Cyfres Mosaig – 2014/2015

logo-mosaig

getimgAr gyfer grwpiau bach o blant ag ystod oed eang
12 sesiwn yn seiliedig ar y Beibl + gwasanaeth ar gyfer pob oed

Mae y gyfres Mosaig yn brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Ysgolion Sul a Scripture Union Cymru ac yn cael ei ddefnyddio fel cyfres o werslyfrau am flwyddyn. Mae dau lyfr yn y gyfres sef ‘Duw gyda Ni’ a ‘Mae Duw yn dda’ sy’n cynnwys rhyngddynt 24 o wersi ysgol sul i blant 5-11 oed. Maent hefyd ar gael yn Saesneg o dan y teitl Mosaic.

Pris y llyfrau yw £11.99 yr un.

getimg-39Yn y llyfrau Mosaig cewch:
– 12 amlinelliad o sesiynau ar gyfer grwpiau o blant
– Gweithgareddau addas ar gyfer oedran 2-14, i gyd yn cyfarfod gyda’i gilydd
– Yr holl adnoddau y bydd arnoch angen eu llungopïo ar gyfer y sesiynau
– Cymorth a gwybodaeth i chwi pan fyddwch yn paratoi i arwain
Gwasanaeth ar gyfer pob oedran y gall yr eglwys gyfan ei fwynhau gyda’i gilydd
– Cynghorion doeth ac ymarferol gan arbenigwyr profiadol

Enghraifft o wers (cliciwch i’w weld yn fwy):
8-9a

Sut i redeg sesiwn Mosaig

BETH YDYCH CHI YN EI GAEL
Adnodd hyblyg sydd wedi ei gynllunio ar ffurf rhaglen strwythuredig yw Mosaig.
Mae yma hefyd syniadau ychwanegol y gallwch eu defnyddio os oes gennych amser ac os ydynt yn gweddu i’r grŵp yr ydych yn ei arwain. Gellir lawrlwytho rhai o’r adnoddau ychwanengol oddi ar wefan LightLive sef www.lightlive.org.uk. Hyd yn oed os nad yw yn hwylus i chi edrych ar y wefan, mae’r llyfr hwn yn cynnwys y cyfan y bydd ei angen arnoch ar gyfer 12 sesiwn ddiddorol ac ystyrlon.

Cyflwyniad
Mae pob cyfres, sydd yn cynnwys dwy i bum sesiwn, yn dechrau gyda nodiadau cefndir hanfodol i’r rhannau o’r Beibl y byddwch yn eu defnyddio gyda’r plant. Y mae hefyd baragraff pwysig sydd yn rhoi golwg ar sut y gellir addasu’r gyfres ar gyfer y plant sydd yn eich grŵp.

Rhaglen graidd
Cyflwynir pedwar gweithgaredd fel patrymlun sylfaenol ar gyfer pob sesiwn – ffordd o ymchwilio i’r Beibl, ymateb ar ffurf addoliad, a dau ddewis a fydd yn helpu’r grŵp i gymhwyso dysgeidiaeth y Beibl ar gyfer eu bywydau eu hunain.

Syniadau ymestynnol
Awgrymir tri syniad ymestynnol er mwyn rhoi gweithgareddau mwy penodol ar gyfer plant ieuangach (y rhai dan wyth oed efallai) a phethau mwy heriol i blant hŷn eu gwneud (y rhai dros ddeg oed efallai). Mae gallu plant wrth gwrs yn amrywio a bydd yn rhaid i chi gyfeirio plant unigol at y gweithgareddau sydd fwyaf addas ar eu cyfer. Awgrymir syniadau newydd ym mhob sesiwn ar gyfer y gyfres ‘Adnod i’w dysgu a’i chofio’.

