Cyfres Golau ar y Gair (e-lyfrau)

Cyfres Golau ar y Gair

Yr hyn a geir o fewn y cynllun yma yw cyfres o 40 o e-werslyfrau athro ar storïau neu themâu arbennig, gyda pob llyfr yn cynnwys 3 gwers ac un oedfa deulu – digon ar gyfer mis o waith. Un e-lyfr sydd ei angen ar yr ysgol Sul gan bod y deunydd plant ac ieuenctid yn gynwysiedig fel taflenni ac atodiadau i’w llungopïo. O fewn pob e-lyfr ceir:

Cynllun gwersi ar gyfer plant meithrin i 5 oed
Ceir yma amrywiaeth o syniadau o dan y penawdau Amser Chwarae, Amser Stori, Amser Creadigol ac Amser Canu a Gweddïo. Yn ychwanegol i hyn, ceir detholiad o daflenni gwaith i’w llungopïo.

Cynllun gwersi ar gyfer plant 6-11 oed
Ceir yma ddewis eang o weithgareddau arbennig i rai rhwng 6-8 oed a 8-11 oed. Nodir amcanion clir ar gyfer pob gwers, gyda ffyrdd gwahanol o gyflwyno a dysgu’r stori, syniadau crefft, cwis, gemau, drama, gweddïau a deunydd defosiwn. Ceir hefyd dewis o daflenni gwaith ar gyfer y ddau grþp oed gwahanol.

Cynllun gwersi ar gyfer rhai rhwng 11-14 oed
Ceir yma dri thema yn deillio o’r stori, gydag amrywiaeth o syniadau creadigol a diddorol, a chyfle hefyd i drafod a sgwrsio.

Atodiadau a deunydd ychwanegol
Ceir nifer o atodiadau hefyd, yn cynnig syniadau ychwanegol a deunydd gweledol. Rhestrir yn y llyfr hefyd rhai adnoddau ychwanegol e.e. llyfr stori ar y thema neu ddeunydd gweledol a chrefft.

Gwasanaeth Teuluol
Paratowyd gwasanaeth teuluol hefyd ar gyfer bob uned, a gobeithio bydd hyn o gymorth i ddod â bwrlwm yr ysgol Sul i mewn i fywyd yr eglwys, gan greu cymuned sy’n dysgu ac addoli gyda’i gilydd.

Rhai egwyddorion sylfaenol
Cynllun Cymreig a Chymraeg ar gyfer eglwysi Cymru.
I fod yn addas ar gyfer ysgolion Sul ac eglwysi bychain a mawr.
Deunydd i bontio rhwng yr eglwys a’r ysgol Sulfel bod oedfaon teuluol yn digwydd yn rheolaidd.

Deunydd atodol sy’n cynnig cyfle i ddatblygu’r thema ymhellach mewn ysgol ddyddiol.
Digon o hyblygrwydd i ddewis a dethol, gan greu gwersi a fydd yn elwa o sgiliau yr arweinwyr.

Awdur: Sarah Morris, Pris: Dim ond 90 ceiniog yr un.
Cyfrolau o wersi ysgol Sul i blant 4-14 oed, yn dilyn stori/thema arbennig.

Y Gwerslyfrau


Abraham – Ffrind Duw
Gwerslyfr ar hanes Abraham, ffrind Duw.


Dafydd – Bardd a Brenin
Gwerslyfr ar hanes Dafydd, bardd a brenin.


Dafydd – Bugail a Brenin
Gwerslyfr ar hanes Dafydd, y bugail a’r brenin.


Damhegion Iesu
Gwerslyfr ar ddamhegion Iesu yn y Testament Newydd.


Daniel yn ffau’r llewod
Gwerslyfr ar hanes Daniel yn ffau’r llewod.


Dechrau’r Byd – Hanes y Creu
Gwerslyfr yn seiliedig ar Genesis 1 a 2.


Elias – Negesydd Duw
Gwerslyfr ar hanes y Proffwyd Elias, negesydd Duw.


Esther – Y Frenhines Ddewr
Gwerslyfr ar hanes Esther, y frenhines ddewr.


