Cyfres Ffydd ar Waith 2011

Dyma gyfres o werslyfrau sydd yn edrych ar hanes a gwaith nifer o elusennau Cristnogol, a sut y gallwn ni eu cefnogi yn eu gwaith.

Mae’r gwersi yn Feibl ganolog, gan gysylltu gwaith yr elusennau gyda storïau Beiblaidd cyfarwydd.

Dros y cyfnod bydd plant o 5-15 oed yn edrych ar hanes:

  • Cymorth Cristnogol
  • Operation Christmas Child a Phlentyn y Nadolig
  • Cymdeithas y Beibl
  • Gobaith i Gymru a beibl.net
  • Cymdeithas y Gwahangleifion
  • Open Doors
  • Torch i’r Deillion

Bydd yr adnoddau yn cynnwys llyfr gwersi ac oedfa deulu, gyda deunydd atodol ar CD.

  • Llyfr 1 – Cymorth Cristnogol: £9.99. Prynu ar Gwales.
  • Llyfr 2 – yr elusennau eraill: £9.99