Hanes yr Ysgol Sul

Hanes Y Cyngor Ysgolion Sul
Hanes Y Cyngor Ysgolion Sul
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru, yn y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth, ar 1 Gorffennaf 1966. Yr oedd deuddeg gŵr deallgar a doeth yn cynrychioli’r pedwar enwad anghydffurfiol Cymraeg, ond erbyn y cyfarfod nesaf ymhen deufis roedd gan yr Eglwys Esgobol ei chynrychiolydd, ac ers hynny y mae’r pum enwad wedi cefnogi holl waith y Cyngor. Roedd y ‘Datganiad o Ymddiriedaeth’ wedi’i arwyddo ar 14 Ionawr 1966 gyda Ebenezer Curig Davies, Gwilym Prys Davies, Joseph Haines Davies, Alun Roderick Edwards, Thomas Oliver Gregory a Morgan John Williams, yn Ymddiriedolwyr. Yn ôl y ddogfen roedd y Cyngor i gynnwys dau aelod yn cynrychioli’r pum enwad Cymraeg ynghyd a nifer o aelodau etholedig a chyfetholedig yn cynrychioli gwahanol enwadau a mudiadau. Yn y cyfarfod cyntaf etholwyd y Parch Curig Davies yn Gadeirydd, Mr T O Gregory yn Drysorydd a’r Parch J Haines Davies, a fu’n Ysgrifennydd am ugain mlynedd. Yn dilyn hynny bu nifer o wahanol rai yn ysgrifenyddion cydwybodol i’r Cyngor.
Amcanion
Amcanion
Yn ôl y ddogfen gyfreithiol rhai o brif amcanion y Cyngor yw – hybu addysg Gristnogol; hyfforddi athrawon i gyflwyno addysg Gristnogol; cyhoeddi llenyddiaeth, llyfrau, pamffledi a chylchgronau i blant a phobl ieuainc Cymru, a hynny yn Gymraeg.
I gyfarfod â’r amcanion mae’r Cyngor o’r cychwyn wedi trefnu meysydd llafur ar gyfer pob oedran yn yr ysgol SuI. Cyhoeddwyd gwerslyfrau, llyfrau gweithgarwch a deunyddiau atodol amrywiol eraill ar hyd y blynyddoedd,
Menter fawr yn 1978 oedd cyhoeddi Beibl y plant mewn Lliw ac oherwydd y galw aruthrol rhaid oedd cyhoeddi trydydd argraffiad.

Cyhoeddid Antur (yn fisol i gychwyn) ar gyfer y plant ond oherwydd y gostyngiad blynyddol yn y gwerthiant er dechrau’r wythdegau a hynny’n golygu colled ariannol i’r Cyngor rhaid oedd ei ddirwyn i ben yn 1992.

Bu nifer o weithgareddau a phrojectau dros y blynyddoedd gan gynnwys Ysgol Haf yr ysgol Sul; Cwisiau Beiblaidd; Cystadlaethau Chwaraeon; Gwersylloedd plant ac ieuenctid; Calendrau Adfent; Cyrsiau Hyfforddi, Stondinau yn yr Eisteddfodau a’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd; Trefnu Tripiau i Butlins ac Oakwood; Gweithgarwch Unedau Dyfed a Gwynedd ayyb

Swyddogion Datblygu
Swyddogion Datblygu
Rhan o’r weledigaeth wreiddiol oedd sefydlu rhwydwaith o Drefnyddion Rhanbarthol. Cefnogwyd cynllun i benodi dau swyddog gan y Swyddfa Gymreig ac yn 1984 penodwyd Miss Angharad Roberts a Miss Delyth Oswy, y naill yn y De a’r llall yn y Gogledd. Eu gwaith oedd cydgysylltu ag eglwysi/ysgolion SuI, sefydlu pwyllgorau ymgynghorol mewn ardaloedd, hybu darpariaeth ar gyfer gwaith yr ysgol Sul, trefnu cyrsiau i hyfforddi athrawon ysgol Sul, ac effeithioli gwaith yr ysgolion Sul yn gyffredinol. Dilynwyd hwy gan nifer o swyddogion eraill a llwyddwyd i barhau gyda’r swyddi am gyfnod wedi i gefnogaeth Y Swyddfa Gymreig ballu. Dau roddodd flynyddoedd o wasanaeth yw’r Parch Aled Davies a Mr Nigel Davies. Apwyntiwyd y ddau ar yr un diwrnod yn 1989 ac mae Aled yn dal gyda ni ond mewn rôl wahanol.
Cyhoeddiadau’r Gair
Cyhoeddiadau’r Gair
Sylweddolodd Aled Davies fod bwlch yn y maes cyhoeddi Cristnogol ac aeth ati i weld sut y gellid ei lenwi. Canlyniad hyn oedd benthyciad ariannol gan Gyngor Ysgolion Sul i sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair. Daeth Cyhoeddiadau’r Gair a dimensiwn newydd i fyd cyhoeddi llyfrau Cristnogol yn y Gymraeg – cafwyd llu o deitlau safonol a deniadol oedd mewn lliw llawn. Dyma’r wyrth gyflawnodd Cyhoeddiadau’r Gair. Bu amrywiaeth mawr dros y blynyddoedd yn llyfrau storïau Beiblaidd; llyfrau gweithgarwch; meysydd llafur ysgolion Sul; llyfrau defosiwn; llyfrau lliwio; llyfrau gweddïo; cyfresi fideo a DVD. Erbyn hyn mae tua 750 o deitlau wedi eu cyhoeddi gan Y Wasg hon.

Bu 2017 yn garreg filltir nodedig wrth i’r wasg ddathlu ei benblwydd yn 25 oed.
Cliciwch YMA i ddarllen ychydig o hanes y wasg dros 25 mlynedd.

Dyma sgwrs a ddarlledwyd ar raglen Bwrw Golwg, Radio Cymru gyda Aled Davies a Bethan Mair yn trafod achlysur penblwydd y wasg:

O'r Dechrau Hyd Heddiw
Yn 2016 ar achlysur 50 mlynedd Cyngor Ysgolion Sul cyhoeddwyd llyfr o’r hanes. Isod ceir y pennodau i’w lawrlwytho.

Hanes cynnar Cyngor Ysgolion Sul

Cyhoeddiadau

Gweithgareddau

Swyddogion

Hanes diweddar Cyngor Ysgolion Sul ac Atodiadau

Hanes yr Ysgol Sul yng Nghymru hyd at 1966