Codi’r Llen – Merched yr Hen Destament a’u Dewisiadau
Dyma gyfrol sy’n archwilio storïau 40 o ferched o’r Hen Destament drwy fyfyrdodau byr a gweddïau.
O Ddydd i Ddydd Mewn 366 Diwrnod
Iwan Llewelyn Jones (gol.)
Cyfrol o fyfyrdodau Beiblaidd dyddiol sy’n bigion o dros 20 mlynedd, wedi eu casglu o’r cyfrolau O Ddydd i Ddydd a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Darllen y Beibl Cymraeg Newydd. Ceir cyfres o adnodau, gyda myfyrdod a gweddi i ddilyn. Myfyrdod Beiblaidd ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn mewn un gyfrol hwylus a chryno.
Eglwys y Bobl – The People’s Church £9.99
Y weledigaeth ar gyfer y llyfr hwn yw y bydd yn cael ei ddefnyddio gan gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt i’w helpu i gynyddu mewn ffydd ac ymddiriedaeth yn Nuw ac i gael eu hysbrydoli i fyw’r ffydd yn eu cymunedau a’u cartrefi, eu gweithleoedd a’u diddordebau. Llyfr dwyieithog.
Eglwys y Bobl – The People’s Church £9.99
Y weledigaeth ar gyfer y llyfr hwn yw y bydd yn cael ei ddefnyddio gan gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt i’w helpu i gynyddu mewn ffydd ac ymddiriedaeth yn Nuw ac i gael eu hysbrydoli i fyw’r ffydd yn eu cymunedau a’u cartrefi, eu gweithleoedd a’u diddordebau. Llyfr dwyieithog.
Taith drwy’r Hen Destament – drwy lygaid rhai o’r cymeriadau
D. Hugh Matthews
Mae Taith drwy’r Hen Destament drwy lygaid rhai o’r Cymeriadau yn dwyn i gof llawer o’r straeon yr ydym yn hen gyfarwydd â hwy. Ond arhoswch! Pa mor gyfarwydd yw’r straeon mewn gwirionedd? Yr ateb yw mai’r rhan fwyaf o’r stori sy’n gyfarwydd, tra bod rhannau wedi eu hanghofio neu heb fod yn cael unrhyw sylw o gwbl.
Gair Duw Ar Waith
Casgliad o fyfyrdodau yn canolbwyntio ar roi ein ffydd ar waith yn ymarferol mewn bywyd bob dydd
Denzil I. John
Dyma gasgliad o 52 myfyrdod Beiblaidd sy’n ein cyflwyno i waith nifer o fudiadau ac elusennau Cristnogol. Mae pwyslais y myfyrdodau yn y gyfrol hon ar wneud ein ffydd yn un ymarferol ac estyn cymorth i’r gwan a’r bregus mewn cymdeithas gan ddilyn esiampl Crist.
O Eden i Baradwys gan D. Hugh Matthews
Dyma gasgliad o dros 100 o fyfyrdodau sydd yn ein tywys ar daith drwy’r Beibl mewn myfyrdod a gweddi. Eu bwriad yw cyflwyno neges y Ffydd Gristnogol, a hynny mewn modd syml a dealladwy. Gellir hefyd eu defnyddio gerbron cynulleidfa yn absenoldeb pregethwr. Fformat: PDF.
Geiriau Ffydd 3 gan John Treharne
Cyfrol o fyfyrdodau beiblaidd gan John Treharne yn canolbwyntio ar 100 o adnodau mwyaf poblogaidd ac adnabyddus yr Hen Destament. Fformat: PDF.
40 Diwrnod Gyda’r Seintiau Celtaidd – Myfyrdodau Dyddiol yn Dilyn Hanes y Seintiau Celtaidd
Deunydd myfyrdodol yn canolbwyntio ar fywydau 40 o seintiau Celtaidd. Addas fel deunydd myfyrio yng nghyfnod y Grawys. Addasiad Cymraeg o 40 Days with the Celtic Saints.
Adnabod Meirion Morris
Casgliad o astudiaethau personol sy’n cyfleu myfyrdodau a dehongliad yr awdur o’i berthynas â Christ. Mae’n gweld taw perthynas yw hanfod Cristnogaeth, adnabod perthynas bersonol â Iesu, ac o hynny perthynas sy’n tyfu mewn bywyd o ufudd-dod ymarferol. Rhennir y gyfrol yn benodau hwylus i gyfleu gwahanol agweddau ar y berthynas.
Geiriau Ffydd 1 John Treharne
Casgliad o fyfyrdodau gwreiddiol ar 100 o adnodau a dywediadau mwyaf cyfarwydd Iesu. Fe’u tynnir o’r Efengyl, yr Actau ac o Lyfr y Datguddiad. Rhoddir ychydig o gefndir i bob adnod ac esboniad o’r cyd-destun. Dyfynnir o’r Beibl Cymraeg Diwygiedig Newydd oni nodir yn wahanol. Fformat: PDF.
