Llyfrau Ffeithiol a Chyffredinol


Llythyr gobaith, llythyr cariad
Glyn Wise
Mewn cyfnod ble mae hunan-les yn un o’r ffactorau pwysicaf mewn cymdeithas, mae awdur y llyfr hwn am i’r darllenydd edrych sut mae storïau a chymeriadau’r Beibl yn berthnasol i’n bywydau ni heddiw.

Gwasanaethu’r Duw Byw – Llawlyfr ar Stiwardiaeth Gristnogol
Dafydd Andrew Jones
Cyfrol o astudiaethau Beiblaidd yn ymwneud â gwasanaethu o fewn yr Eglwys.

Lilïau Tân
Rhiannon Lloyd
Cyfrol sy’n addasiad o hunangofiant Dr Rhiannon Lloyd, yn adrodd ei hanes yn gweithio mewn gwledydd megis Rwanda. Addasiad Cymraeg gan Arfon Jones.

Ffenestri Gobaith
John Emyr
Mae Ffenestri Gobaith yn tarddu o awen y bardd a’i argyhoeddiad Cristnogol. Bydd y casgliad o ddiddordeb i’r rhai sy’n mwynhau darllen barddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd.

Rhedeg yr Yrfa
D Ben Rees
Hunangofiant y Parchedig D Ben Rees dros gyfnod o drigain mlynedd ynghyd â chasgliad o dros hanner cant o’i bregethau.

Geiriadur y Gair / A Biblical Dictionary
D. Geraint Lewis
Geiriadur Beiblaidd unigryw, wedi ei greu gan y geiriadurwr profiadol D. Geraint Lewis, sy’n rhoi diffiniadau o eiriau yn y Beibl, nid mewn geiriau esboniadol, ond gydag adnodau o’r Beibl, sy’n gymorth i ni ddeall yr ystyr a’r cyd-destun.

Hoff Emynau’r Cymry
Rob Nicholls
64 o Gymry adnabyddus yn rhannu eu hoff emynau. Ynghyd â’r cefndir i’r dewisiadau, cynhwysir hefyd nodiadau byrion am yr emynwyr a’r cyfansoddwyr.

Cofio Euros
John Pritchard (gol.)
Bu Euros Wyn Jones yn weinidog ers 1977 ac yn athro a hyfforddwr i bregethwyr a gweinidogion ers 1992. Roedd ganddo gylch eang o gyfeillion a chydnabod ac mae nifer ohonynt wedi cyfrannu i’r gyfrol deyrnged hon. Dyma gyfrol werthfawr i gofio cyfraniad sylweddol un o gymeriadau anwylaf bywyd crefyddol a diwylliannol y Gymru gyfoes.

Creu a Chynnal Eglwys Iach
Addasiad Cymraeg o The Healthy Churches Handbook gan Catrin Roberts.

Credaf
Eifion Jones (gol.)
Casgliad byr o Gredoau a Chatecismau Cristnogol, wedi’u cyfieithu a’i golygu gan Eifion Jones sef: Credo’r Apostolion, Credo Nicea, Credo Athanasiws, Catecism Heidelberg, Catecism Byrraf Westminster a Hyfforddwr Thomas Charles.

Derbyn a dilyn Iesu: Cwrs paratoi i gymunwyr ifanc Elfed ap Nefydd Roberts
Dyma adnodd ar gyfer gweinidogion ac arweinwyr, sy’n lawlyfr hwylus i baratoi pobl ifanc ar gyfer dod yn aelodau cyflawn o eglwys Iesu Grist.

Camau Cyntaf trwy Brofedigaeth
Sue Mayfield
Addasiad Cymraeg gan Gwilym Wyn Roberts
Gall profedigaeth ddod ag amrywiaeth o emosiynau i’w chanlyn. Efallai y byddwch yn ei chael yn anodd teimlo o gwbl; efallai y byddwch yn teimlo’n flin; mae bron yn sicr y byddwch yn teimlo’n drist. Sut bynnag y bydd eich profedigaeth yn effeithio arnoch bydd yn brofiad anodd a bydd arnoch angen cymorth, sef yr union beth y mae’r llyfr hwn yn ei gynnig: cymorth syml, trugarog.

