Canllawiau Rhedeg Clybiau Gwyliau Cristnogol

Os ydych yn rhedeg clwb gwyliau i blant 12 mlwydd oed ac iau, yna mae angen i chi gysylltu â AGC i roi gwybod iddynt er mwyn sicrhau nad oes angen cofrestru’r gweithgaredd.

Canllawiau Cyffredinol
Nid oes gofyniad i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru os ydych yn darparu clwb gofal dydd/gwyliau i blant dros 12 oed.

Nid yw person yn darparu gofal dydd os nad yw’r cyfnod neu gyfanswm y cyfnodau mewn unrhyw ddiwrnod pan fydd plant yn derbyn gofal mewn safle yn fwy na dwy awr. Fel y trafodwyd mae hyn yn golygu y bydd plant yn dod ar yr un amser ac yn gadael ar yr un pryd.

Nid yw person yn darparu gofal dydd pan fo’r gofal yn cael ei ddarparu gan y person hwnnw yn y safle o dan sylw ar lai na 6 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr ac mae’r person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn y tro cyntaf y defnyddir y safle o dan sylw yn flwyddyn honno.

Fodd bynnag, os ydych yn cynnig dau neu lai o’r gweithgareddau canlynol, nid oes cyfyngiad ar hyd yr amser y byddwch yn gweithredu. Dyma’r gweithgareddau:

Chwaraeon
Celfyddydau perfformio
Celf a Chrefft
Cymorth astudio neu waith cartref yr ysgol
Astudiaeth grefyddol neu ddiwylliannol

Yr eithriad i hyn yw os yw’r plant o dan 5 oed yna ni allant fynychu am fwy na 4 awr y dydd.

Os ydych yn cynnig mwy na dau o’r uchod, yna mae angen i chi sicrhau eich bod yn gweithredu am ddim mwy na 2 awr y dydd neu’n gweithredu llai na 6 diwrnod mewn blwyddyn galendr, neu fel arall bydd angen i chi gofrestru eich gweithgaredd gyda AGC.

Beth bynnag, os ydych yn cynnig clwb gwyliau, cysylltwch â’r AGC o leiaf 14 diwrnod ymlaen llaw er mwyn rhoi gwybod iddynt beth rydych yn ei wneud.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau gallwch gysylltu â’r AGC ar 03007900126 neu e-bostiwch:
ciwregistration@gov.wales

A’r linc i’r wefan am wybodaeth bellach yw:
https://careinspectorate.wales/regulations-and-national-minimum-standards-day-care-and-play