Gwasanaeth ar gyfer pob oed
Mae Mosaig wedi darparu gwasanaeth ar gyfer pob oed ar thema un o’r tair cyfres sydd yn y llyfr. Bydd y gwasanaeth hwn yn ddefnyddiol ar gyfer achlysur pan fydd yr oedolion a’r plant yn cyd-addoli.

Astudiaethau Achos
Cynghorion buddiol i’ch ysbrydoli a’ch annog yn eich gwaith – gan awdur sydd wedi arfer gweithio gydag eglwysi bychain.

LightLive
Crëwch grŵp ar LightLive ar-lein (www.lightlive.org) a chewch fynediad i ddewis helaeth o adnoddau ychwanegol yn Saesneg ar gyfer eich grŵp. Gallwch chwilio’r data-bas yn ôl y testun a’r rhan o’r Beibl fel na fyddwch byth yn brin o syniadau ar gyfer eich amser grŵp na’ch achlysur arbennig!

Adnoddau defnyddiol
Edrychwch ar dudalen 7 er mwyn gweld teitlau llyfrau eraill a argymhellir i gefnogi eich rhaglenni a rhoi syniadau i’ch grŵp i’w helpu i dyfu mewn ffydd gan gynyddu eich hyder chwithau hefyd. Cofiwch bod dewis helaeth o ffilmiau 5 munud ar gael yn y gyfres Stori Duw, Beibl Bach i Blant a Beibl Bach Stori Duw. Mae fersiwn sain ar gael o Beibl Bach i Blant, Beibl Bach Stori Duw a Beibl y Storïwr. Mae fersiwn PowerPoint ar gael o Beibl Bach i Blant a hefyd Cyntaf i Ateb sy’n cynnig 100 cwis rhyngweithiol.

Ar-lein bob wythnos
Gallwch gyfoethogi eich sesiynau wythnosol gyda lawrlwythiadau yn cynnwys:
‘Bible story picture’: gweithgaredd rheolaidd ar gyfer plant 2-7 oed (Mae’r rhain ar gael hefyd fel tudalennau i’w llungopïo ar ddiwedd pob sesiwn.)
‘Learn and remember’: PowerPoint o adnod o’r Beibl i’w dysgu ar gyfer plant 5-11 oed
‘Presentation’: gweithgaredd animeiddio ar gyfer ieuenctid 11-14 oed

Gwefan
Cofiwch fynd i www.ysgolsul.com a www.scriptureunioncymru.com i glywed am yr adnoddau diweddaraf.

Amgylchiadau ble mae Mosaig yn gweithio orau…
Mae llawer o eglwysi yn dechrau eu haddoliad ar y Sul gyda phob oed yn bresennol. Mewn eglwysi eraill, mae pawb yn cyrraedd gyda’i gilydd ond yn gwahanu yn grwpiau oedolion a phlant gan gyfarfod eto i addoli ar y diwedd. Gellir defnyddio Mosaig yn y naill sefyllfa a’r llall pan fydd nifer y plant yn rhy fychan i’w gwneud yn ymarferol i baratoi ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Gellid defnyddio Mosaig hefyd pan fydd yr adeilad lle mae’r plant yn cyfarfod yn rhy gyfyng i fedru paratoi ar gyfer mwy nag un grŵp.
Byddai Mosaig yn ddefnyddiol hefyd lle nad oes ond ychydig o oedolion ar gael i weithio gyda’r plant. (Wrth gwrs, oherwydd ystyriaethau diogelwch ac amddiffyn plant, dylid sicrhau bod o leiaf ddau o’r oedolion sydd yn gweithio gyda’r plant wedi cael datgeliad DBS.) Yma, gellir gwneud y rhan fwyaf o’r gweithgareddau gyda’ch gilydd, a cheir gweithgareddau gwahanol wedi eu hanelu at blant ieuangach a phlant hŷn tuag at ddiwedd y sesiwn.
Byddai Mosaig hefyd yn ddelfrydol os ydych yn sefydlu grŵp plant o’r newydd ac eisiau dechrau gyda rhaglen syml.