Cyfres Golau ar y Gair
Yr hyn a geir o fewn y cynllun yma yw cyfres o 40 o werslyfrau athro a CD Rom ar storïau neu themâu arbennig, gyda pob llyfr yn cynnwys 3 gwers ac un oedfa deulu – digon ar gyfer mis o waith. Un llyfr sydd ei angen ar yr ysgol Sul gan bod y deunydd plant ac ieuenctid yn gynwysiedig fel taflenni ac atodiadau i’w llungopïo. O fewn pob llyfr ceir:
Cynllun gwersi ar gyfer plant meithrin i 5 oed
Ceir yma amrywiaeth o syniadau o dan y penawdau Amser Chwarae, Amser Stori, Amser Creadigol ac Amser Canu a Gweddïo. Yn ychwanegol i hyn, ceir detholiad o daflenni gwaith i’w llungopïo.
Cynllun gwersi ar gyfer plant 6-11 oed
Ceir yma ddewis eang o weithgareddau arbennig i rai rhwng 6-8 oed a 8-11 oed. Nodir amcanion clir ar gyfer pob gwers, gyda ffyrdd gwahanol o gyflwyno a dysgu’r stori, syniadau crefft, cwis, gemau, drama, gweddïau a deunydd defosiwn. Ceir hefyd dewis o daflenni gwaith ar gyfer y ddau grþp oed gwahanol.
Cynllun gwersi ar gyfer rhai rhwng 11-14 oed
Ceir yma dri thema yn deillio o’r stori, gydag amrywiaeth o syniadau creadigol a diddorol, a chyfle hefyd i drafod a sgwrsio.
Atodiadau a deunydd ychwanegol
Ceir nifer o atodiadau hefyd, yn cynnig syniadau ychwanegol a deunydd gweledol. Ar y CD sy’n dod gyda’r llyfr, mae yna ddetholiad ychwanegol o daflenni, rhai yn arbennig gyda phwyslais addysgol, ar gyfer y sefyllfaoedd hynny lle mae’r stori yn cael ei datblygu yn yr ysgol leol. Rhestrir yn y llyfr hefyd rhai adnoddau ychwanegol e.e. llyfr stori ar y thema neu ddeunydd gweledol a chrefft. Cofiwch hefyd bod pob un o’r storïau hyn i’w cael ar ffurf fideo, fel rhan o’r gyfres Beibl Fideo.
Gwasanaeth Teuluol
Paratowyd gwasanaeth teuluol hefyd ar gyfer bob uned, a gobeithio bydd hyn o gymorth i ddod â bwrlwm yr ysgol Sul i mewn i fywyd yr eglwys, gan greu cymuned sy’n dysgu ac addoli gyda’i gilydd.
Rhai egwyddorion sylfaenol
Cynllun Cymreig a Chymraeg ar gyfer eglwysi Cymru.
I fod yn addas ar gyfer ysgolion Sul ac eglwysi bychain a mawr.
Deunydd i bontio rhwng yr eglwys a’r ysgol Sulfel bod oedfaon teuluol yn digwydd yn rheolaidd.
Deunydd atodol sy’n cynnig cyfle i ddatblygu’r thema ymhellach mewn ysgol ddyddiol.
Digon o hyblygrwydd i ddewis a dethol, gan greu gwersi a fydd yn elwa o sgiliau yr arweinwyr.
Mae’r 40 llyfr ar gael hefyd fel pdf’s ar un CD Rom am £19.99 Prynu ar Gwales.
Awdur: Sarah Morris, Pris £6.99 yr un. Ar gael i’w prynu ar Gwales.com
Cyfrolau o wersi ysgol Sul i blant 4-14 oed, yn dilyn stori/thema arbennig.
Y Gwerslyfrau
- Porthi’r Pum Mil
- Gideon – yn ymladd dros Dduw
- Y Nadolig
- Teulu Newydd Ruth
- Moses – Y Dywysoges a’r Baban
- Pasg – Iesu’r Brenin
- Samuel – Duw yn siarad â Samuel
- Pentecost – Newyddion Da Iawn
- Daniel – yn ffau’r Llewod
- Damhegion Iesu – Cyfrinachau’r Deyrnas
- Dechrau’r byd: Hanes y Creu
- Iesu’n dangos ei allu
- Joseff yn yr Aifft
- Y Nadolig: Rhodd Duw
- Iesu: Ffrind mewn angen
- Moses: Gadael yr Aifft
- Y Pasg: trwy lygaid Pedr
- Abraham: ffrind Duw
- Ysbryd Duw ar waith: Dechrau’r Eglwys
- Y Beibl: Stori Fawr Duw
- Iesu’r Meddyg
- Dafydd: bugail a brenin
- Elias: negesydd Duw
- Nadolig: Goleuni’r Byd
- Jona: Proffwyd Anfodlon
- Iesu’n croesawu pawb
- Y Pasg: y daith fawr
- Jeremeia: proffwyd mewn twll
- Paul: yn cyfarfod Iesu
- Moses: Y Deg Gorchymyn
- Iesu: y Ffrind Gorau
- Solomon: y brenin doeth
- Ffrindiau Iesu: rhannu’r newyddion da
- Nadolig: O’r nef y daeth
- Josua: yr arweinydd newydd
- Iesu’r athro da
- Y Pasg: “Gorffennwyd”
- Esther: y frenhines ddewr
- Pentecost: yr Ysbryd Glân yn dod
- Dafydd: bardd a brenin (Salmau)