) ar gael am £25 yr un.

Y fanner feinil PVC 6 troedfedd wrth 2 droedfedd:

Ffurflen archebu

Sampl o’r cylchgrawn: