Ffydd yn y Cartref

Yn ogystal â gwaith yn yr Ysgol Sul a’r Eglwys mae datblygu ffydd ar yr aelwyd hefyd yn bwysig. Mae cyfleoedd i deuluoedd rannu storiâu a gweithgareddau fydd yn helpu i wreiddio plant a phobl ifanc yng ngwirioneddau’r Efengyl.

Isod ceir gwefan sy’n llawn syniadau ynglŷn â chyflwyno’r ffydd yn y cartref:
http://www.going4growth.com/growth_in_faith_and_worship/faith-in-the-home

Y Beibl mewn blwyddyn i deuluoedd
Beth am fynd ar daith drwy’r Beibl fel teulu?
Mewn cyfnod lle mae llai o ddysgu ar y Beibl mewn ysgolion dyddiol, a’r nifer o blant sydd bellach yn mynd i Ysgol Sul neu glwb plant yn rheolaidd wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Ysgolion Sul wedi rhyddhau adnodd syml a hwylus i helpu teuluoedd i ddarllen y Beibl gyda’i gilydd yn y cartref.

Mae hwn yn adnodd newydd, lle nad oes angen prynu yr un llyfr, gan bod modd lawr lwytho’r poster a defnyddio gwefan beibl.net er mwyn cael y storïau i gyd. Mae Cyngor Ysgolion Sul yn annog teuluoedd i ddarllen 52 hanes o’r Beibl mewn cyfnod o flwyddyn – gan ddechrau ar unrhyw adeg cyfleus. Trwy wneud hynny ceir taith synhwyrol trwy brif lyfrau a themau y Beibl.

Cynllun syml a hwylus
Y cyfan sydd angen ei wneud yw lawr lwytho poster sy’n cynnwys y rhaglen am y flwyddyn. Gellir un ai argraffu y fersiwn llawn A3 neu argraffu’r ddau hanner maint A4, a’i gludio at ei gilydd i geu un poster maint A3.

Y Beibl mewn blwyddyn i deuluoedd – PDF A3
Y Beibl mewn blwyddyn i deuluoedd – PDF dros ddau dudalen A4
Dros 52 wythnos mae cyfle i gael trawsolwg ar brif storïau a themau y Beibl. Mae modd defnyddio unrhyw Feibl, ond amgrymir destun beibl.net, gan ddefnyddio’r fersiwn lliw ‘365 o storïau o’r Beibl’ os yn bosibl. Mae modd mynd i wefan beibl.net hefyd a darllen yr hanes yno, neu lawr lwytho Ap Beibl i’ ddyfais ffôn neu lechen. Mae anogaeth i bawb neulltuo amser yn ystod yr wythnos fel unigolion i ddarllen yr hanes, gan ganiatáu ddigon o amser i bawb wneud hynny mewn da bryd, ac yna trefnu amser rheolaidd yn wythnosol i ymgynnull o gwmpas y bwrdd i gyd-ddarllen, gan roi cyfle i drafod a holi.

Dylid caniatau tua 20 munud yn wythnosol ar gyfer gwneud hyn. Awgrymir cytuno ar amser penodol i wneud hyn bob wythnos, fel bore neu nos Sul, er mwyn hwyluso’r drefn.

Wedi darllen yr hanes, amgrymir cyd-drafod y pwyntiau canlynol yn wythnosol:

1. Pa agwedd o’r stori ddaru eich cyffroi, ac sy’n fwya rhyfeddol?
2. Beth gredwch chi mae’r darn yma yn ei ddweud wrthym am natur Duw?
3. Beth ddysgoch chi am y bobl oedd yn rhan o’r hanes arbennig yma?
4. Be gredwch chi mae’r hanes yma yn ei ddweud wrthym ni heddiw?
5. Beth fedrwn ni wneud mewn ymateb i ddarllen y stori yma?

Yna anogir pawb i dreulio amser byr mewn gweddi cyn dod a’r cyfnod o gwmpas y bwrdd i ben.

Beibl newydd i deuluoedd
Yn ystod 2020 cyhoeddwyd ‘Beibl Newydd y Teulu’ – mae hwn yn Feibl lliwgar wedi ei greu’n benodol fel adnodd ar gyfer y cartref, sy’n cynnwys pwyntiau trafod a gweddi, a chyfle i feithrin trafodaeth. Mae’r Beibl lliwgar hwn dal ar gael am £13.99, un ai o’ch siop Gymraeg leol neu o gwales.com. Wedi ei baratoi gan Bob Hartman, sy’n gyfrifol am yr adnodd addsygol Agor y Llyfr, fe ddisgrifiwyd yr adnodd hwn ganddo fel, ‘Agor y Llyfr ar gyfer y Cartref’.

