Ffilmiau Torri Syched (Lawrlwytho)

Ffilmiau Torri Syched

Mae Torri Syched yn gyfres o ffilmiau byr yn trafod bywyd a ffydd, yn addas ar gyfer ieuenctid hŷn ac oedolion. Maen nhw wedi eu ysgrifennu a’u cyflwyno gan Rhys Llwyd.

Mae’r dair ffilm Torri Syched bellach ar gael fel pecyn i’w lawrlwytho. Mae’r pecyn yn dod gyda llyfryn trafod. Yn y pecyn mae:

Torri Sychedd 001 | Derbyniad
Mae’r ffilm hon yn trafod y duedd sydd ynom ni i gyd i blesio pawb, a hynny am ein bod ni am gael ein derbyn. Rydym ni eisiau cael ein derbyn gan ein cyfoedion, ein teulu a’n ffrindiau ond yn bennaf rydym ni eisiau cael ein derbyn gan Dduw. Esbonia’r ffilm yma nad oes rhaid i ni blesio Duw er mwyn cael ein derbyn gan ei fod yn ein derbyn fel ag yr ydym ni – mae’n ein derbyn ni er gwaethaf yr hyn ydym ni nid oherwydd yr hyn ydym ni.

Torri Syched 002 | Llenwi
Mae’r ffilm hon yn trafod ein tuedd i geisio llenwi ein bywydau gyda phob math o bethau fel dillad, bwyd, ceir, technoleg – popeth y mae ein cymdeithas fodern yn taflu atom ni. Rydym ni i gyd i ryw raddau wedi syrthio i’r fagl ac yn trio llenwi ein bywydau â phethau. Yn amlach na pheidio dydy’r profiad ddim cystal ag addewid yr hysbysebion lliwgar. Teimlad gwag sy’n dilyn. Mae Duw yn ein gweld ni heddiw yn ceisio llenwi ein bywydau â phob math o bethau ond mae un rhan o’n bywydau na ellir ei lenwi ond gan un peth, sef ffydd yn Nuw.

Torri Syched 003 | Dyfodol
Rydym ni i gyd yn hoffi gwybod beth sydd rownd y gornel nesaf, am wybod sut mae’r stori’n gorffen. Ond mae ein bywydau ni, ar y cyfan, yn ansicr – dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd fory gan fod y byd yma’n taflu pob math o bethau annisgwyl ac anodd i’n cyfeiriad. Mae’r ansicrwydd yma ynglŷn â’n dyfodol yn ein harwain i bryderu. Yn amlach na pheidio mae ein pryder yn seiliedig ar ddim byd mwy na speculation a dychmygu’r worst case senario. Mae pryder am y dyfodol yn ein rhwystro rhag mwynhau bywyd yn y presennol. Duw sy’n dal ein dyfodol ac felly drwy ymddiried ein dyfodol iddo fe gallwn ni gael ein rhyddhau i fwynhau bywyd heddiw yn ei gyflawnder.

Llyfryn Trafod
Yn cynnwys arweiniad sut i gynnal noson/oedfa Torri Syched ynghyd ag adnoddau a chwestiynnau trafod i gyd fynd gyda’r ffilmiau.

Dyma sampl o un o’r ffilmiau:

Torri Syched 002 | Llenwi from Torri Syched on Vimeo.

Ceir y dair ffilm mewn fformat .MOV (addas i’w chwarae ar eich cyfrifiadur/gluniadur/tabled heb gysylltiad gwe) a’r llyfryn trafod mewn fformat PDF am bris arbennig o £4.99 yn unig.

Mae’r ffeil zip bron yn 1GB felly rhaid cael cysylltiad rhyngrwyd cyflym i lawrlwytho’r ffeil mewn amser rhesymol. Os yw eich cysylltiad rhyngrwyd yn araf fe gymerith fwy o amser.

Noder: rhaid lawrlwytho’r ffeiliau i gyfrifiadur/gluniadau. NI ELLIR EI LAWRLWYTHO’N UNIONGYRCHOL I IPAD. Ond gellir ei symud o gyfrifiadur i iPad wedi ei lawrlwytho.
Mae’r ffilmiau hefyd ar gael ar DVD am £7.99