Y Beibl ar… roi a chyfrannu
Arwel E Jones
Yn y llyfryn hwn, mae Arwel E Jones yn cychwyn trafodaeth ar bwnc sydd, fel arfer, yn cael ei osgoi ymysg Cristnogion. Mae rhoi at waith yr Arglwydd yn fater ymarferol ac ysbrydol gan bod ein defnydd o arian a’n parodrwydd i roi yn dweud cyfrolau am ein calonnau a’n eneidiau.

Cracer ‘Dolig
Yn llawn o arferion, defodau, dathliadau a thraddodiadau’r Nadolig
Huw John Hughes
Llyfr sydd yma yn llawn gwybodaeth am y Nadolig. Mae’n llawn hanesion difyr am draddodiadau’r Nadolig ar draws y canrifoedd. Yr arferion a’r defodau, eu hanes a’u tarddiad – a chwis ac ambell jôc yma a thraw.

Yr Alwad
Cyfrol o fywgraffiadau 18 o weinidogion Cymru, yn olrhain hanes eu galwad i’r weinidogaeth a sut mae hynny wedi ei wireddu dros amser.

Sut Mae Bod yn Weinidog Eglwys
Canllawiau ymarferol a seiliau Beiblaidd ‘y weinidogaeth Gristnogol’ i rai sy’n ystyried galwad, i fyfyrwyr, gweinidogion presennol a rhai sydd wedi ymddeol. Addasiad Cymraeg Olaf Davies o How to be a Church Minister, Nigel G. Wright.

Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones
Astudiaeth o genedlaetholdeb Gristnogol y diweddar Athro Dr R. Tudur Jones (1921-1998), gan Rhys Llwyd. Mewn oes pan fo syniadau am hunaniaeth, cenedlaetholdeb a ffydd yn cynhyrchu gwleidyddiaeth adweithiol, bwriad y gyfrol hon yw cynorthwyo Cristnogion heddiw i graffu ar eu syniadau gwleidyddol o safbwynt diwinyddiaeth Gristnogol.

Blas ar Gristnogaeth Cymru
Cyfrol hwylus sy’n olrhain hanes y ffydd Gristnogol yng Nghymru o oes y Rhufeiniaid a’r seintiau Celtaidd hyd heddiw. Cyfrol yn seiliedig ar ddarlithoedd R. Tudur Jones, wedi eu golygu gan Euros Wyn Jones.

Y Ffydd a Roddwyd
Cyfrol o ddeunydd athrawiaethol yn esbonio gwerth ac arwyddocâd Cristnogaeth i’n bywydau ni heddiw.

Pregethu
Cyfrol o ganllawiau ar bregethu, at ddefnydd pobl o draddodiadau eglwysig amrywiol. Addasiad Cymraeg Olaf Davies o Preaching.

Y Beibl ar… Ferched
Yn y gyfrol hon mae Arfon Jones yn ceisio dangos beth yn union mae’r Beibl yn ei ddweud am ferched, a sut y gellir deall a dehongli rhai gosodiadau ‘anodd’ yng ngoleuni’r cyd-destun gwreiddiol. Dengys sut y cafodd ystyron rhai geiriau Hebraeg a Groeg eu camddeall a’u camddefnyddio.