Ffrindiau Iesu – rhannu’r Newyddion Da
Gwerslyfr am ffrindiau Iesu yn rhannu’r newyddion da.


Gideon – yn ymladd dros Dduw
Gwerslyfr am Gideon, dyn cyffredin a ddewiswyd gan Dduw ar gyfer antur gyffrous.


Iesu – Ffrind mewn Angen
Gwerslyfr ar hanes Iesu’n troi’r dŵr yn win ac hefyd hanes Sacheus.


Iesu – y ffrind gorau
Gwerslyfr ar hanes Iesu a’i ffrindiau o Fethania – Martha, Mair a Lasarus.


Iesu’n Croesawu Pawb
Gwerslyfr ar hanes Iesu yn iacháu pobl o’r gwahanglwyf, Luc 17.


Iesu’n dangos ei allu
Gwerslyfr ar hanes Iesu’n tawelu’r storm ar Llyn Galilea.


Iesu’r Athro Da
Gwerslyfr ar hanes Iesu’r Athro Da yn seiliedig ar Mathew 6.


Iesu’r Meddyg
Gwerslyfr ar hanes Iesu a Bartimeus yn seiliedig ar Marc 10.


Jeremeia – Proffwyd mewn twll
Gwerslyfr ar hanes Jeremeia, proffwyd mewn twll.


Jona – Proffwyd Anfodlon
Gwerslyfr ar hanes Jona, y proffwyd anfodlon.


Joseff yn yr Aifft
Gwerslyfr ar hanes Joseff yn yr Aifft.


Josua – yr arweinydd newydd
Gwerslyfr ar hanes Josua, yr arweinydd newydd.


Moses – Gadael yr Aifft
Gwerslyfr ar hanes Moses yn gadael yr Aifft.


Moses – Y Deg Gorchymyn
Gwerslyfr ar hanes Moses yn derbyn y Deg Gorchymyn.


Moses – Y Dywysoges a’r Baban
Gwerslyfr ar hanes y Moses ifanc.


Paul – yn cyfarfod Iesu
Gwerslyfr ar hanes yr Apostol Paul yn cyfarfod Iesu.


Pentecost – Newyddion Da Iawn
Gwerslyfr ar hanes y Pentecost, dechrau’r eglwys.


Pentecost – yr Ysbryd Glân yn dod
Gwerslyfr ar hanes y Pentecost, dyfodiad yr Ysbryd Glân.


Porthi’r Pum Mil
Gwerslyfr ar hanes Iesu’n porthi’r pum mil.


Ruth – Teulu Newydd Ruth
Gwerslyfr ar hanes Ruth a’i theulu newydd.


Samuel – Duw yn siarad â Samuel
Gwerslyfr ar hanes y proffwyd Samuel.


Solomon – y brenin doeth
Gwerslyfr ar hanes Solomon, y brenin doeth.


Y Beibl – Stori Fawr Duw
Gwerslyfr ar y Beibl, sef stori fawr Duw.


Y Nadolig – Goleuni’r Byd
Gwerslyfr ar hanes y Nadolig, goleuni’r byd. Mathew a Luc 1 a 2.


Y Nadolig – Newyddion Da
Gwerslyfr arall ar hanes y Nadolig, goleuni’r byd. Luc 1 a 2.


Y Nadolig – Rhodd Duw
Gwerslyfr pellach am ŵyl y Nadolig, rhodd Duw. Luc 1 a 2.


Y Pasg – Gorffennwyd
Gwerslyfr ar hanes y Pasg – Gorffennwyd!


Y Pasg – Iesu’r Brenin
Gwerslyfr arall am hanes y Pasg, yn seiliedig ar Marc 14-16.


Y Pasg – trwy lygaid Pedr
Gwerslyfr ar hanes y Pasg, trwy lygaid Pedr.


Y Pasg – Y Daith Fawr
Gwerslyfr am hanes Iesu ar ddechrau wythnos y Pasg.


Ysbryd Duw ar Waith – Dechrau’r Eglwys
Gwerslyfr ar hanes ysbryd Duw ar waith, sef dechrau’r eglwys.