Cariad Mawr Duw

Yn ystod mis Ebrill cyhoeddwyd CD newydd ar gyfer addoli gyda plant, sef Cariad Mawr Duw, sy’n cynnwys 7 o ganeuon addoli newydd sbon ar gyfer y plant, wedi eu cyfansoddi gan Simon Parry, sy’n gyfrifol am fudiad All Stars Kids Club, a’u cyfieithu i’r Gymraeg gan Arfon Jones.

Mae’r caneuon bywiog yma ar gael ar y CD, Spotify ac yn fuan Apple Music hefyd. Mae’r caneuon ar gael mewn 2 fformat, sef fel traciau cefndir yn unig, ac hefyd fersiwn gyda côr plant yn canu’r caneuon, sy’n help wrth gwrs wrth ddysgu’r caneuon. Mae Meilir Geraint yn lleisio’r caneuon, gyda chôr o blant yn canu yn y cefndir.

Isod ceir esiampl o un o’r caneuon, sef DA YW DUW

Mae nghalon yn d’addoli
Am bopeth wnest i mi.
Cefais fywyd llawn a rhyddid
Trwy Iesu Grist dy Fab.
A dwi’n mynd i ddweud wrth eraill
I bawb gael gweld y gwir –
Gollyngaist fi yn rhydd!

Cytgan:
Mae Duw mor dda, Duw mor dda,
Dwi’n mynd i ddathlu,
dw i’n mynd i weiddi,
Mae Duw mor dda, Duw mor dda i mi.
Dwi’n mynd i ganu, dwi’n mynd i rannu,
Mae Duw mor dda, Duw mor dda i mi.

Arglwydd rwyt yn Dduw mor ffyddlon
a’th gariad sy’n ddi-drai
A ble bynnag fyddai’n crwydro
Fe fyddi di wrth law
Dwi’n mynd i weiddi’n uchel
I bawb gael gweld y gwir
Gollyngaist fi yn rhydd!

Dyma adnodd gwych i ysgolion ac ysgolion Sul / clybiau plant / Llan Llanast ayyb. Nid yw’r CD ar gael yn y siopau ond mae modd archebu CD trwy yrru siec (yn daladwy i Cyngor Ysgolion Sul) am £7.50, sy’n cynnwys cludiant at: Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH. Neu glicio ar y ddolen isod:





Hefyd ar y gweill gan All Stars Kids Club mae cyfres o ffilmiau byr yn cael eu hadrodd gan Martyn Graint, yn ein cyflwyno ni i rai o hoff storiau’r Beibl. Daw mwy o newyddion am hyn maes o law.