Beibl Byw

cover facebook beibl byw

Beibl Byw – ymgyrch gan Gymdeithas y Beibl, y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru i hybu darllen y Beibl trwy gyfrwng y Gymraeg

DARGANFOD – DARLLEN – DEALL

Gyda chyhoeddi dau fersiwn o beibl.net, y Beibl Canllaw, a nifer o adnoddau digidol newydd i hybu’r Beibl cynhaliwyd ymgyrch Beibl Byw yn ystod 2016 yn canolbwyntio ar helpu bobl i agor, i ddarllen, ac i ymateb i neges y llyfr rhyfeddol hwn. Mae’r Beibl yn ganllaw sy’n cynnig arweiniad a gobaith i’n bywydau. Ar gyfer 2017 datblygwyd yr ymgyrch i Blwyddyn Byw’r Beibl sy’n canol;bwyntio ar greu disgyblion a chael pobl i drafod cynnwys y Gair.

Gan fod Gobaith i Gymru, Cymdeithas y Beibl a’r Cyngor Ysgolion Sul wedi buddsoddi amser ac adnoddau i baratoi y gwahanol fersiynau credwn y gall marchnata a hybu’r adnoddau hyn fod yn gyfrwng bendith i lawer. Gwerthfawrogir pob cefnogaeth gan yr enwadau a mudiadau Cristnogol yng Nghymru efo’r fenter gyffrous hon.

Pwyslais ymgyrch Beibl Byw yw cael pawb i feddwl am ffydd creadigol o annog pobl i droi at y Beibl o’r newydd. Cofiwch rannu eich syniadau CHI ar y dudalen hon er mwyn annog eraill.

Catlog adnoddau Beibl Byw

Dyma gatlog byr o adnoddau y gellir eu defnyddio fel rhan o ymgyrch Beibl Byw i annog pobl i ddarllen a deall y Beibl. Cliciwch YMA i lawrlwytho.

Llyfryn ymgyrch Beibl Byw
Paratowyd llyfryn 20 tudalen lliw llawn sy’n cyflwyno beth yw’r Beibl a pham ei fod yn berthnasol i ni heddiw. Maent ar gael am y pris arbennig o £30 am 100. Dyma sampl o’r llyfryn:

Logo Beibl Byw

Cliciwch YMA i lawrlwytho ZIP yn cynnwys fersiynau ansawdd uchel o logo Beibl Byw a Byw y Beibl.

Neu am fersiynau JPG ansawdd is cliciwch ar y logos isod ac arbed y graffeg i’ch cyfrifiadur.

Beibl_Byw_colour Beibl_Byw_black

Dyma rai syniadau sydd eisoes wedi dod i law i wireddu Beibl Byw a Byw y Beibl:

Annog pobl i ddarllen y Beibl mewn blwyddyn drwy lansio cynlluniau darllen y Beibl mewn blwyddyn ar ffurf App.

Rhoi’r Beibl yn rhodd – annog person ifanc mewn eglwys i roi copi yn rhodd i ffrind na fyddai yn darllen y Beibl fel arfer, ac annoog pobl hŷn mewn eglwysi lle nad oes plant fel arfer i feddwl i bwy y medren nhw roi copi o’r Beibl yn rhodd.

Cwrs y Beibl – ar gael yn y Gymraeg! Beth am gynnal y cwrs 8 wythnos adeiladol hwn yn eich eglwys chi yn ystod y flwyddyn?

Diwrnod y Llyfr (Mawrth 3ydd) – gellir annog plant i wisgo fel eu hoff gymeriad o’r Beibl.

Adeg y Pasg a’r Nadolig gellid meddwl am sut i rannu darlleniadau neges y gwyliau hyn mewn gwahanol ffyrdd.

Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am … ? Gall gwahanol elusennau Cristnogol baratoi adnoddau neu gynnal cyfarfodydd sy’n rhannu’r hyn sydd gan y Beibl i’w ddweud am eu maes arbennigol nhw e.e. newyn, tlodi, cyfiawnder, heddwch, yr amgylchfyd, y teulu, a llawer mwy.

Oes yna ddigon o ddewis o Feiblau yn ein pulpudau ac at ddefnydd yr Ysgol Sul – gan gynnwys y tri fersiwn Cymraeg?

Gellir annog pobl i rannu eu hoff adnodau ar y cyfryngau cymdeithasol – gyda nodyn cryno yn dweud pam.

Mae cyfle i gydweithio ag ysgolion cynradd ac uwchradd lleol drwy gyflwyno copiau o beibl.net neu 365 o Storïau obeibl.net (y Beibl lliw) yn rhodd.

Oes yna garchar, ysbytai, gwestai neu gartrefi henoed yn yr ardal a fyddai’n gwerthfawrogi derbyn copi o’r Beibl? Beth am y Llyfrgell lleol? Gellid cyflwyno copïau o’r Beibl a llyfrau Cristnogol eraill yn rhodd iddynt.

Beth am gynnal ymgyrchoedd yn canolbwyntio ar oedrannau gwahanol gan gynnwys y selogion a phobl y tu allan i’r eglwys.

Beth am gynnal Marathon darllen y Beibl neu hanner Marathon darllen y Testament Newydd a chodi arian i achos da.

Beth am golofn fisol yn y papur bro lleol? Falle y cewch gyfle i ddweud gair ar y cyfryngau – Radio Lleol neu hyd yn oed Radio Cymru ac S4C!