Ffydd yn y cartref
Gyda thymor arferol yr Ysgol Sul ar fin dod i ben, ni fu’n bosib trefnu’r arlwy arferol diwedd tymor eleni fel trip Ysgol Sul, picnic teuluol, barbeciws na diwrnodau chwaraeon. Efallai bydd rhai yn bryderus o golli cyswllt gyda phlant ar ddiwedd tymor, lle na fu cyfle i’w gweld ers nifer o fisoedd.

I’r perwyl hynny mae Cyngor Ysgolion Sul wedi datblygu adnodd newydd mewn cyswllt gydag elusen Godventure, i baratoi pecyn Cymraeg sy’n cynnwys cylchgrawn maint A5 i blant, sy’n agor i fyny i greu poster A3 lliwgar gyda digon o le i ysgrifennu a lliwio ynddo, ynghyd â 25 o sticeri a 4 cerdyn post lliwgar sy’n cynnwys gêm, adnod i’n calonogi a syniadau crefft.

Mae’r pecyn yn dilyn thema ‘gobaith’ ac yn ein hatgoffa o adnod yn Eseia, ‘Bydd y rhai sy’n pwyso ar yr Arglwydd yn cael nerth newydd’. Mae’r cyfan oll yn dod mewn amlen, yn barod i roi stamp arferol ail ddosbarth arno, er mwyn eu postio i gartrefi plant a theuluoedd. Ni fydd yr amlen wedi ei selio, felly fe fydd modd i chi gynnwys neges bersonol i mewn ynddo cyn ei yrru.

Dyma ffordd rhwydd a rhad o atgoffa criw ein hysgolion Sul bod yr eglwys dal yno ac am gadw mewn cyswllt mewn dyddiau heriol.

Mae’r rhain ar gael gennym am £1 yr un trwy archebu 5 neu fwy neu 80c trwy archebu 25 neu fwy. Mae cludiant am ddim.

Gyrrwch eich archeb (gyda sieciau yn daladwy i Cyngor Ysgolion Sul) at Aled Davies, Cyngor Ysgolion Sul, Ael y Bryn, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd LL53 6SH. Neu ebostiwch eich archebu i aled@ysgolsul.com a gallwn anfon anfoneb PayPal i chi dalu gyda cerdyn.

Syniadau i feithrin ffydd yn y cartref yn ystod Gwyliau'r Haf gan Saint y Gymuned

Mae ‘What shall we do today?’ (PDF) wedi’i gynllunio fel pecyn i’w anfon dros y we at deuluoedd, ac mae’n llawn syniadau y gellir eu defnyddio yn ystod gwyliau’r haf.

Mae ‘Activities with families this summer’ (PDF) ar gyfer arweinwyr grwpiau i’w helpu i gynllunio gweithgareddau wrth gasglu teuluoedd at ei gilydd mewn ffordd sy’n ddiogel yn ystod pandemig.

Meithrin Babanod a phlant bach yn y ffydd: canllawiau ymarferol i rieni
Mae gan fudiad rhianta Parenting for Faith ystod eang o adnoddau newydd sbon am ddim i gefnogi eglwysi a rhieni a gofalwyr rhai bach. ‘I gyd-fynd â llyfr ymarferol Rachel Turner Parenting for Faith – Babies and Toddlers: Nurturing your child’s spiritual life, mae yna bum fideo byr y gall rhieni eu gwylio ar eu pennau eu hunain, gyda phartner neu ffrind neu fel rhan o grŵp beichiogrwydd, neu Ti a Fi. Mae pob fideo yn dod gyda chanllaw ar sut i redeg sesiwn (ar-lein neu’n bersonol) a thaflen ymarferol ar gyfer y cartref. Mae yna dri fideo gyda chanllawiau ar gyfer arweinydd, wedi’u cynllunio i’w defnyddio gyda theuluoedd sy’n dod â babanod ar gyfer bedydd neu wasnaeth cyflwyno/bendithio.

Yn union o’u dyddiau cynharaf iawn, gall babanod a phlant bach gyfarfod ac adnabod Duw. Mae’n rhaid i rieni a gofalwyr fod yn rhan allweddol o’u helpu i wneud hynny, ac mae eglwysi, ffrindiau a theulu i gyd yn rhan o’r gymuned gefnogol sy’n eu hannog a’u harfogi ar y daith.