Y Deg Gorchymyn ac Erthyglau Eraill gan Dr David Enoch
Casgliad o ysgrifau yn trafod perthnasedd ffydd heddiw. Yn ogystal â deunydd ar bob un o’r Deg Gorchymyn, ceir erthyglau hefyd ar faterion oesol a chyfoes. Telir sylw i brif faes astudiaeth y seiciatrydd Dr David Enoch, gydag ysgrifau deifiol ar iselder ysbryd a phroblemau meddwl eraill. Fformat: PDF
Yr Wythnos Honno gan Ivor Thomas Rees
Myfyrdodau ar gyfer Yr Wythnos Fawr a’r Pasg gan Ivor Thomas Rees. Ceir darlleniadau, myfyrdodau a gweddïau ar gyfer bob rhan o’r daith – o’r orymdaith fuddugoliaethus i mewn i Jerwsalem, i’r swper yn yr oruwchystafell a’r profiadau ingol yn yr ardd, a arweiniodd at daith llwybr y groes ar Golgotha a thu hwnt, ac i gyffro’r bedd gwag a’r atgyfodiad. Fformat: PDF.
Mil a Mwy o Berlau gan Olaf Davies
Cyfrol gynhwysfawr o ddywediadau yn cwmpasu 2,000 o flynyddoedd – o’r Beibl hyd at y cyfnod presennol. Ceir yma anerchiadau ac areithiau, dywediadau bachog o bob rhan o’r byd, gan ddiwinyddion a diwygwyr, emynwyr ac awduron, gan gynnwys detholiad da o Gymru. Mae dros hanner y deunydd yn addasiadau o waith yr awdur. Fformat: PDF.
Hwn yw y Mwyaf Un Nick Fawcett / Olaf Davies
Casgliad o fyfyrdodau a gweddïau gan Nick Fawcett sy’n ceisio adlewyrchu profiadau nifer o gymeriadau Beiblaidd a ddaeth dan ddylanwad Iesu. Addasiad Cymraeg gan Olaf Davies o ddeunydd addoliad gwerthfawr ar gyfer capel ac eglwys, ysgol a defosiwn personol. Fformat: PDF.
Does Debyg Iddo Fe: Cyfrol 1 gan Nick Fawcett ac Olaf Davies
Addasiad Cymraeg o gasgliad gwerthfawr o gant o unedau o ddarlleniadau, myfyrdodau a gweddïau yn ceisio treiddio dan groen profiadau amrywiol gymeriadau y daeth Iesu i gysylltiad â hwy, ar gyfer defnydd addoliad mewn capel ac eglwys, mewn ysgol a defosiwn personol. Fformat: PDF.
Does Debyg Iddo Fe: Cyfrol 2 gan Nick Fawcett ac Olaf Davies
Addasiad Cymraeg o gasgliad o 100 o ddarlleniadau Beiblaidd o’r Testament Newydd, myfyrdodau a gweddïau ar thêmau yr Adfent, y Nadolig, y Grawys, y Pasg a’r Pentecost, ar gyfer gwasanaethau Cristnogol cyhoeddus a thrafodaethau personol a grwp. Fformat: PDF.
O’r Tŷ i’r Tŷ gan Owain Llŷr Evans
365 o fyfyrdodau wedi eu hysgrifennu ar gyfer pob dydd o’r flwyddyn, mewn cyfresi o wythnos. Ar ddydd cyntaf yr wythnos ceir myfyrdod a gweddi sylweddol, gyda chwe myfyrdod mwy sylfaenol ar gyfer gweddill y dyddiau; addas ar gyfer addoliad cyhoeddus a defosiwn bersonol. Fformat: PDF.
Rhaffau’r Addewidion gan John Havard Vevar
Yn y gyfrol hon ceir detholiad o ysgrifau a myfyrdodau y Parchg John Havard Vevar a gyhoeddwyd yn y papur bro Llanw Llŷn, yn Y Llan a’r Cylchgrawn Efengylaidd. Ceir ynddynt gipolwg ar ei ddiddordebau amrywiol wrth iddo ddefnyddio darluniau cofiadwy i gyflwyno’r ffydd Gristnogol mewn ffordd berthnasol a deniadol. Fformat: PDF.
Ym Mrig y Morwydd gan Mari Clifton
Ceir yma ddwy gyfrol mewn un. Mae’r gyntaf (‘Tu Draw i’r Traddodiadau’) yn canolbwyntio ar y Nadolig ac yn annog y darllenydd i edrych tu draw i’r traddodiadau sydd ynghlwm â’r ŵyl. Mae’r ail (‘Ym Mrig y Morwydd’) yn gasgliad o ddefosiynau ar gyfer y Grawys a’r Pasg. Fformat: PDF.