Y Tir Ysgythrog
Yn y gyfrol hon ceir deunaw o bregethau cyflawn, awgrymiadau o ddarlleniadau Beiblaidd addas, gweddi gysylltiol a rhestrau o emynau priodol. Mae’r pregethau yn ymateb i realiti bywyd heddiw, yn cyffwrdd a themâu cyfoes ac yn edrych tuag at rannau o’r Beibl am arweiniad a maeth ysbrydol i’n dydd.
Agorwn Ddrysau Mawl
Cyfrol o wasanaethau cyflawn, yn cynnwys emynau, darlleniadau, gweddïau a myfyrdodau ar gyfer cynnal oedfaon cyhoeddus. Ceir 46 o wasanaethau cyflawn yn y gyfrol gynhwysfawr hon.
Coronwch Ef yn Ben John Lewis Jones
Tair cyfrol mewn un: adargraffiad o Ein Tad Moliannwn Di (9781859941867) a Dyrchafwn Lawen Lef (9781859940785), yn ogystal â deunydd newydd gan John Lewis Jones. Mae yma ddarlleniadau, gweddïau, cerddi, myfyrdodau ac anerchiadau, ynghyd â dewis o emynau o’r llyfr cydenwadol, Caneuon Ffydd. Fformat: PDF.
Yr Enw Mwyaf Mawr gan Huw John Hughes
30 gwasanaeth cyflawn, pob un yn seiliedig ar enw arbennig am Iesu, gan gynnwys Mab y Dyn, Y Bugail Da, Y Brenin, Y Pen, Y Wir Winwydden, Y Meddyg, Yr Anwylyd, a llawer mwy. Ceir darlleniadau, myfyrdodau, gweddïau, anerchiadau, cwestiynau trafod, emynau a cherddi. Fformat: Ffeil PDF.
Dyrchafu’r Duw Byw gan Huw John Hughes
Casgliad o 30 o wasanaethau cyflawn, yn cynnwys darlleniadau, gweddïau, myfyrdodau, anerchiadau, cwestiynau trafod, emynau, cerddi a cherddoriaeth. Mae pob un o’r gwasanaethau yn canolbwyntio ar ddisgrifiadau gwahanol am Dduw, gan gynnwys Duw Goleuni, Duw Trugaredd, Duw Llawenydd, Duw Gogoniant, a llawer mwy. Fformat: Ffeil PDF.
Oedfaon Ffydd Casglwyd gan Aled Davies
Casgliad gwerthfawr o wasanaethau yn seiliedig ar adrannau’r llyfr emynau, Caneuon Ffydd. Ceir darlleniadau, gweddïau, myfyrdodau ac anerchiadau; bydd hon yn gyfrol ddefnyddiol i unrhyw un sydd am lunio oedfa ar gyfer addoliad cyhoeddus. Casglwyd gan Aled Davies. Fformat: PDF
Hefyd mae modd prynnu rhai o’r uchod ar ddisgiau DVD
Cynnal Oedfa
£11.99
Disg ar gyfer y cyfrifiadur, yn cynnwys 125 o wasanaethau cyflawn ar gyfer addoliad cyhoeddus ar ffurf dogfenau PDF. Ceir yma gynnwys tair cyfrol sef Yr Enw Mwyaf Mawr a Dyrchafu’r Duw Byw gan Huw John Hughes a Coronwch Ef yn Ben gan John Lewis Jones.
Cynnal Oedfa 2
£11.99
Disg ar gyfer y cyfrifiadur, yn cynnwys 200 o weddïau a myfyrdodau ar gyfer addoliad cyhoeddus ar ffurf dogfenau PDF. Ceir yma gynnwys dwy gyfrol sef Gweddiau Cyhoeddus a Oedfaon Ffydd gan Aled Davies.