Y 4 Pwynt (the4points.com)

4-points

T4PTRACKBMae Y 4 Pwynt yn dract Cristnogol sydd ar gael mewn nifer o ieithoedd gan gynnwys erbyn hyn y Gymraeg! Mae’r tract yn defnyddio pedwar symbol – calon (mae Duw’n fy ngharu) croes X (Rydw i wedi pechu), croes Crist (Bu Iesu farw drosof) a marc cwestiwn (Rhaid i mi benderfynu byw er mwyn Duw).

I archebu’r tractiau Cymraeg cliciwch YMA.

blackband1Ar y wefan yn ogystal mae llawer iawn o adnoddau di-iaith gan gynnwys breichledau, capiau, sticeri, crysau-t a hwdis. Dyma adnodd hynod effeithiol i genhadu ymysg plant a ieuenctid.

Ar y tract o dan y symbolau mae’r esboniadau isod:

MAE DUW’N FY NGHARU
Golwg sydyn neu grynodeb o’r Beibl cyfan ydi’r pedwar pwynt, a’r peth cyntaf sydd angen i ti wybod ydi bod Duw wedi gwirioni arnat ti. Mae ei gariad yn ddiderfyn ac yn gwbl ddiamod. Fedri di wneud dim i berswadio Duw i dy garu di’n fwy na llai nag y mae’n dy garu ar hyn o bryd. Y peth mwyaf y mae Duw eisiau yw dy garu di a chael ei garu gennyt.
Salm 100 ad. 5, 1 Ioan 3 ad 16

RYDW I WEDI PECHU
Pechod, meddai’r Beibl, ydi’r hyn sy’n ein gwahanu ni oddi wrth Dduw. Pechod ydi dewis byw er ein mwyn ein hunain yn hytrach nag er mwyn Duw. Rydym yn pechu wrth anwybyddu Duw a thorri ei ddeddfau a gwneud pethau yn ein ffordd ein hunain. Mae pechod yn chwalu’n perthynas â ffrindiau, teulu a Duw. Mae’r Beibl yn dweud bod pechod yn arwain at farwolaeth.
Eseia 59 ad 2, Rhufeiniaid 6 ad 23

BU IESU FARW DROSOF
Mae’r trydydd pwynt hwn yn sôn am un o’r pethau mwyaf a ddigwyddodd yn hanes y ddynoliaeth, ond caiff ei gamddeall yn aml. Y gyfrinach ydi sylweddoli mai marwolaeth ydi’r gosb am bechod. Mae pawb ohonom wedi pechu ac yn haeddu marw. Ond mae Duw, sy’n llawn o drugaredd, wedi dy garu gymaint nes iddo anfon Iesu i farw yn dy le. Bu Iesu farw er mwyn i ni gael bywyd tragwyddol.
1 Ioan 4 ad 9–10, Rhufeiniaid 5 ad 8

RHAID I MI BENDERFYNU BYW ER MWYN DUW
Mae Duw wedi gwneud pob dim posibl i ddangos mor bwysig wyt ti iddo. Nawr, mae’n rhaid i ti benderfynu beth i’w wneud. Mae Duw’n cynnig y bywyd llawnaf posibl i ti am byth. Y cwbl sydd raid i ti ei wneud yw cyfaddef dy fod wedi pechu, gofyn am faddeuant Duw, a phenderfynu byw iddo ef yn unig weddill dy fywyd. Ti bia’r dewis.
Deuteronomium 30 ad 19, 1 Ioan 1 ad 9

GWEDDI
O Dduw, diolch dy fod yn fy ngharu, a diolch dy fod eisiau’r gorau i mi ym mhob sefyllfa. Mae’n ddrwg gen i am dy anwybyddu di a gwneud pethau yn fy ffordd fy hun. Rwy’n sylweddoli fod fy mhechod wedi dy frifo di a’r bobl o’m cwmpas, ac mae’n wir ddrwg gen i am hynny. Diolch, Iesu, am ddod i gymryd y gosb am fy mhechod. Diolch i ti am roi dy fywyd drosof. Maddau i mi, a helpa fi nawr wrth i mi benderfynu byw er dy fwyn di yn unig. Amen.