Sut i brynu adnoddau digidol

Cam 1: Darganfod yr adnodd rydych chi eisiau prynu ac yna clicio arno. Mae modd clicio ar sawl eitem cyn mynd ymlaen i Cam 2.

Cam 2: Ar ôl ychwanegu pob eitem rydych chi am ei brynu cliciwch ar ‘Basged’ ar dop y wefan.

Cam 3: Nodwch eich e-bost a’ch enw ac yna gwasgu ‘Purchase’.

Cam 4: Cliciwch ar ‘Pay by Debit or Credit Card’ os nad oes cyfri PayPal gyda chi. Bydd manylion eich cerdyn banc yn cael ei brosesu drwy system cwbl saff sydd wedi ei ddiogelu.

Cam 5: Ar ôl llenwi manylion eich cerdyn banc a’ch manylion personol cliciwch ar ‘Pay Now’. Cofiwch wirio fod eich cyfeiriad e-bost wedi ei roi i mewn yn gywir oherwydd i’r cyfeiriad e-bost yna y bydd dolen yn dod i lawrlwytho’r adnoddau digidol.

Cam 6: Yna bydd neges yn ymddangos yn cadarnhau fod y taliad wedi ei dderbyn yn llwyddiannus a’r archeb wedi mynd trwyddo.

Cam 7: Ar ôl ychydig funudau byddwch chi’n derbyn cyfres o e-byst yn cadarnhau’r archeb. Bydd un o’r e-byst yma yn cynnwys dolen i lawrlwytho’r adnoddau rydych chi wedi archebu. Os nad yw’r e-byst yn ymddangos cofiwch edrych yn eich ffolder ‘spam’ neu ‘junk’ rhag ofn ei fod wedi mynd i’r fan yna ar gamgymeriad.

Cam 8: Dyma sut fydd yr e-bost yn cynnwys y ddolen i lawrlwytho’r adnodd/adnoddau yn edrych. Cliciwch ar y ddolen/dolenni a bydd yr adnodd digidol yn dechrau lawrlwytho. Nodwch fod y ddolen dim ond yn ddilys i’w defnyddio am flwyddyn felly ar ôl lawrlwytho’r adnodd cofiwch ei gadw mewn rhywle saff ar eich cyfrifiadur ar gyfer y dyfodol.

Cofiwch y bydd ffeiliau mawr fel y ffilmiau yn cymryd tipyn o amser i lawrlwytho yn arbennig os ydy eich cysylltiad rhyngrwyd yn araf felly peidiwch â gadael hi tan y funud olaf cyn lawrlwytho’r adnodd.

Os bydd problem yn codi cysylltwch gyda ni ar aled@ysgolsul.com ac fe geisiwn ddatrys y mater mor fuan â phosib.