Llyfrau Gweddi


Cymer fy Munudau Elfed ap Nefydd Roberts
Casgliad cynhwysfawr o weddïau cwbl wreiddiol o waith Elfed ap Nefydd Roberts. Ceir yma gasgliad sylweddol o dros 400 o weddïau, a baratowyd ganddo dros gyfnod o hanner can mlynedd.

Cwlwm Celtaidd
Casgliad o weddïau yn y traddodiad Celtaidd, wedi’u casglu ynghyd gan Huw John Hughes.

Gweddïau Cyhoeddus Aled Davies
Cyfrol yn cynnig y 3 chasgliad o weddïau a darlleniadau yn y gyfres ‘Gweddïau Cyhoeddus’ sy’n addas ar gyfer llunio oedfaon cyhoeddus. Cydymaith i Myfyrdodau Cyhoeddus. Fformat: Ffeil zip yn cynnwys amrywiol ffeiliau PDF, addas i agor ar y cyfrifiadur.

Te Deum Elfed ap Nefydd Roberts
Casgliad newydd a gwreiddiol o fyfyrdodau a gweddïau Beiblaidd gan Elfed ap Nefydd Roberts.

Ei Orsedd Rasol Ef – Cyfrol 1: Blwyddyn A
Cyfrol gyntaf o weddïau gan Dewi Myrddin Hughes yn seiliedig ar ddarlleniadau blwyddyn A y Llithiadur. Ceir gweddi o ddiolch, eiriolaeth, cyffes a mawl ar gyfer pob Sul o’r flwyddyn.

Ei Orsedd Rasol Ef – Cyfrol 2: Blwyddyn B
Ail gyfrol o weddïau gan Dewi Myrddin Hughes yn seiliedig ar ddarlleniadau blwyddyn B y Llithiadur. Ceir gweddi o ddiolch, eiriolaeth, cyffes a mawl ar gyfer pob Sul o’r flwyddyn.

Ei Orsedd Rasol Ef – Cyfrol 3: Blwyddyn C
Trydedd gyfrol o weddïau gan Dewi Myrddin Hughes yn seiliedig ar ddarlleniadau blwyddyn C y Llithiadur. Ceir gweddi o ddiolch, eiriolaeth, cyffes a mawl ar gyfer pob Sul o’r flwyddyn.

Munud yn dy Gwmni Owain Llyr Evans
Casgliad o weddiau a myfyrdodau gwreiddiol gan Owain Llyr Evans.

Gweddiau’r Flwyddyn Eglwysig: Blwyddyn A

Gweddiau’r Flwyddyn Eglwysig: Blwyddyn B

Gweddiau’r Flwyddyn Eglwysig: Blwyddyn C
getimg-9
Gweddïau Heddwch a Chyfiawnder Guto Prys ap Gwynfor
Casgliad o dros 250 o weddïau a myfyrdodau dros heddwch a chyfiawnder, wedi eu casglu a’u golygu gan Gadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru Guto Prys ap Gwynfor, yn cynnwys gweddïau gwreiddiol yn y Gymraeg a chyfieithiadau o weddïau o wahanol wledydd. Fformat: PDF
getimg-8
Mil a Mwy o Weddïau Edwin C Lewis
Cyfrol gynhwysfawr o weddïau yn cwmpasu 2,000 o flynyddoedd – o’r Beibl hyd at y cyfnod presennol. Ceir gweddïau o bob rhan o’r byd, gan ddiwinyddion a diwygwyr, emynwyr ac awduron, gan gynnwys detholiad da o Gymru. Mae dros hanner y gweddïau yn addasiadau o waith yr awdur. Wedi eu casglu gan Edwin C Lewis. Fformat: PDF.
agoriddo
Agor Iddo Olaf Davies
Casgliad o fyfyrdodau a gweddiau ar gyfer y flwyddyn gyfan. Mae adran gyntaf y gyfrol yn dilyn y calendr eglwysig, tra bod yr ail adran wedi ei neilltuo ar gyfer yr achlysuron a’r gorchwylion amrywiol a ddaw i’n rhan. Awdur: Olaf Davies. Fformat: PDF.
agoriddo
Gair a Gweddi Olaf Davies
Addasiad o Epilogues and Prayers gan William Barclay, at wasanaeth yr eglwysi Cymraeg. Fformat: PDF.
agoriddo
Gweddïau Ymatebol a Chynulleidfaol Elfed ap Nefydd Roberts
Casgliad hyfryd o weddïau ymatebol i gynorthwyo cynulleidfaoedd i gydweddïo, yn cynnwys trigain o weddïau pwrpasol yn ymwneud ag addoliad, cyffes a diolchgarwch, deisyfiad ac eiriolaeth, gwyliau a sacramentau. Fformat: PDF.
agoriddo
Gweddïau’r Pedwar Tymor Nick Fawcett a Denzil John
Casgliad o weddiau Nick Fawcett o’r casgliad ‘Prayers for all Seasons’. Gweddïau ydynt ar gyfer addoliad cyhoeddus ar gyfer unrhyw adeg o’r flwyddyn. Fformat: PDF.
agoriddo
Gweddïau’r Pedwar Tymor 2 Nick Fawcett, Eirian Dafydd a Gwilym Dafydd
Ail gasgliad o weddiau Nick Fawcett o’r casgliad Prayers for all Seasons. Gweddïau ydynt ar gyfer addoliad cyhoeddus ar gyfer unrhyw adeg o’r flwyddyn. Ceir tair adran; Y Flwyddyn Gristnogol; Bywyd a Ffydd; a Suliau Cyffredin. Fformat: PDF.