Mae llyfr Parenting for Faith, Babies and Toddlers: Nurturing your child’s spiritual life gan Rachel Turner, yn eich helpu i fynd ar y daith hon a chefnogi’r rhai yn eich eglwys a’ch cymuned i wneud yr un peth. Mae ar gael am £ 4.99, gyda phrisiau gostyngedig ar gyfer niferoedd.

Y fideos
Mae pum fideo fer ar gael hefyd, i gyd yn ymwneud â meithrin bywyd ysbrydol eich babi neu blentyn bach, ac maent ar gael yn hollol rhad ac am ddim ar y wefan. Yno hefyd fe welwch ganllawiau y gellir ei lawrlwytho am ddim i’ch helpu i’w defnyddio i gynnal sesiynau mewn grwpiau beichiogrwydd, babanod neu blant bach. Fe’u dyluniwyd i weithio i grwpiau ar-lein ac yn bersonol ac i fod yn hawdd i’r rhai sy’n newydd i ffydd neu sy’n archwilio ffydd yn ogystal â’r rhai sydd wedi bod yn Gristnogion ers amser maith.

Y pum sesiwn yw:
1. Cychwyn ar y daith
2. Cadw i fynd ynghanol realiti bywyd
3. Cadw cysylltiad gyda’n gilydd
4. Straeon y Beibl ac amser gwely
5. Sgwrsio gyda Duw

Bedydd babanod, neu gwasanaeth diolch/cyflwyno/bendithio plentyn
Mae tri fideo a chanllaw i arweinwyr ar gyfer teuluoedd sy’n dod â babanod neu blant ar gyfer bedydd babanod, neu gwasanaeth bendithio ar gael hefyd. Y nod yw cadarnhau’r ymrwymiad a’r penderfyniad y mae’r teulu’n eu gwneud a rhannu syniadau syml, ymarferol ar sut y gallant feithrin ffydd gartref. Maent ar gael am ddim ar y wefan, felly gallir anfon e-bost at rieni gyda’r linc perthnasol, gwylio gyda nhw ar Zoom neu mewn sefyllfa wyneb yn wyneb.
Mae’r tri fideo yn ymdrin â:
– Geiriau
– Cerddoriaeth
– Cymuned

Mae mwy o wybodaeth ar gael o:
https://parentingforfaith.org/babies-and-toddlers

Syniadau a chefnogaeth
Dwy wefan Saesneg sy’n cynnig syniadau a chefnogaeth yw:

Rhai llyfrau defnyddiol
Mae gan Gyhoeddiadau’r Gair nifer o lyfrau defnyddiol i rieni ddarllen gyda’i plant. Yn ogystal â dewis helaeth o Feiblau lliw mae’r llyfrau canlynol yn cynnwys myfyrdodau a gweddïau:

Ffilmiau Faithful Families
Faith at Home: Mindfulness (YouTube)

Yn y ffilm hwn, mae Traci Smith yn siarad am ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) ac yn cynnig tri ymarferiad syml y gellir eu defnyddio i ddatblygu ymwybyddiaeth ofalgar gartref gydag aelodau’ch teulu.

Faith at Home: Serving Others (YouTube)

Yn y ffilm hwn, mae Traci Smith yn siarad am dri syniad gwahanol ar gyfer gwasanaethu eraill.

Faith at Home: Dinner Time (YouTube)

Yn y ffilm hwn, mae Traci Smith yn siarad am arferion amser cinio ac yn rhoi tair enghraifft o arferion ffydd amser cinio hawdd i’w defnyddio gartref.

Faith at Home: Bedtime (YouTube)

Yn y ffilm hwn, mae Traci Smith yn siarad am arferion ysbrydol amser gwely ac yn tair disgyblaeth amser gwely syml.

Adnoddau eraill
Bydd llawer o blant yn ei chael yn anodd i fynd i’r Ysgol Sul erbyn hyn. Weithiau ni fydd ysgol Sul ar gael yn lleol, ac weithiau bydd pethau eraill yn dod ar draws. Beth am gynnal gweithgaredd ar yr aelwyd? Mae adnoddau Amser Beibl yn ddelfrydol ar gyfer hyn, lle mae modd argraffu taflenni gwersi addas ar gyfer pob oed o dan 5 hyd at 16 oed.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae ambell ffilm Gristnogol ar gael hefyd i’w gwylio fel teulu. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Mae App Beiblaidd Arwyr Ancora hefyd yn ffordd ddifyr i blant chwarae gem tra yn dysgu hanesion am fywyd Iesu.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.