Agor y Llyfr

Cyfle i rannu stori’r Beibl yn eich Ysgol Leol – cynllun AGOR Y LLYFR

Mae Cyngor Ysgolion Sul yn falch o fedru cyd-weithio gyda Open The Book a Chymdeithas y Beibl i ddatblygu a hyrwyddo Agor y Llyfr yn y Gymraeg. Bellach mae holl ddeunydd Agor y Llyfr ar gael yn Gymraeg. Cliciwch YMA am ddolen i wefan Open The Book.

I lawrlwytho taflen Gymraeg am Agor y Llyfr cliciwch YMA.

Y mae Agor y Llyfr yn gynllun tair blynedd i alluogi eglwysi i greu cysylltiad gyda’i hysgol leol drwy ymweld yn gyson i ddarllen stori Feiblaidd i’r plant.

Bwriad Agor y Llyfr yw cyflwyno tua 80 stori dros gyfnod o dair blynedd i blant oed cynradd mewn ysgolion ledled Cymru.

Mae’r cynllun yn defnyddio Beibl Newydd y Storïwr, ynghyd â llyfrau Agor y Llyfr sy’n rhoi syniadau a chyflwyniad i bob stori.

O wythnos i wythnos mae gwirfoddolwyr yn mynd i mewn i’w hysgol leol i ddarllen stori 5 munud, er mwyn rhannu cyfoeth storïau’r Efengyl.

Pris Beibl Newydd y Storïwr yw £12.99 ac mae’r llawlyfr yn £5. Mae’r storiau hefyd ar gael ar CD am £11.99.

Dyma gyfle gwych i ni fel eglwysi greu cysylltiad gyda’n ysgol leol, gan rannu cynnwys y Beibl i genhedlaeth na fyddant o reidrwydd yn clywed y storïau hyn o unrhyw gyfeiriad arall.

Am fwy o wybodaeth am y cynllun ewch i www.openthebook.net

Ydych chi erioed wedi meddwl bod plant mewn ysgolion yn colli allan ar beth mae’r Beibl yn ei ddangos iddynt? Gallent fynd trwy eu bywyd ysgol heb ddysgu am Abraham, Moses, Dafydd, Ruth…neu hyd yn oed bywyd Iesu a straeon y Testament Newydd.

Mae AGOR Y LLYFR yn cynnig rhaglen o straeon gyda themau, wedi eu dramateiddio, bob un ohonynt tua 10 munud o hyd, sydd yn ffitio’n addas i amser Addoli Cymunedol / Gwasanaeth mewn ysgolion.

Mae ein tîm o storiwyr o eglwysi lleol yn defnyddio drama, meim, props, gwisgoedd – ac yn enwedig y plant – i gyflwyno straeon y Beibl mewn ffyrdd bywiog, hudol, llawn gwybodaeth…a llawn hwyl i bawb!

Felly yn awr, diolch i AGOR Y LLYFR, mae gan blant mewn ysgolion Cymraeg eu hiaith y cyfle yn ystod Addoli Cymunedol i ddarganfod y rhyfeddod a doethineb sydd gan y Beibl i’w gynnig yn eu hiaith eu hunain!

Cofrestru

Os nad ydych wedi cofrestru eto, byddwch angen gwneud hyn fel tîm, trwy gwblhau ac anfon Ffurflen Gofrestru AGOR Y LLYFR. Os gwelwch yn dda, darllenwch ddogfen Gwybodaeth Aelodaeth Tîm AGOR Y LLYFR.

I lawrlwytho’r ffurflenni hyn, Cliciwch yma (nodiadau’n cydfynd yma).

Dylid cwblhau’r Ffurflen Gofrestru ac, unai ei anfon trwy’r post neu ei ddychwelyd fel atodiad e-bost.

Os gwelwch yn dda, sylwch fod adran ar gefn y Ffurflen Gofrestru i’r arweinydd tîm arwyddo ar ran y tîm eu bod yn cytuno i ufuddhau i Gôd Ymarfer AGOR Y LLYFR. Mae hi’n bwysig fod bob gwirfoddolwr yn ymwybodol o hyn.

Mae cofrestru’n ddi-dâl ac unwaith y mae eich ffurflen wedi ei phrosesu bydd copi yn cael ei anfon at yr arweinydd tîm. Bydd bob gwirfoddolwr yn derbyn rhif aelodaeth unigol. Gofynnwch i’ch arweinydd tîm am eich un chi a chadwch gofnod ohono. Rydych angen y rhif hwn i archebu deunyddiau o A Great Read (cliciwch yma i lawrlwytho’r ffurflen archebu) ac i ddefnyddio adran Ffynhonellau’r wefan.

Mae croeso i ymwelwyr edrych ar ein gwefan ond dim ond rhai sydd yn aelodau cofrestredig o AGOR Y LLYFR sydd yn gallu mynd i mewn neu archebu deunyddiau.

Am ddogfen ychwanegol ar gyfer rhagor o’ch aelodau tîm neu i adael i ni wybod am newidiadau – Cliciwch yma. Cofiwch, gallwch wastad adael i ni wybod am newidiadau eich tîm drwy ein e-bostio ni ar enquiries@openthebook.net