Adnoddau Cenhadol Nadolig 2018 – O llawenhawn!

O llawenhawn! Daeth Crist i’n plith

Ar gyfer Nadolig 2018 mae Cyngor Ysgolion Sul wedi paratoi cyfres newydd o adnoddau a fydd yn galluogi Eglwysi i gyflwyno neges a llawenydd y Nadolig o fewn ein cymunedau mewn ffordd drawiadol ac effeithiol.

Yn ganolbwynt i’r cyfan mae cylchgrawn lliwgar 16 tudalen sy’n cynnwys darlleniadau Beiblaidd, erthygl yn sôn am ‘Beth yw’r Nadolig?’ gan Arfon Jones, posau, croesair, rysáit Cacen Nadolig, cerddi, gweddïau, tudalen i’r plant a nifer o erthyglau diddorol.

Mae modd prynu copïau o’r cylchgrawn am 99c yr un, neu becynnau o 100 gopi am £50 (50c yr un). Mae modd hefyd archebu copïau gyda thudalen gefn a all gynnwys manylion lleol eich eglwys/amseroedd oedfaon Nadolig ayyb… Os am archebu rhai penodol i’ch eglwys/ardal rhaid archebu isafswm o 250 copi am £250, neu 500 copi am £350 neu 1,000 copi am £500. Ni ellir argraffu niferoedd gwahanol i’r rhain.

Dyma gynnwys a cynllun y cylchgrawn:

Yn ogystal hefyd mae baner liwgar ar gyfer ei harddangos tu allan i’ch capel (2 fedr wrth 0.5 medr) ar gael am £25 yr un. Neu faner tu mewn (roller banner) am £50 yr un. Hefyd mae taflenni carolau ar gael am £30 (pecyn o 100), balŵns lliwgar am £2 (pecyn o 10) a matiau diod am £2 (pecyn o 10). Mae cardiau Nadolig hefyd ar gael yn yr un cynllun os am eu defnyddio i’w hanfon ar ran yr eglwys.

Cliciwch YMA i lawrlwytho ffurflen archebu adnoddau cenhadol Nadolig