Y Profiad

Profwch hanes Y Nadolig mewn amser real, gyda chyfres o negeseuon testun rhad ac am ddim, dros ebost, gweplyfr neu drydar

‘Rydym i gyd yn byw bywydau prysur iawn. Bywyd teuluol, gwaith, cymdeithasu – mae ‘na gymaint o bethau yn cymryd ein hamser ni y dyddiau yma.

Yn dilyn llwyddiant Y Profiad – Pasg, bydd Cyngor Ysgolion Sul yn lansio prosiect newydd  ‘Y Profiad – Nadolig’ dros yr wythnosau nesaf.

Pwrpas y prosiect yw ein hatgoffa o ddigwyddiadau’r Nadolig mewn amser real. Y gobaith yw y byddwn yn cofio ac yn rhannu ym mhrofiadau’r nadolig, a hynny wrth i ni fyw ein bywydau prysur heddiw.

Wedi i chi gofrestru drwy ymweld ar wefan www.yprofiad.com, byddwch yn derbyn negeseuon rheolaidd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Ragfyr 17eg. Gellir derbyn y negeseuon drwy gyfrwng neges destun, e-bost, gweplyfr neu drydar.

Mae’r prosiect yn rhan o gynllun ehangach gan y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau’r Gair i greu arlwy o ddeunyddiau ac adnoddau aml-gyfryngol a digidol Cristnogol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Fidio Y Profiad Nadolig 2 from Y Profiad on Vimeo.

Wedi i chi gofrestru drwy lenwi’r ffurflen isod, byddwch yn derbyn negeseuon rheolaidd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Rhagfyr 17eg . Gellir derbyn y negeseuon drwy gyfrwng neges destun, ebost, gweplyfr neu trydar.

Ymunwch â ni ar
Facebook | Twitter