Storïau Duw – Llyfr 1 gan John Settatree
Deuddeg o sesiynau dysgu parod i’w defnyddio am y Beibl, ar gyfer ieuenctid 11-16 oed, ynghyd â gêmau a dramâu, a nifer o syniadau ychwanegol am bethau i’w gwneud gyda’ch grŵp ieuenctid. Cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau’r Gair mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ceir yma drosolwg o’r Efengyl, a gwersi o fywydau Moses a Phedr. Fformat: PDF.
Storïau Duw – Llyfr 2 gan John Settatree
Pymtheg o sesiynau dysgu parod i’w defnyddio am y Beibl, ar gyfer ieuenctid 11-16 oed, ynghyd â gêmau a dramâu, a nifer o syniadau ychwanegol am bethau i’w gwneud gyda’ch grwp ieuenctid. Cyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau’r Gair mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Dilyniant i Storïau Duw – Llyfr 1. Fformat: PDF.
Emaus i’r Ifanc gan Stephen Cottrell, Sue Mayfield, Tim Sledge, Tony Washington
Cwrs rhyngweithiol, pedair sesiwn ar ddeg o hyd yn darparu deunyddiau ar gyfer arweinyddion a grwpiau pobl ifanc 11-16 oed, i’w cynorthwyo i archwilio egwyddorion sylfaenol Cristnogaeth, i gymhwyso egwyddorion eu ffydd at eu bywydau bob dydd ac i’w harfogi fel addolwyr a disgyblion. Fformat: PDF.