Esboniadau ac Astudiaethau Beiblaidd


Dehongli Bywyd Moses: Athro ac Arweinydd
Gareth Lloyd Jones
Esboniad Beiblaidd wedi ei baratoi yn wreiddiol gan Gareth Lloyd Jones yn bwrw trem ar fywyd a gwaith Moses yn yr Hen Destament.

Dehongli Bywyd Esther a Jona Gareth Lloyd Jones
Amcan y gyfrol hon yw cynnig adnodd i arweinwyr cylchoedd trafod sy’n astudio testunau Beiblaidd. Mae’r ddau lyfr dan sylw y tro hwn yn perthyn i’r un cyfnod yn hanes Israel, sef y canrifoedd wedi’r gaethglud ym Mabilon: llyfrau Esther a Jona.

Dehongli Bywyd Abraham: Y Patriarch Eciwmenaidd
Gareth Lloyd Jones
Dechreuodd y gyfrol hon ei gyrfa fel cyfres o ddarlithiau i ddosbarth oedolion o dan nawdd Ysgol Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Bangor. Yn y gyfrol hon gwneir ymgais i grynhoi casgliadau a safbwyntiau rhai o brif ysgolheigion ein cyfnod ar y testunau Beiblaidd perthnasol. Rhoddir sylw hefyd i esboniadaeth ôl-Feiblaidd yr Iddewon, ac i arwyddocâd Abraham fel patriarch eciwmenaidd. Fy ngobaith yw y bydd y cipolwg yma ar hynt a helynt cyndad ysbrydol tair o’r crefyddau undduwiol yn help i werthfawrogi pwysigrwydd y deialog sydd ar droed rhwng Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam.


Dehongli Bywyd a Gwaith Timotheus Elfed ap Nefydd Roberts
Cyfrol esboniadol yn canolbwyntio ar fywyd a gwaith Timotheus. Dyma faes llafur Ysgol Sul yr oedolion ar gyfer 2018/19.

Dehongli Meddwl Pedr Elfed ap Nefydd Roberts
Y chweched yn y gyfres o lyfrau esboniadol Beiblaidd gan Elfed ap Nefydd Roberts, y tro yma yn canolbwyntio ar fywyd Pedr.
getimg-4
Dehongli’r Damhegion Elfed ap Nefydd Roberts
Cyfrol o fyfyrdodau ar ddeg ar hugain o ddamhegion Iesu gan Elfed ap Nefydd Roberts. Dyma adnodd i arweinwyr ac aelodau sy’n ymdrechu i gynnal seiadau a dosbarthiadau beiblaidd yn eu heglwysi. Y grŵp bychan, nid y gynulleidfa fawr, yw’r norm. Ac allan o grwpiau bychain – seiadau, cyfarfodydd gweddi, grwpiau trafod a dosbarthiadau beiblaidd – y mae’r eglwys erioed wedi profi adnewyddiad. Fformat: PDF.
getimg-3
Dehongli’r Gwyrthiau Elfed ap Nefydd Roberts
Dilyniant i Dehongli’r Damhegion a gyhoeddwyd yn 2008 a Dehongli’r Bregeth a gyhoeddwyd yn 2009. Cyfrol sy’n cynnwys cyflwyniadau i wyrthiau Iesu gan Elfed ap Nefydd Roberts. Mae’r adrannau yn cynnig esboniad ar gynnwys holl wyrthiau Iesu yn yr efengylau. Fformat: PDF.
getimg-2
Dehongli’r Bregeth Elfed ap Nefydd Roberts
Dilyniant i Dehongli’r Damhegion a gyhoeddwyd yn 2008. Yn y gyfrol hon, ceir cyflwyniadau i adrannau’r Bregeth ar y Mynydd yn Efengyl Mathew gan Elfed ap Nefydd Roberts. Rhennir y gyfrol yn ugain adran sy’n cynnig esboniad ar gynnwys y bregeth fawr. Fformat: PDF.
getimg-1
Dehongli Bywyd Iesu Elfed ap Nefydd Roberts
Pedwaredd gyfrol Elfed ap Nefydd Roberts yn y gyfres Dehongli, y tro yma yn canolbwyntio ar hanes geni, gweinidogaeth, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu. Fformat: PDF.
getimg-1
Dehongli Meddwl Paul Elfed ap Nefydd Roberts
Cyfrol o fyfyrdodau gan Elfed ap Nefydd Roberts yn seiliedig ar fywyd a dysgeidiaeth Paul, sef adnodd gwerthfawr ar gyfer arweinwyr eglwysig sy’n cynnal grwpiau astudiaethau Beiblaidd. eLyfr ar ffurf PDF.

Bob Dydd Bendithiaf Di Ieuan Elfryn Jones
Cyfres o astudiaethau beiblaidd yn canolbwyntio ar y flwyddyn a’i thymhorau. Rhennir y gyfrol yn bedair adran, i gyd-fynd â’r pedwar tymor, a cheir un astudiaeth ar ddeg ym mhob adran.

Byw y Ffydd Elwyn Richards
Cyfrol o astudiaethau a myfyrdodau sy’n ymdrin yn arbennig â thema byw y ffydd Gristnogol. Edrychir ar bedair adran o’r ysgrythur gyda hynny mewn golwg, sef Efengyl Luc, Llyfr yr Actau, y Llythyr at y Philipiaid a Llyfr y Salmau; mae hyn y cynnig cipolwg ar fywyd y ffydd o bedwar safbwynt gwahanol.

Cwestiynau Mawr Bywyd Euros Wyn Jones
Mae Efengyl Iesu’n ein herio ac yn ein cwestiynu o hyd ac nid yw ei atebion ef at ein dant. Ceisir cyflwyno her yr Efengyl mewn saith cwestiwn sylfaenol: Pwy yw Duw? Beth yw dyn? Pwy yw Iesu? Beth a wnaeth Iesu? Beth a wnawn ni? Pa fodd mae tyfu yn y ffydd? Pa fodd mae gwasanaethu?

Geiriau Doeth y Beibl Elwyn Richards
Esboniad yr oedolion i ddosbarthiadau ysgolion Sul Cymru, 2010-11. Canolbwyntir ar eiriau doeth Llyfr y Diarhebion a dywediadau Iesu.

Emaus: Ffordd y Ffydd – Rhan 3: Tyfu Fel Cristion Euros Wyn Jones
Cynllun hyfforddi cydenwadol newydd sbon i groesawu pobl i’r ffydd Gristionogol. Deunydd trafod bywiog a diddorol ar gyfer grwpiau eglwysig cydenwadol.

Emaus: Ffordd y Ffydd – Rhan 3: Y Ffordd Gristnogol o Fyw Euros Wyn Jones
Cynllun hyfforddi cydenwadol newydd sbon i groesawu pobl i’r ffydd Gristionogol. Deunydd trafod bywiog a diddorol ar gyfer grwpiau eglwysig cydenwadol.