Y Beibl yn Iaith y Bobl
Gwerthfawrogiad o gyfraniad Cymru i waith Cymdeithas y Beibl, drwy gyfrwng astudiaeth o waith cenhadon Cymreig a gyfieithodd, a bregethodd ac a ddysgodd y Gair mewn amryw ieithoedd yn fyd-eang rhwng 1804 a 1904.
getimg-3
Symud Ymlaen gan Vivian Jones
Dwsin o ysgrifau yn trafod heriau’r ffydd Gristnogol. Rhennir pob ysgrif fesul penawdau hawdd eu dilyn a cheir cwestiynau perthnasol ar derfyn pob pennod er mwyn arwain trafodaeth mewn astudiaethau grŵp. Fformat: PDF.
getimg-2
Pobl y Ffordd 2 gan Alun Tudur
Dilyniant i Pobl y Ffordd a gyhoeddwyd yn 2007. Roedd y gyfrol gyntaf yn cynnwys bywgraffiadau i 100 o Gristnogion enwog o Gymru; mae’ ail gyfrol yn cyflwyno hanesion 100 o Gristnogion enwog o Brydain a’r byd. Fformat: PDF.
Ar gael fel llyfr digidol yn fuan.
y-deugain-mlynedd-hyn
Y Deugain Mlynedd Hyn: Diwinydda yng Nghymru 1972-2015 gan D. Densil Morgan
Casgliad o ysgrifau hanesyddol a chyfoes y Parchedig Athro D. Densil Morgan, yn adlewyrchu ei gyfraniad i fywyd diwinyddol ac academaidd Cymru dros gyfnod o ddeugain mlynedd a mwy, 1972-2015. Fformat: PDF.

Y Dioddefus Sy’n Maddau: Cyfrol 1 – Dechrau’n Ddynol, Dal Ati’n Ddynol gan Enid Morgan
Cyfrol o draethodau diwinyddol gan James Alison, a addaswyd i’r Gymraeg gan Enid Morgan.. Fformat: PDF.

Y Dioddefus Sy’n Maddau: Cyfrol 2 – Iesu’n Gwneud Gwahaniaeth gan Enid Morgan
Cyfrol o draethodau diwinyddol gan James Alison, a addaswyd i’r Gymraeg gan Enid Morgan.. Fformat: PDF.

Gofala Di – Llawlyfr Bugeilio Cristnogol gan Dewi M. Hughes
Dyma lawlyfr hwylus i weinidogion a lleygwyr, boed unigolion neu grwpiau sy’n ceisio gwneud gwaith bugeiliol yn eu heglwysi a’u cymunedau. Fformat: PDF.

Cenhadaeth Newydd i Gymru gan David Ollerton
Dadansoddiad manwl o batrymau cenhadu yng Nghymru gan Gristion ymroddedig i waith yr Efengyl yng Nghymru dros 20 mlynedd sy’n gyfraniad gwerthfawr i ddatblygu dulliau cenhadu effeithiol yn y dyfodol. Fformat: PDF.

A New Mission to Wales by David Ollerton
A meticulous analysis of missional patterns in Wales by David Ollerton from WalesWide which is a valuable contribution to the development of effective mission practice for the future. Format: PDF.

Coleg y Werin – Hanes yr Ysgol Sul yng Nghymru Rhwng 1780-1851
Hanes cynnar yr Ysgol Sul yng Nghymru rhwng 1780 a 1851, mudiad a fu’n allweddol wrth ddyrchafu’r werin a’i gwneud yn werin lafar, hyderus gan osod bri ar addysg a diwylliant a gwneud y Gymraeg yn iaith dysg a hyfforddiant, dadleuon a threfniadaeth.

Pobl y Ffordd – Hanes 100 o Gristnogion Cymru Alun Tudur
Cyfrol sy’n cynnig bywgraffiadau cryno o gant o Gristnogion sydd wedi cyfoethogi bywyd Cristnogol Cymru. Ceir yma rychwant eang o bobl, gan gynnwys seintiau, ysgolheigion a phregethwyr, a hynny o oes y seintiau i’n cyfnod ôl-fodernaidd ni.

Lledu Gorwelion – Hanes John Calfin a’r Diwygiad Protestannaidd D. Ben Rees
Dyma gyfrol sy’n cyflwyno ymdriniaeth fanwl o’r Diwygiad. Telir sylw i ffigyrau hanesyddol ar gyfandir Ewrop, megis Martin Luther, Ulrych Zwingli a John Calfin, a John Knox yn yr Alban; edrychir ar y newidiadau a ddaeth gyda dyfodiad y Tuduriaid yn Lloegr, drwy John Penri yng Nghymru a diwygwyr eraill a fu’n lladmeryddion y Dadeni Dysg, y gydwybod a’r ethos Protestannaidd.