Yr Alwad

Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd cyfrol newydd Yr Alwad yn cael ei chyhoeddi a’i lansio mewn tri lleoliad ar draws Cymru, ac mae croeso cynnes i bawb droi i mewn i un o’r cyfarfodydd hyn.

Nos Fawrth, 14 Mai, yng Nghapel y Tabernacl, Caerdydd, am 7.00
Nos Fercher, 15 Mai, yn Eglwys y Priordy, Caerfyrddin, am 7.00
Nos Iau, 16 Mai, yn Eglwys Noddfa, Caernarfon am 7.00

Cyfrol sydd wedi’i chasglu a’i golygu gan Aled Davies a Beti-Wyn James yw hon. Yr hyn a geir ynddi yw hanes galwadau a llwybrau 20 o weinidogion ac offeiriaid i’r weinidogaeth. O fewn y gyfrol ceir tystiolaeth gweinidogion o bob oed, rhai wedi ymddeol ac eraill yn dechrau yn y weinidogaeth. Mewn dyddiau a fu, roedd bri mawr ar gofiannau gweinidogion. Yn aml iawn roedd y cofiannau’n gyfrolau swmpus, a hyd yn oed yn fwy nag un gyfrol. Mae’r ffaith fod cynifer ohonynt i’w gweld o hyd mewn siopau llyfrau ail-law yn dangos y bu cryn werthiant arnynt yn eu cyfnod.

Ond, erbyn hyn, prin iawn yw cofiannau newydd o’r fath. Bellach, sêr y sgrin fach a’r cae chwarae yw gwrthrychau’r cofiannau poblogaidd a gyhoeddir yn Gymraeg. Ac er na cheir cofiannau llawn yn y gyfrol hon, y mae ynddi elfennau cofiannol wrth i’r cyfranwyr roi i ni gipolwg ar un wedd arbennig o’r profiad sy’n gyffredin iddynt, sef yr ymdeimlad o alwad Duw. Cyfrol ydyw am stori’r daith a arweiniodd at ddilyn llwybr y Weinidogaeth Gristnogol. Mae yma gyfraniadau gan fir a gwraig, tad a mab, a thad a merch sy’n rhannu maes eu gweinidogaeth. Ceir hanes gwraig i weinidog a ymatebodd i’r alwad yn dilyn marwolaeth ei gŵr; gŵr ifanc a ddaeth o Batagonia i fod yn weinidog yng Nghymru; gwraig o Malta a ddysgodd Gymraeg er mwyn gweinidogaethu yn ein plith; gwraig fferm sy’n rhannu ei hamser rhwng ffermio a’r Weinidogaeth, heb son am actor a cherddor sydd bellach yn gwasanaethu fel gweinidogion llawn amser.

Dyma’r rhai a gyfrannodd i’r gyfrol: Aled Davies, Beti-Wyn James fel golygyddion, ac yna Guto Prys ap Gwynfor, Eileen Davies, Huw a Nan Powell-Davies, R. Alun Evans, Isaias E. Grandis, Rosa Hunt, Jennie Hurd, Denzil Ieuan John, Gwyn Elfyn Jones, John Gwilym Jones, Pryderi Llwyd Jones, Enid R. Morgan, Rob Nicholls, Carwyn Siddall, Peter M. Thomas, Alun a Gwilym Tudur, Megan Williams, J Ronald Williams a Mererid Mair. Rydym yn ymwybodol y gallasem fod wedi gwahodd llawer un arall i gyfrannu i’r gyfrol hon. Ein gobaith yw y bydd ambell un yn mynd ati i rannu profiad ac i gofnodi ei hanes ei hun; ac edrychwn ymlaen at weld yn y papurau enwadol ambell ysgrif yn rhannu’r storïau hynny.

Dau gwestiwn sy’n codi, wrth gwrs, yw beth yw natur ‘galwad’ a beth yw seiliau Beiblaidd a diwinyddol galwad. Y Parchg Ddr Noel Davies sy’n mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn yn y gyfrol hon, gan gynnig arweiniad clir i’r hyn yw galwad i fugeiliaeth Gristnogol.

Dyma gyfrol hynod ddifyr a gwreiddiol, a bydd ar gael yn y siopau ddechrau mis Mai, pris £8.99.