Sôn am Iesu

Sôn am Iesu
Cwrs newydd i’n helpu i rannu ein ffydd yn hyderus a naturiol gydag eraill.

Beth am i ni Sôn am Iesu gydag eraill

Sgyrsiau gyda Christnogion yw un o’r dylanwadau pwysicaf wrth ddod â phobl i ffydd. Bydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli i rannu eich ffydd a bydd yn rhoi awgrymiadau ymarferol i chi i’ch helpu chi i fod yn naturiol ac yn berthnasol wrth i chi siarad am Iesu gyda’r bobl rydych chi’n cwrdd â nhw.

Mae yna chwe sesiwn hwyliog yn rhan o’r cwrs hwn, gan gynnwys ffilmiau byr, tystiolaethau ysbrydoledig, enghreifftiau go iawn gan bobl sy’n siarad am Iesu, a llyfr cwrs byr, hawdd ei ddilyn. Mae’r adnodd ar gael ar gyfrwng DVD neu USB ar gyfer eich grwpiau cartref – mae’r llyfr yn Gymraeg, a’r ffilmiau i gyd wedi eu is-deitlo yn Gymraeg (ond Saesneg yw iaith lafar wrteiddiol y ffilmiau).

Beth alla i ei wneud i rannu fy ffydd?
Gallwch chi ddangos y ffilm fer sy’n gyflwyniad i’r cwrs i’ch eglwys ar ddydd Sul, neu trwy’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol eich eglwys, i annog pawb yn eich eglwys i fynd ar y daith arbennig o dystio i Iesu. Yna defnyddiwch y cwrs ffilmiau mewn grwpiau bach yn ystod yr wythnos, gan wylio’r fideo, ei drafod, ei gymhwyso i’ch sefyllfa, a gweddïo gyda’n gilydd yn gofyn i Dduw eich helpu chi i wneud Iesu’n hysbys. Y nod yw arfogi Cristnogion i wneud y mwyaf o bob cyfle i helpu ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o’r teulu i ystyried Iesu drostynt eu hunain ac i ddod yn ddilynwyr iddo. Mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd i siarad am Iesu a rhannu eu ffydd. Bydd y cwrs hwn yn eich ysbrydoli i rannu’ch ffydd.

Meddai rhai sydd wedi dilyn y cwrs:
‘Mae’r ymateb i’r cwrs wedi bod yn fwy nag y gallwn fod wedi gobeithio amdano. Soniodd un dyn yn ei 50au iddo gael sawl sgwrs gyda phobl mae wedi cyfarfod â nhw wrth gerdded ei gi. Soniodd dyn hŷn arall am sut mae wedi achub ar y cyfle i siarad am ei ffydd a’i obaith yn Iesu pan ofynnwyd iddo am ei driniaeth ar gyfer canser. Mae pawb ar y cwrs wedi siarad am sut maen nhw’n gweddïo am y pum enw y gwnaethon nhw eu hysgrifennu i lawr ar wythnos un, ac mae llawer bellach wedi cael cyfleoedd i siarad â rhai ohonyn nhw am Iesu. ‘
‘Erbyn hyn, rwy’n teimlo fy mod wedi cael pecyn cymorth i’w ddefnyddio mewn pob math o gyd-destunau, ac rwyf wedi cael sgyrsiau gwych o ganlyniad. Rwy’n gwybod nawr mai siarad am Iesu yw fy swydd i – bydd y gweddill i fyny i Dduw! ’

Bydd y chwe sesiwn Sôn am Iesu yn eich ysbrydoli i rannu eich ffydd yn hyderus ac yn naturiol. Y nod yw eich paratoi chi i wneud y mwyaf o bob cyfle i helpu ffrindiau, cydweithwyr ac aelodau o’r teulu i ystyried Iesu drostynt eu hunain ac i ddod yn ddilynwyr iddo.

Mae’r pecyn yn cynnwys DVD neu USB gyda chwe fideo hyfforddi, ynghyd â ffilmiau ar ffurf dameg a llyfryn cwrs 44 tudalen sy’n cyd-fynd ag ef. Gellir prynu copïau ychwanegol o’r llyfryn ar wahân ar gyfer aelodau’r grŵp. (Mae’r fersiwn ffon gôf USB o ansawdd uwch na’r DVD).

Cliciwch isod am fwy o wybodaeth ac i archebu’r adnoddau Cymraeg:

Pecyn DVD a llyfr

Pecyn Ffon gôf USB a llyfr

Llyfrau ychwanegol ar gyfer yr aelodau

Dyma ffilm fer yn rhoi rhagflas o’r cwrs: